Gwaith ymchwilio i baratoi'r ffordd ar gyfer datblygiad swyddfeydd newydd yn Abertawe
Bydd gwaith ymchwilio i safle'n digwydd yn fuan yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant Abertawe i baratoi'r ffordd ar gyfer datblygiad swyddfeydd mawr newydd.


Mae'r cynllun swyddfeydd y disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yng ngwanwyn 2026, yn rhan o raglen ehangach Cyngor Abertawe i drawsnewid canol y ddinas yn gyrchfan ffyniannus lle gall mwy o bobl fyw, gweithio a threulio amser.
Drwy greu lle ar gyfer swyddfeydd o safon a chyfleoedd masnachol newydd, rhagwelir y bydd y datblygiad yn ysgogi mwy o ymwelwyr a gwariant - gan gefnogi busnesau presennol a helpu i ddenu siopau, bwytai a buddsoddiad newydd.
Cwmni Andrew Scott Ltd, a benodwyd gan Gyngor Abertawe, fydd yn gwneud y gwaith ymchwilio i'r safle.
Bydd y cyngor yn datblygu'r adeilad ar y cyd â'i bartner datblygu Urban Splash, a'i reolwr datblygu, RivingtonHark.
Mae'r dyluniad gan y penseiri arobryn shedkmyn cynnwys pedwar llawr uchaf lle bydd lleoedd ar gael ar gyfer swyddfeydd modern, hyblyg gydag unedau masnachol ar y llawr gwaelod a fydd yn addas ar gyfer mannau gwerthu bwyd a diod neu weithredwyr hamdden.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd y cynllun nodedig hwn yn darparu lle swyddfa o'r radd flaenaf a hefyd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr a'r gwariant sydd eu hangen i gefnogi busnesau presennol canol y ddinas a denu rhai newydd.
"Ynghyd â'n partneriaid, rydym yn gwneud Abertawe'n lle mwy bywiog, cynaliadwy a llwyddiannus, gyda'r prosiect yn nodi cam pwysig arall ymlaen yn nhrawsnewidiad canol y ddinas.
"Mae'n un rhan o raglen drawsnewid gwerth £1bn sy'n mynd rhagddi a fydd o fudd i bobl a busnesau lleol ac a fydd yn gwneud Abertawe'n un o gyrchfannau gorau'r DU i fyw, gweithio, astudio, mwynhau ac ymweld ag ef.
Bydd un llawr o le swyddfa'n cael ei ddefnyddio gan Gyngor Abertawe, gyda gweddill y lle'n cael ei glustnodi ar gyfer cymysgedd o sefydliadau'r sector cyhoeddus a busnesau preifat.
Bydd cynaliadwyedd hefyd yn ganolog i'r prosiect.
Bydd nodweddion yn cynnwys to glas ar gyfer draenio trefol cynaliadwy, to gwyrdd dwys i wella bioamrywiaeth a darparu lle gwyrdd newydd a phaneli ffotofoltäig ar y to i leihau allyriadau carbon.
Mae'r cynllun swyddfeydd yn rhan allweddol o'r gwaith i adfywio safle hen Ganolfan Siopa Dewi Sant yn ei gyfanrwydd, gyda chynlluniau eraill i'w cyhoeddi cyn gynted ag y mae'r manylion wedi'u cwblhau.