Toglo gwelededd dewislen symudol

Gorymdaith y Nadolig Abertawe'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr bwysig

Mae Gorymdaith y Nadolig Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr bwysig.

Christmas Parade Award

Christmas Parade Award

Mae'r digwyddiad a gynhelir gan Gyngor Abertawe wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer gwobr digwyddiad y flwyddyn y categori  awdurdod lleol yng ngwobrau Digwyddiadau Awyr Agored Cenedlaethol (NOEA) 2025.

Cynhelir y seremoni wobrwyo yn ninas Caerfaddon nos Fercher 26 Tachwedd i ddathlu rhagoriaeth ar draws diwydiant digwyddiadau awyr agored y DU.

Y Gwobrau NOEA yw gwobrau pennaf y DU sy'n dathlu digwyddiadau awyr agored, ac mae rhestr fer eleni'n cynnwys y nifer mwyaf erioed o geisiadau.

Dewiswyd y rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol oherwydd eu harloesedd, eu safon, a'u cyfraniad at y sector. Mae Cyngor Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar y cyd â gwyliau cenedlaethol pwysig, awdurdodau lleol arloesol eraill a threfnwyr digwyddiadau annibynnol.

Meddai'r Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, "Dyma'r ail dro eleni y mae rhaglen ddigwyddiadau Abertawe wedi cael cydnabyddiaeth ar lwyfan genedlaethol, sy'n dyst i greadigrwydd, ymroddiad, ac effaith ein timau anhygoel.

"Mae Gorymdaith y Nadolig yn un o uchafbwyntiau calendr yr ŵyl yn y ddinas, ac mae'r gydnabyddiaeth hon yn dangos bod Abertawe'n parhau i gyflwyno digwyddiadau cofiadwy a chynhwysol o safon ar gyfer ein cymunedau."

Meddai Susan Tanner, Prif Swyddog Gweithredol yn NOEA, "Mae'r gwobrau hyn yn parhau i arddangos yr hyn sy'n gwneud ein diwydiant yn ddiwydiant o'r radd flaenaf, lle mae cyrraedd y rhestr fer yn fraint yn ei rhinwedd ei hun.

"Bob blwyddyn, rydym wedi ein hysbrydoli gan y bobl a'r prosiectau sy'n gwneud i ddigwyddiadau awyr agored ffynnu. Mae'r rheini sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni wedi gosod y safon unwaith eto."

Eleni, cynhelir Gorymdaith y Nadolig, a enwebwyd ar gyfer gwobr, nos Sul 23 Tachwedd ar hyd llwybr newydd. Bydd yr orymdaith yn dechrau yn Neuadd y Ddinas cyn teithio i lawr St Helen's Road drwy Ffordd y Brenin, ar draws College Street, i lawr Castle Street a Caer Street, a dod i ben ar Princess Way, gan gynnig profiadau Nadoligaidd a golygfeydd newydd o'r orymdaith i deuluoedd ar draws y ddinas.

Mae manylion llawn, gan gynnwys amserau a gwybodaeth am hygyrchedd, ar gael yn:
www.croesobaeabertawe.com/nadolig-abertawe/gorymdaith-y-nadolig/

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Tachwedd 2025