Toglo gwelededd dewislen symudol

Fideo'n dangos y gwelliannau a gynlluniwyd ar gyfer safle allweddol yng nghanol y ddinas

​​​​​​​Mae fideo trawiadol newydd yn dangos sut y bydd hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant yn Abertawe'n edrych ar ôl i'r cynllun gwella dros dro sydd ar waith yno gael ei gwblhau.

Future Look of St Davids

Future Look of St Davids

Mae'r cynllun dros dro a gynlluniwyd ar gyfer y safle'n cynnwys masnachwyr lleol dros dro, parc dros dro a digon o fannau gwyrdd at ddefnydd y cyhoedd ac ar gyfer digwyddiadau.

Disgwylir i'r gwaith ar y cynllun dros dro ddechrau yn y misoedd nesaf, a bydd yn cysylltu canol y ddinas ag ardal newydd cam un £135m Bae Copr yn well.

Cyngor Abertawe sy'n datblygu'r cynllun. Gallwch wylio'r fideo, a grëwyd ar ran y cyngor gan y cwmni o Abertawe, iCreate, yma - www.bit.ly/SCnorthFlyW

Mae'r cyngor wedi penodi Urban Splash fel ei bartner datblygu i wneud y gwaith ailddatblygu mawr ar y safle hwn dros y blynyddoedd nesaf. Yn ogystal â hwb sector cyhoeddus ar gyfer miloedd o weithwyr, gallai cynlluniau tymor hwy ar gyfer y safle gynnwys swyddfeydd a fflatiau newydd fel rhan o ddatblygiad defnydd cymysg.

Mae'r fideo rhithiol o'r awyr diweddaraf yn dangos y neuadd eglwys newydd sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd ar gyfer defnyddwyr Eglwys Dewi Sant. Mae nodweddion eraill y fideo rhithiol o'r awyr yn cynnwys colofnau goleuo newydd a fydd yn arwain y ffordd i Arena Abertawe.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Rydym wedi penodi Urban Splash i arwain ar y gwaith ailddatblygu cyffrous ar y safle, ond hoffem hefyd gynnig ateb dros dro bywiog a deniadol yn y cyfamser.

"Mae ein fideo newydd yn dangos ein cynlluniau i gyflwyno llawer mwy o wyrddni ar y safle yn y tymor byr, ynghyd â chyfleoedd i fasnachwyr bwyd a diod lleol dros dro a diogon o fannau a fydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd ac ar gyfer digwyddiadau.

"Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau bydd yr ateb dros dro hwn yn creu cyswllt llawer gwell rhwng canol y ddinas a'n hardal cam un Bae Copr sy'n cynnwys Arena Abertawe."

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies,"Bydd y cynllun dros dro yn hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant yn ategu'r holl waith rydym eisoes yn ei wneud i greu mwy o fannau gwyrdd yng nghanol y ddinas, er budd ein preswylwyr, ein busnesau a'n hymwelwyr."

Mae'r cyngor yn arwain ar y gwaith gwerth £1bn i adfywio canol y ddinas.

Llun: Llun llonydd o'r fideo newydd yn dangos sut y gallai hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant Abertawe edrych cyn bo hir. Llun: iCreate

 

 

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith