Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol ar gyfer De Orllewin Cymru

Nod y cynllun cyflawni economaidd rhanbarthol, sy'n cwmpasu Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, yw cyfrannu at astudiaeth sylweddol sydd wedi nodi cryfderau a chyfleoedd rhanbarthol.

  1. Rhagymadrodd 
  2. De Orllewin Cymru: Y dirwedd economaidd 
  3. Ein huchelgeisiau hyd at 2030
  4. Cenhadaeth 1: Arweinydd yn y DU ym maes ynni adnewyddadwy a'r economi sero net 
  5. Cenhadaeth 2: Adeiladu sylfaen fusnes gref, gydnerth sydd wedi'i gwreiddio 
  6. Cenhadaeth 3: Tyfu a chynnal cynnig 'profiad' De Orllewin Cymru 
  7. Symud ymlaen: Cyflawni'r Cynllun 
  8. Annex A: Dadansoddiad SWOT cryno
  9. Annex B: Asesiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r
  10. Annex C: Datblygu'r Cynllun: Y broses

Crynodeb Gweithredol

Cefndir

1. Mae gan Dde Orllewin Cymru economi amrywiol a set unigryw o asedau naturiol a diwylliannol, wedi'u hategu gan ansawdd ei amgylchedd arfordirol a gwledig, treftadaeth a gallu diwydiannol yn ogystal â phrifysgol. Yn 2014, cyhoeddodd partneriaid yn Ne Orllewin Cymru Strategaeth Adfywio Economaidd ar y cyd, gan osod y sylfaen strategol ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe, pecyn buddsoddi gwerth £1.3 biliwn wedi'i gefnogi gan Lywodraethau'r DU a Chymru.

2. Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae llawer wedi'i gyflawni. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud i ddatgloi potensial y rhanbarth ac i sicrhau bod twf yn gydnerth, yn gynaliadwy ac yn gynhwysol. Ym mis Rhagfyr 2020, comisiynodd awdurdodau lleol De Orllewin Cymru, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, Gynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol newydd. Gan edrych ymlaen at y deng mlynedd nesaf, mae hwn yn nodi 'map llwybr' uchelgeisiol ar gyfer datblygu economi'r rhanbarth, gan nodi blaenoriaethau ar gyfer ymyriadau a mynegi sut y dylai busnesau, llywodraeth, bydd addysg, sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a mentrau cymdeithasol a phartneriaid eraill weithio gyda'i gilydd i'w symud ymlaen.

Y cyd-destun economaidd a pholisi

3. Yn y blynyddoedd cyn y pandemig Covid-19, perfformiodd economi De Orllewin Cymru yn gryf o ran creu swyddi newydd: Erbyn 2019, roedd tua 322,000 o swyddi yn y rhanbarth, cynnydd trawiadol gan 20,000 ar ffigur 2013. Fodd bynnag, mae bwlch cynhyrchiant mawr a pharhaus yn dal i fod gyda gweddill y DU.

4. Mae dadansoddiad o economi'r rhanbarth yn dangos y canlynol: 

  • Mae gwendidau economaidd y rhanbarth yn rhai strwythurol yn bennaf, yn gysylltiedig â phrosesau hirdymor newid diwydiannol (sy'n dal i fod i ryw raddau) ac fe'u rhennir â rhanbarthau eraill yng Nghymru a'r DU.
  • Fodd bynnag, mae gan y rhanbarth gyfres o gryfderau a chyfleoedd penodol. Mae'r rhain wedi'u cysylltu'n arbennig â photensial ynni'r rhanbarth, cysylltiadau rhwng y brifysgol a diwydiant, hunaniaeth ddiwylliannol gref, asedau amgylcheddol a'r ansawdd bywyd da sydd yno.
  • Mae cyfle i adeiladu ar rai o'r rhain a'u dal, yn enwedig mewn perthynas ag ynni gwyrdd a chyfle sero net, lle mae gan y rhanbarth fanteision penodol, ond lle mae gan rannau eraill o'r DU (a thu hwnt) hefyd gynlluniau uchelgeisiol a thechnoleg ac mae deinameg buddsoddi yn newid yn gyflym. Bydd bod â'r gallu i fanteisio ar y cyfleoedd hyn yn bwysig ac mae amseriad hyn o bwys mawr.
  • Mae llawer o amrywiaeth yn y rhanbarth, yn enwedig o ran yr elfennau gwledig/trefol. Er gwaethaf yr amrywiaeth ar draws y rhanbarth, mae cyffredinedd sylweddol, ac mae gan rai o'r cyfleoedd mawr ôl troed a fydd i'w weld ledled y rhanbarth. Fodd bynnag, mae rhai ohonynt yn ymestyn y tu hwnt i'r rhanbarth ei hun, a bydd cysylltiadau 'y tu allan i'r rhanbarth' (er enghraifft, Clwstwr Diwydiannol De Cymru a'r cysylltiadau yn ymestyn i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd) yn berthnasol.
  • Mae angen cydbwyso cyfleoedd twf 'trawsnewidiol' gyda'r amodau ar gyfer gwelliannau cynyddrannol mewn gwytnwch, capasiti a gallu ar draws yr economi. Roedd hon yn thema allweddol a ddaeth i'r amlwg yn sgil ymgynghori fel rhan o'r Cynllun hwn. Mae cyfleoedd unigryw a blaengar - ond bydd gwytnwch cyflogaeth a thwf cyflogau yn yr hirdymor yn dibynnu ar gynaliadwyedd, cynhyrchiant a thyfu stoc ehangach o fusnesau bach a chanolig yn y rhanbarth.

