Toglo gwelededd dewislen symudol

Clybiau chwaraeon yn gallu gwneud cais am grantiau newydd gan y cyngor o hyd at £1,500

Gall nifer o glybiau chwaraeon yn Abertawe wneud cais yn awr am grantiau o hyd at £1,500 i helpu'r ddinas allan o'r pandemig.

Waunarlwydd Galaxy Football Club

Waunarlwydd Galaxy Football Club

Heddiw, (sylwer 23 Awst) mae Cyngor Abertawe wedi lansio'r cynnig i glybiau a chymdeithasau sydd naill ai'n rheoli eu meysydd chwarae'r cyngor eu hunain neu'n prydlesu meysydd gan y cyngor.

Bydd yn helpu clybiau a ddefnyddir gan filoedd o breswylwyr lleol wrth iddynt geisio dod trwyddi yn dilyn anawsterau'r 18 mis diwethaf.

Mae'r cyngor eisoes wedi hepgor ffïoedd hawlenni i glybiau sy'n llogi meysydd chwarae'r cyngor nad ydynt yn rheoli'r meysydd eu hunain.

Gweinyddir y grantiau newydd gan swyddogion chwaraeon ac iechyd, rhan o dîm Gwasanaethau Diwylliannol y cyngor.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae clybiau a chymdeithasau chwaraeon Abertawe yn hanfodol i gadw'n cymunedau'n gryf a'n preswylwyr yn heini ac yn iach.

"Rydym yn cynnig y cymorth newydd hwn i'r rheini sy'n hunanreoli'r meysydd neu'n  prydlesu'n rhai ni wrth iddynt barhau i weithio'n galed yn sgîl y pandemig.

"Rydym yn gwneud popeth y gallwn i'w helpu nhw - a chlybiau eraill - i gyrraedd eu nodau newydd."

I gefnogi adferiad yr economi leol o'r pandemig, mae'r cyngor, gyda phartneriaeth Adfywio Abertawe, wedi datblygu cynllun adferiad economaidd ar gyfer Abertawe. Rhoddir cefnogaeth gref i sectorau twristiaeth, hamdden, digwyddiadau a lletygarwch y ddinas.

Mae'r cyngor yn cefnogi busnesau, sefydliadau ac unigolion i fagu cadernid newydd yn yr economi leol. Mae £20m wedi'i ddodi o'r neilltu. Mae'r grantiau chwaraeon yn rhan o hyn.

Gall clybiau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y cynllun grant newydd gysylltu â'r cyngor am gyngor ar ffynonellau arian eraill.

Derbynnir ceisiadau am grant o heddiw tan 30 Hydref, a bydd y cyngor yn gwneud penderfyniadau'n gyflym.  Mae ffurflenni cais ar gael drwy e-bostio Chwaraeonaciechyd@abertawe.gov.uk.

 

Close Dewis iaith