Disgyblion hapus yn arddangos ymagwedd gadarnhaol at fywyd ysgol
Yn ôl arolygwyr, mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Sea View yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus, maent yn cymryd rhan mewn gwersi'n dda ac mae ganddynt agweddau cadarnhaol at fywyd ysgol.


Mae gan arweinwyr a staff ddisgwyliadau uchel ar gyfer lles a dysgu disgyblion ac maent yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol â theuluoedd, gan greu amgylchedd meithringar fel bod aelodau o gymuned yr ysgol yn teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
Ymwelwyd â'r ysgol gan dîm o Estyn yn gynharach eleni ac mae bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad.
Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae canmoliaeth i gwricwlwm pwrpasol yr ysgol sy'n ystyried anghenion a chefndiroedd diwylliannol gwahanol disgyblion yn ogystal â'r amrywiaeth o weithgareddau diddorol i ddatblygu ymgysylltiad ac annibyniaeth disgyblion yn eu dysgu.
Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu sgiliau llythrennedd, mathemateg a digidol.