5. Mae'r Cynllun hefyd wedi'i ddatblygu yn erbyn cefndir o gyd-destun polisi sy'n esblygu'n gyflym, wrth i'r rhanbarth adfer wedi'r pandemig Covid-19 ac addasu i ddulliau masnachu a chyllido newydd yn dilyn Brexit. Fodd bynnag, wrth edrych ar y deng mlynedd nesaf, bydd yr argyfwng hinsawdd, cyflymder newid technoleg (ac addasu iddo) a'r angen i sicrhau bod y buddion yn cael eu dal yn lleol a'u dosbarthu'n eang yn ganolog i'r strategaeth economaidd.

Ein huchelgeisiau a'n Cenadaethau ar gyfer y deng mlynedd nesaf

6. Dros y deng mlynedd nesaf byddwn yn adeiladu ar ein cryfderau a'n cyfleoedd arbennig a grynhoir uchod i ddatblygu economi De Orllewin Cymru sy'n fwy llewyrchus a chydnerth.

7. Er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, rydym wedi nodi tair Uchelgais (datganiadau am natur economi De Orllewin Cymru yr ydym am weithio tuag atynt) sy'n cefnogi tair Cenhadaeth ategol:

Ein fframwaith strategol

Uchelgeisiau

  • Cydnerth a chynaliadwy 
  • Mentrus ac uchelgeisiol
  • Cylbwys a chynhwysol

Cenadaethu

  • Cenhadaeth 1: sefydlu De Orllwein Cymru fel arweinydd y DU ym maes ynniadnewyddadwy a datblygiad economi sero net
  • Cenhadaeth 2: adeiladu sylfaen fusnes gref, gydnerth sydd wedi'r 'gwreiddio'
  • Cenhadaeth 3: tyfu a chynnal y cynnig 'profiad'

Gewithredu

  • Piblinell o brosiectau wedi'u cysylltu i bob Cenhadaeth a'u datblygu trwy broses achos busnes

6. Bydd ein tair 'Cenhadaeth' yn arwain gweithgarwch dros y deng mlynedd nesaf a thu hwnt. Fe'u cynlluniwyd i roi cyfeiriad teithio clir tra'n aros yn ddigon cyffredinol i ddarparu ar gyfer ystod eang o fuddsoddiadau posibl a ddaw i'r amlwg dros amser. Mae'r tair Cenhadaeth lefel uchel fel a ganlyn:

  • Sefydlu De Orllewin Cymru fel arweinydd y DU ym maes ynni adnewyddadwy a datblygiad economi sero net: Datblygu prif brosiectau ynni'r rhanbarth ac ysgogi'r buddion trwy'r rhanbarth (trwy ddatgarboneiddio diwydiannol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi, arloesi cysylltiedig â phrifysgol, ac ati).
  • Adeiladu sylfaen fusnes gref, gydnerth sydd wedi'i gwreiddio: Deall a thyfu'r stoc fusnes, cefnogi entrepreneuriaeth gymdeithasol a masnachol eang, creu cadwyn gyflenwi gryfach a rhwydweithiau arloesi, gan wneud cefnogaeth y sector cyhoeddus yn gynaliadwy; ysgogi mabwysiadu a lledaeniad technoleg.
  • Tyfu a chynnal y cynnig 'profiad': Cysylltu ansawdd amgylcheddol, ansawdd bywyd a chymeriad cymunedol i greu rhanbarth sy'n cadw ac yn denu doniau a buddsoddiad, a hyrwyddo hyn yn gyson ac yn bwerus i'r byd y tu allan.

