Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweinwyr busnes lleol yn cefnogi menter Invest in Swansea

Mae dau o ffigurau busnes arweiniol Abertawe wedi dangos eu cefnogaeth ar gyfer Invest in Swansea, menter newydd y ddinas i ddenu buddsoddiad o'r DU ac yn rhyngwladol.

Peter Loosmore & Adam Gibbons

Peter Loosmore & Adam Gibbons

Mae'r rhaglen, a lansiwyd gan Gyngor Abertawe ac Ardal Gwella Busnes Abertawe, yn llwyfan cynhwysol ar gyfer arddangos rhaglen adfywio £1 biliwn y ddinas a'i wneud yn haws i fuddsoddwyr archwilio cyfleoedd ar draws sectorau amryfal. 

Meddai Adam Gibbons, Rheolwr Canolfan y Cwadrant yn Abertawe, "Mae Invest in Swansea yn garreg filltir go iawn ar gyfer y ddinas. 

"Mae'n rhoi sylw i raddfa'r hyn sy'n digwydd yma - o hamdden a manwerthu i dai a digidol - ac yn rhoi'r hyder i fuddsoddwyr weld Abertawe fel rhywle lle gall syniadau mawr ffynnu. 

"Mae'r Cwadrant wedi bod yng nghanol y ddinas o hyd, ac rydym yn gyffrous i fod yn rhan o'r bennod newydd hon."

Meddai Peter Loosemore o gwmni St Mary's Square Developments, "Mae'r amseru'n berffaith ar gyfer y fenter hon. Mae nifer enfawr o gynlluniau adfywio'n brawf bod Abertawe'n esblygu'n gyflym, ac mae llwyfan Invest in Swansea yn ffordd o rannu cynnydd a chynlluniau yn uniongyrchol â buddsoddwyr.

"Mae'n gyfle i ddangos bod Abertawe'n uchelgeisiol ac yn barod ar gyfer partneriaethau sy'n darparu gwerth parhaol ar gyfer y ddinas a'i chymunedau. Rydym yn falch o gefnogi'r fenter."

Mae eu cefnogaeth yn adlewyrchu'r ysbryd cydweithredol sy'n sail i drawsnewidiad Abertawe, lle mae partneriaid preifat yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni twf a darparu swyddi a chyfleoedd newydd.

Anogir buddsoddwyr i archwilio cyfleoedd yn www.investswansea.com a chysylltu â thîm Invest Swansea am gymorth wedi'i deilwra.

Gall ymwelwyr archwilio cynlluniau ar gyfer datblygiadau cyfredol ac yn y dyfodol a chael mynediad at arweiniad am gynllunio a rheoliadau.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Medi 2025