Cyfle i ddweud eich dweud ar gynlluniau chwaraeon olwynog Tregŵyr ac Ynystawe
Bydd gan selogion chwaraeon olwynog a phreswylwyr lleol gyfle cyn bo hir i helpu i lunio cynlluniau gwella parciau sglefrio sydd wedi'u clustnodi ar gyfer Tregŵyr ac Ynystawe.


Mae gweithdai wedi'u trefnu gan Gyngor Abertawe ar gyfer dydd Mawrth 6 Mai pan fydd arbenigwyr o Curve Studio wrth law i ddatgelu eu syniadau a gwrando ar adborth.
Mae'r cynlluniau'n rhan o fuddsoddiad gwerth £2.8m mewn cyfleusterau chwaraeon olwynog ledled y ddinas.
Cynigir cyfleuster sy'n canolbwyntio ar feicio BMX ar gyfer cyfadeilad chwaraeon Elba yn Nhregŵyr, ac mae gwelliannau sylweddol yn yr arfaeth ar gyfer y parc sglefrio ym Mharc Ynystawe.
Bydd gweithdy Tregŵyr yn para o 4.30pm i 6pm yn Ysgol Gyfun Tregŵyr ar Cecil Road.
Cynhelir gweithdy Ynystawe o 7pm i 8.30pm yng Nghlwb Criced a Phêl-droed Ynystawe ar Park Road.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r cynigion ar gyfer cyfadeilad Elba a Pharc Ynystawe'n rhan o fuddsoddiad mawr ar draws Abertawe sy'n golygu na fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl deithio mwy na dwy filltir i gyrraedd cyfleuster o ansawdd uchel ar gyfer sglefrfyrddio, beicio BMX a chwaraeon olwynog eraill.
"Mae adborth gan selogion chwaraeon olwynog a chymunedau lleol yn hanfodol i'n cynlluniau oherwydd rydym am ddatblygu cyfleusterau sy'n diwallu anghenion ac yn bodloni dyheadau pobl.
"Mae'r gweithdai ar gyfer cynigion cyfadeilad Elba a Pharc Ynystawe'n gyfle gwych i helpu i ddylanwadu ar faint, dyluniad a chymeriad y safleoedd hyn."
Mae parc sglefrio wedi'i uwchraddio bellach ar gael i'w ddefnyddio ym Mharc Coed Bach ym Mhontarddulais ac mae gwaith yn mynd rhagddo i wneud gwelliannau i'r parc sglefrio presennol ym Mharc Melin Mynach yng Ngorseinon.
Mae safleoedd eraill sydd eisoes wedi'u cyhoeddi ar gyfer gwelliannau i'w parciau sglefrio'n cynnwys sgwâr sglefrio ym Mharc Victoria a pharciau sglefrio yng nghymdogaeth Mynydd Newydd ym Mhen-lan a Chanolfan y Ffenics yn Townhill. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer trac pwmpio newydd i feicwyr BMX newydd ac iau ym Melin Mynach, tra bydd y trac pwmpio presennol yn Nyffryn Clun yn cael ei adnewyddu.
Bydd manylion safleoedd eraill i elwa'n cael eu cyhoeddi maes o law.