Cyflawni'r Cynllun

9. Er mwyn trosi ein Cenadaethau yn ymyriadau ymarferol, rydym wedi paratoi piblinell prosiect. Mae hon yn nodi amserlen o ymyriadau, gan ddisgrifio sut maent yn cyfrannu at ein Huchelgeisiau a'n Cenadaethau, eu statws presennol o ran datblygiad a'r camau y mae'n rhaid eu cymryd i'w dwyn ymlaen. Bydd hon yn cael ei chadw'n 'fyw': bydd yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan bartneriaid rhanbarthol ac yn esblygu i gofleidio cynigion buddsoddi newydd wrth iddynt ddod i'r amlwg.

10. Ar hyn o bryd, mae gan y prosiectau sydd yn y biblinell gyfanswm gwerth o tua £3 biliwn. Er bod rhai ar gam cynnar eu datblygiad, a bydd costau'n cael eu pennu trwy'r broses achos busnes, mae hyn yn rhoi syniad o raddfa'r cyfle sydd o'n blaen. Gan adeiladu ar lwyddiant Bargen Ddinesig Bae Abertawe bresennol, byddwn yn ceisio creu Cronfa Fuddsoddi hyblyg arall i gyd-fuddsoddi ochr yn ochr â'r sector preifat mewn prosiectau a fydd yn cyflawni ein Cenadaethau, lle mae achosion busnes yn gadarn.

11. Er mwyn goruchwylio cyfeiriad strategol y Cynllun, mae Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) De Orllewin Cymru newydd wedi'i sefydlu, sy'n galluogi'r pedwar awdurdod lleol i weithio'n agos gyda'i gilydd ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac i rannu adnoddau. Gan adeiladu ar ein llwyddiant diweddar, ac yn effro i uniongyrchedd ein heriau a'n cyfleoedd presennol, bydd y CBC yn gyrru ein Cynllun Cyflawni yn ei flaen - gan adeiladu De Orllewin Cymru sy'n "gydnerth a chynaliadwy; mentrus ac uchelgeisiol; a chytbwys a chynhwysol".

1. Rhagymadrodd 

Croeso i'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol ar gyfer De Orllewin Cymru. Gan edrych ymlaen at 2030, mae'r Cynllun hwn yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer economi gydnerth, eang a chynaliadwy - ac yn amlinellu lle byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion yn yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn eu gwireddu.

Cyflwyno De Orllewin Cymru 

1.1 Mae gan Dde Orllewin Cymru, sy'n ymestyn o Gastell-nedd Port Talbot yn y dwyrain i Sir Benfro yn y gorllewin trwy Abertawe a Sir Gaerfyrddin, economi amrywiol a set unigryw o asedau naturiol a diwylliannol. 

1.2 Yn economaidd, mae ein treftadaeth ddiwydiannol yn cyfuno â pheth o botensial ynni morol mwyaf arwyddocaol y DU, gan sbarduno cyfleoedd mawr ar gyfer datgarboneiddio a thwf Economi Werdd y DU. Yn amgylcheddol, mae'r arfordir a'r cefn gwlad - gan gynnwys Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr - yn cyfrannu at gynnig gwych i ymwelwyr ac ansawdd bywyd. Yn ddiwylliannol, mae'r rhanbarth yn cwmpasu dinas prifysgol ddeinamig ac sy'n tyfu yn Abertawe, rhwydwaith amrywiol a nodedig o drefi gwledig a rhanbarth lle mae'r Gymraeg yn fwyfwy ffyniannus.

Cynllun cyflawni economaidd newydd beiddgar a chynhwysol

1.3 Yn 2014, cyhoeddodd partneriaid yn Ne Orllewin Cymru Strategaeth Adfywio Economaidd ar y cyd, gan osod y sylfaen strategol ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe, pecyn buddsoddiad gwerth £1.3 biliwn a gefnogir gan Lywodraethau'r DU a Chymru.

