Enwebiadau ar agor ar gyfer gwobrau chwaraeon
Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2025, mewn cydweithrediad â Freedom Leisure.
Cynhelir y seremoni flynyddol, sydd bellach yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr chwaraeon Abertawe, ar 2 Ebrill 2026 yn Neuadd Brangwyn fawreddog.
Mae chwaraeon yn rhan annatod o ddiwylliant Abertawe, ar lawr gwlad ac ar y lefel elît, a bydd y digwyddiad yn cydnabod unigolion, timau a chlybiau ar draws 15 categori, gyda gwobrau i ddathlu'r cyfraniadau chwaraeon yn Abertawe. Mae'r rhain yn cynnwys Person Ysbrydoledig Ifanc, Gwirfoddolwr, Hyfforddwr Cymunedol a Hyfforddwr Perfformiad. Agorodd y cyfle i wneud enwebiadau ar 3 Tachwedd 2025 a bydd yn dod i ben ar 6 Ionawr 2026.
Mae categorïau eraill yn cynnwys Chwaraewr Iau a Chwaraewraig Iau, Tîm Ysgol, Clwb neu Dîm Iau a Chlwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn.
Cyflwynir gwobrau hefyd ar gyfer Annog Abertawe Actif, Chwaraewr ag Anabledd y Flwyddyn a Chwaraewr y Flwyddyn.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae Gwobrau Chwaraeon Abertawe'n dathlu ymroddiad a thalent anhygoel cymuned chwaraeon y ddinas.
"O wirfoddolwyr ar lawr gwlad ac athletwyr ar y lefel elît, mae'r gwobrau hyn yn rhoi sylw i'r bobl sy'n ein hysbrydoli, yn hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac yn gwneud Abertawe'n falch.
Mae gallu cydnabod y gweithgareddau gwych yn y ddinas sy'n hyrwyddo ffordd iach o fyw yn bwysig iawn ac rwy'n edrych ymlaen at y digwyddiad."
Bydd yr enwebiadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2025, mewn cydweithrediad â Freedom Leisure, ar gael ym mis Ionawr.
Am ragor o wybodaeth neu i gyflwyno cais ewch i https://www.abertawe.gov.uk/gwobrauchwaraeon
Gyda'n gilydd, gadewch i ni anrhydeddu'r arwyr chwaraeon lleol sy'n gwneud Abertawe'n falch.
