Toglo gwelededd dewislen symudol

Syniadau'r cyhoedd yn helpu i ddatblygu cynlluniau newydd ar gyfer amddiffynfeydd môr y Mwmbwls

Mae barn y cyhoedd wedi helpu i greu cynigion manwl ar gyfer amddiffynfeydd môr newydd a fydd yn helpu i ddiogelu'r Mwmbwls am ddegawdau i ddod.

Mumbles Sea Defences artist's impression

Mumbles Sea Defences artist's impression

Mae'r meddyliau a'r syniadau wedi'u cynnwys yng ngweledigaeth Cyngor Abertawe a fydd yn amddiffyn y gymuned rhag llifogydd a llanwau cynyddol - ac a fydd yn gwella'r prom fel atyniad diogel, modern a chynhwysol i ymwelwyr.

Mae'r cynigion yn cynnwys mwy o le i gerddwyr a beicwyr rannu'r prom yn ofalus, gwarchod coed a rhagor o gyfleoedd ar gyfer chwarae ac ymlacio.

Meddai Mark Thomas, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Rydym wedi gwrando ar y cyhoedd, busnesau ac eraill fel Cyngor Cymuned y Mwmbwls - a nawr hoffem gael eu hadborth ar y cynigion datblygu cyffrous sydd gennym.

"Mae angen i ni gadw cartrefi, busnesau a chyfleusterau ar lan môr y Mwmbwls ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a dyma fydd yr amddiffynfeydd môr gwell yn ei wneud."

Mae angen yr amddiffynfeydd arfordirol gwell oherwydd newid yn yr hinsawdd a thraul ar yr adeiledd Fictoraidd presennol. Heb yr amddiffynfeydd môr newydd, bydd y perygl o lifogydd i ddeiliaid tai a busnesau'n parhau i gynyddu.

O ganlyniad, lluniodd y cyngor a'r ymgynghorwyr Amey gynllun ar gyfer yr ardal 1.2km o amddiffynfeydd o faes parcio Sgwâr Ystumllwynarth i'r llithrfa o flaen tafarn The Pilot ger Verdi's.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y syniadau cychwynnol dros yr haf. Roedd adborth gan y cyhoedd, sefydliadau ac eraill wedi helpu'r cyngor i lunio cynigion manwl y gall pawb eu gweld yn awr ar-lein.

Gall y cyhoedd a sefydliadau cyhoeddus fynegi eu barn eto. Caiff y cynnig hwn ei wella gydag adborth y cyhoedd ac yna bydd yn destun proses cynllunio ffurfiol.

Mae'r cynllun yn:

  • amddiffyn cartrefi a busnesau
  • cadw golygfeydd o'r môr o'r prom
  • lledaenu'r prom i greu lle newydd i gerddwyr a beicwyr
  • cadw'r rhan fwyaf o'r ardaloedd parcio yn yr ardal
  • gwarchod coed presennol
  • cyflwyno rhagor o goed a gwyrddni

Meddai'r Cyng. Thomas: "Mae e'n gynllun cyffrous gyda dau nod pwysig sef amddiffyn y Mwmbwls a'i wella fel cyrchfan. Y nod yw bod yn sensitif i'r Mwmbwls fel cyrchfan glan môr i ymwelwyr wrth amddiffyn y bobl a'u heiddo.

"Yn unol â dymuniadau'r cyhoedd, bydd yn adlewyrchu treftadaeth a diwylliant yr ardal, bydd yn gwella bioamrywiaeth a bydd yn caniatáu i feicwyr a cherddwyr ddefnyddio'r un lle arbennig ar y prom - a'i rannu'n ofalus.

"Bydd gwell goleuadau, rhagor o finiau sbwriel, rhagor o seddi - a defnyddir deunyddiau o ansawdd.

"Bydd yn creu gwell cysylltiadau i gerddwyr rhwng y prom a busnesau Mumbles Road.

"Byddwn, ar wahân, yn cymryd cipolwg agos ar sut gellir gwneud Mumbles Road yn fwy diogel - a gall hyn gynnwys creu llwybr beicio i'r rheini sy'n dymuno cyrraedd eu cyrchfan yn gyflym."

I gymryd rhan yn yr ymgysylltiad cyhoeddus, ewch i www.amey.co.uk/mumbles-pac.

Close Dewis iaith