1.4 Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae llawer wedi'i gyflawni. Cefnogwyd capasiti gwybodaeth ac ymchwil y rhanbarth trwy ddarparu cyfleusterau mawr fel Campws Bae Abertawe a buddsoddiad parhaus mewn cysylltiadau diwydiant-academaidd. Atgyfnerthwyd y cyfleoedd economaidd sy'n gysylltiedig â thwf yr economi iechyd trwy ddatblygiad y Sefydliad Gwyddorau Bywyd newydd a dechrau gwaith ar gampws iechyd a lles Pentre Awel yn Llanelli. Mae pencadlys newydd S4C wedi agor yng Nghaerfyrddin, ynghyd â chrynhoad o fusnesau cyfryngau creadigol; mae buddsoddiad sylweddol wedi parhau i lifo i gyfleoedd adnewyddadwy alltraeth Sir Benfro; ac mae rhaglen adfywio uchelgeisiol canol dinas Abertawe ar y gweill. Cafwyd buddsoddiad mawr yn ein cysylltedd digidol, gyda chynlluniau cyffrous ar gyfer system drafnidiaeth ranbarthol fwy cynaliadwy trwy Fetro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru.

1.5 Mae hyn yn rhoi llwyfan cryf ar gyfer twf yn y dyfodol. Fodd bynnag, fel y mae'r dadansoddiad ym Mhennod 2 yn egluro, mae mwy i'w wneud er mwyn datgloi potensial y rhanbarth i sicrhau bod twf yn gydnerth, yn gynaliadwy ac yn gynhwysol. Gan edrych ymlaen at y deng mlynedd nesaf a thu hwnt, mae awdurdodau lleol De Orllewin Cymru, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, wedi paratoi'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol hwn i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd twf cyffrous sydd o'n blaen.

Cyfuno eglurder strategol â hyblygrwydd o ran cyflawni 

1.6 Wrth ddatblygu'r Cynllun rydym wedi dilyn dull dilyniannol. Yn gyntaf, dechreuom gyda golwg newydd ar y dystiolaeth, gan ystyried 'cyflwr y rhanbarth' a'r rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Llywiodd hyn ein hamcanion lefel uchel, gan nodi "yr hyn yr ydym am i'n heconomi fod yn debyg (fwy tebyg) iddo". Rhoddodd y rhain fframwaith ar gyfer cyfres o genadaethau wedi'u diffinio'n glir: meysydd ffocws allweddol ar gyfer y deng mlynedd nesaf, a'r ymyriadau, neu'r gweithgarwch prosiect sydd eu hangen i'w cyflawni:

Dilyniant rhesymeg y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol

  • Materion: beth y'w cyd-destun y mae'r Cynllun yn cael ei ddatblygu ynddo?
  • Amcanion: sut un hoffem I'n heconomi fod? 
  • Cenedaethau: pa rai ddylai fod yn feysydd ffocws allweddol i ni? 
  • Ymyriadau: pa gamau sydd angen i ni eu cymryd?

1.7 Fodd bynnag, rydym yn byw mewn byd ansicr a deinamig a, thros oes y Cynllun hwn bydd angen i ni ymateb i heriau a chyfleoedd newydd (a syniadau a buddsoddiadau newydd sydd heb eu rhagweld eto). Mae cynllun cydnerth yn gynllun hyblyg ac ystwyth: er bod y ddogfen hon yn rhoi eglurder strategol ac yn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau, rydym yn rhagweld y bydd gweithredoedd a buddsoddiadau prosiect yn esblygu dros amser. 

Llywio trwy'r cyd-destun strategol sy'n newid 

1.8 Datblygir y Cynllun hwn yng nghyd-destun (ac mae'n cyfrannu at) ystod o gynlluniau a strategaethau a ddatblygir ar lefel leol, genedlaethol a'r DU. Wrth edrych ar draws y dirwedd strategol, mae nifer o themâu yn arbennig o berthnasol i'r Cynllun hwn: 

  • Yn gyntaf, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau ar draws pob agwedd ar lesiant. Mae'r Ddeddf yn amlinellu saith 'nod llesiant' - a dylai polisi cyhoeddus gyfrannu at bob un ohonynt, nid dim ond un neu ddau. Ar gyfer cynllun economaidd, mae hynny'n golygu y dylem wrth sicrhau "rhanbarth llewyrchus" hefyd gyfrannu at ranbarth sy'n fwy cydnerth, cyfartal, iach, cydlynus a chyfrifol yn fyd-eang, ac sy'n mwynhau diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg. Mae egwyddorion y Ddeddf wedi'u hymgorffori'n benodol yng Nghenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu'r Economi Llywodraeth Cymru (a'i hegwyddorion "Ffyniannus, Gwyrdd a Chyfartal") ac maent yn ganolog i'r Cynllun Cyflawni hwn.
  • Yn ail, mae ymrwymiad cyffredinol a chadarn i ddatgarboneiddio a chyrraedd 'sero net' erbyn 2050. Mae Llywodraeth y DU a Chymru wedi ymrwymo'n gyfreithiol i allyriadau sero carbon net (dros waelodlin 1990) erbyn 2050, proses a fydd yn cynnwys newidiadau pellgyrhaeddol mewn prosesau diwydiannol, rhwydweithiau trafnidiaeth a systemau gwresogi. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i "Gymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur", ac mae hyn yn cael ei atgyfnerthu gyda sefydlu portffolio Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd ac (er enghraifft) trwy flaenoriaethu teithio cynaliadwy a llesol o fewn Llwybr Newydd, y strategaeth drafnidiaeth newydd. O safbwynt strategaeth economaidd, mae'r rheidrwydd datgarboneiddio yn creu cyfleoedd ar gyfer arloesi a datblygu technoleg, yn ogystal ag angen brys am addasu i gefnogi gwytnwch diwydiannol.
  • Yn drydydd, ffocws polisi ehangach ar y cyfleoedd a'r heriau a gyflwynir gan newid technolegol a demograffig a welwyd yn hen Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU ac sy'n parhau i fod yn amlwg yn yr un sy'n ei olynu, y Cynllun ar gyfer Twf. Mae cyfres o adroddiadau i Lywodraeth Cymru hefyd wedi nodi dulliau ar gyfer digideiddio a mabwysiadu strategaeth arloesi sy'n canolbwyntio ar ddiwallu angen cymdeithasol.
  • Yn bedwerydd, yr ymateb i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd angen i ni addasu i batrymau masnachu sy'n newid. Nid yw effaith hyn yn gwbl amlwg eto, er y bydd yn bellgyrhaeddol i rai sectorau (er enghraifft, addasu amaethyddiaeth i'r system Rheoli Tir Amgylcheddol newydd). Mae Brexit hefyd yn golygu newid sylweddol i Dde Orllewin Cymru o ran y buddsoddiad cyhoeddus sydd ar gael ar gyfer datblygu economaidd: yn hanesyddol, mae'r rhanbarth wedi bod yn un o fuddiolwyr mwyaf y DU o gyllid yr UE. Gan edrych i'r dyfodol, mae'n debygol y bydd angen dull newydd arnom, sydd efallai'n fwy seiliedig ar 'fuddsoddiad ac enillion'.
  • Yn olaf, datblygir y Cynllun hwn yng nghyd-destun dull ehangach ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru, gyda De Orllewin Cymru yn ffurfio un o 'flociau adeiladu' rhanbarthol Cymru'r Dyfodol, y cynllun datblygu gofodol cenedlaethol newydd. Mae cynlluniau hefyd wedi'u datblygu ar gyfer dulliau newydd o lywodraethu a chyflawni rhanbarthol (a ddisgrifir ym Mhennod 5), yn ogystal â'r Fframwaith Economaidd Rhanbarthol, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â'r awdurdodau lleol ochr yn ochr â'r Cynllun hwn.

Strwythur y Cynllun

1.9 Mae gweddill y Cynllun hwn wedi'i drefnu mewn chwe phennod: 

  • Mae Pennod 2 yn nodi'r dirwedd economaidd y mae'r Cynllun wedi'i datblygu oddi mewn iddi, gan amlinellu'r cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau sy'n wynebu'r economi ranbarthol a'r materion allweddol y mae angen mynd i'r afael â hwy.
  • Mae Pennod 3 yn cyflwyno ein fframwaith strategol, gan nodi ein huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol a'r math o economi yr ydym am helpu i'w datblygu.
  • Gan adeiladu ar hyn, mae Penodau 4-6 yn egluro ein tair 'cenhadaeth' allweddol: y nodau penodol yr ydym am eu cyflawni dros y degawd nesaf.
  • Yn olaf, mae Pennod 7 yn nodi sut y byddwn yn cyflawni'r Cynllun, gan gynnwys rôl y Cydbwyllgor Corfforedig ac opsiynau ar gyfer trefniadau gweithredu yn y dyfodol. 

1.10 Yn ogystal, mae Atodiad A yn darparu dadansoddiad SWOT cryno. Mae Atodiad B yn darparu asesiad o'r Cynllun hwn yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae Atodiad C yn esbonio'r broses o ddatblygu'r Cynllun, a sut yr ymgysylltwyd â phartneriaid a nodi blaenoriaethau. 

1.11 Mae dwy ddogfen atodol yn cefnogi'r Cynllun: 

  • Yn gyntaf, mae Adolygiad Tirwedd Tystiolaeth a Pholisi yn rhoi mwy o fanylion i gefnogi'r naratif ym Mhennod 2

Yn ail, er bod y Cynllun hwn yn cymryd golwg hirdymor, bydd camau penodol yn esblygu dros amser wrth i achosion busnes ddatblygu a chyfleoedd buddsoddi newydd ddod i'r amlwg. Ochr yn ochr â'r Cynllun, rydym wedi paratoi dogfen Piblinell Prosiect atodol, yn nodi ymyriadau y gwyddom amdanynt a rhai sy'n dod i'r amlwg a'r camau nesaf sy'n gysylltiedig â'u datblygu. 

2. De Orllewin Cymru: Y dirwedd economaidd 

Mae De Orllewin Cymru wedi perfformio'n gryf yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth greu swyddi newydd ac ysgogi buddsoddiadau sy'n flaenoriaeth. Er gwaethaf heriau parhaus o ran cynhyrchiant, mae cyfleoedd mawr o'n blaen ar gyfer twf cynaliadwy, sy'n gysylltiedig â'n hasedau ynni, arloesi, busnes a chymunedol. Mae'r bennod hon yn braslunio darlun o economi'r rhanbarth, gan amlinellu perfformiad economaidd diweddar, cryfderau ac asedau allweddol, a'r prif dueddiadau 'trawsnewidiol' a fydd yn effeithio ar dwf yn y dyfodol.

Lleoedd a chysylltiadau: Daearyddiaeth economaidd y rhanbarth

Treftadaeth arbennig gydag economi amrywiol ...

2.1 Gyda phoblogaeth o tua 705,000 ar draws pedair sir, mae De Orllewin Cymru yn rhanbarth amrywiol. Yn hanesyddol, roedd llawer o'r ardal yn arloeswr diwydiannol, wedi'i ysgogi i ddechrau gan y diwydiannau glo a metelau ac yn ddiweddarach gan betrocemegion a gweithgynhyrchu. Dros y 40 mlynedd diwethaf mae newid economaidd wedi golygu cyfnod heriol o ail-addasu, sydd i raddau yn dal i ddigwydd. Ond mae ein treftadaeth ddiwydiannol wedi gadael etifeddiaeth bwysig, gan gynnwys rhai o'n prif alluoedd ym meysydd ymchwil ac arloesi, ein sector gweithgynhyrchu datblygedig mawr a chymeriad a ffurf ein trefi a'n dinasoedd.

2.2 Gan adlewyrchu dosbarthiad poblogaeth y rhanbarth a datblygiad diwydiannol hanesyddol, mae'r crynodiadau cyflogaeth mwyaf yn y dwyrain, o amgylch Bae Abertawe, fel y gwelir yn Ffigur 2-1. Mae Abertawe ei hun yn cyfrif am tua 40% o'r swyddi yn Ne Orllewin Cymru (a dyma brif gyrchfan cymudwyr y rhanbarth), ac mae'r ardal o amgylch Bae Abertawe a Llanelli wedi'i diffinio yng Nghymru'r Dyfodol fel 'Ardal Twf Cenedlaethol' ar gyfer swyddi a thai newydd. Mae dwyrain y rhanbarth hefyd yn cynnwys crynhoad nodedig a helaeth o weithgarwch gweithgynhyrchu ym Mhort Talbot, gan gynnwys gwaith dur mwyaf y DU a Pharth Menter Dyfrffordd Port Talbot.

2.3 Ymhellach i'r gorllewin, mae tua 20% o'r cyflenwadau ynni cenedlaethol yn dod i mewn i Brydain trwy Sir Benfro, gyda Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn ganolfan fawr ar gyfer y seilwaith ynni presennol ac yn manteisio ar gyfleoedd newydd. Yn fwy eang, mae gan Gaerfyrddin a Hwlffordd rolau pwysig fel canolfannau rhanbarthol, gan gefnogi economi wledig helaeth a diwydiant cynhyrchu bwyd. Gan adlewyrchu'r ansawdd amgylcheddol a amlygir ym Mhennod

1, mae gan y rhanbarth ddynodiadau amgylcheddol helaeth, gan gynnwys y ddau Barc Cenedlaethol ac AHNE ac amddiffyniadau arbennig ar hyd llawer o'r arfordir. Mae'r ansawdd amgylcheddol hwn yn cefnogi economi ymwelwyr fawr a phwysig sy'n tyfu yn ogystal â rhoi buddion sylweddol o ran lles i'n trigolion lleol.

Ffigur 2-1: Crynoadau cyflogaeth mawr
LocationNumber of jobs
Rhydaman3250
Baglan / Jersey Marine15000
Caerfyrddin14500
Hwlffordd11300
Llanelli21800
Aberdaugleddau/ Doc Penfro8000
Castell-nedd9500
Port Talbot / Margam19800
Abertawe (canol)39000
Abertawe GO8000

2.4 Ar draws y rhanbarth, mae tua 208,000 o bobl yn siarad Cymraeg - tua 31% o'r boblogaeth, a chynnydd gan tua 23% yn y degawd hyd at 2020. Mae strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yn nodi strategaeth gadarnhaol i ddatblygu "economi ffyniannus, gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig" ac i hyrwyddo'r Gymraeg trwy'r cyfryngau a thwf y sector diwylliannol - nod a atgyfnerthwyd yn ddiweddar gan fuddsoddiad ym mhresenoldeb pencadlys S4C yng Nghaerfyrddin.

... gyda chysylltiadau y tu hwnt i'r rhanbarth

2.5 Mae cysylltiadau y tu hwnt i'r rhanbarth yn bwysig hefyd. Y porthladdoedd yn Abergwaun a Doc Penfro sy'n darparu'r prif borth rhwng de'r DU ac Iwerddon. Wrth edrych tua'r dwyrain, mae cysylltiadau cryf (a llif cymudwyr pwysig) rhwng y clystyrau gweithgynhyrchu ym Mhort Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr; materion a rennir ar draws Cymoedd y Canol a'r Gorllewin a chanolfan ddiwydiannol De Cymru; a mynediad cymharol hawdd at gyfleoedd yng Nghaerdydd a thu hwnt. Er bod ein Cynllun yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar gyfer y rhanbarth ac o fewn y rhanbarth, mae ffiniau economaidd yn gyfnewidiol: y pwynt allweddol yw nad yw De Orllewin Cymru yn hunangynhwysol ac yn homogenaidd; mae'n edrych allan ac yn amrywiol, ac mae'n gwneud synnwyr i weithio gyda'n gilydd. 

Y rhagolygon economaidd tymor canolig

2.6 Datblygwyd y Cynllun hwn yn dilyn y sioc economaidd sylweddol a achoswyd gan bandemig Covid-19. Crebachodd economi'r DU gan 9.9% yn 2020 - cwymp digynsail mewn allbwn blynyddol yn y cyfnod modern - wrth i gyfyngiadau iechyd cyhoeddus i bob pwrpas gau rhai sectorau (yn bennaf lletygarwch, diwydiant allweddol yn Ne Orllewin Cymru). Ar draws y rhanbarth, roedd nifer yr hawlwyr 74% yn uwch ym mis Rhagfyr 2020 nag yr oedd wedi bod ar ddechrau'r flwyddyn, gyda'r effaith cyflogaeth lawn yn cael ei lliniaru gan y cynllun ffyrlo a'r gyfres helaeth o fesurau grantiau, benthyciadau a rhyddhad ardrethi busnesau a gyflwynwyd gan Lywodraethau Cymru a'r DU.

2.7 Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, mae'r rhagolygon ar gyfer adferiad economaidd wedi'r pandemig yn gadarnhaol. Ym mis Gorffennaf 2021, roedd daroganwyr annibynnol yn rhagweld twf CMC y DU o 6.9% yn 2021 a 5.5% yn 2022, a fyddai'n ddigon i adfer yr economi i'w maint cyn y pandemig. Yn Ne Orllewin Cymru gostyngodd canran y swyddi ar ffyrlo o 12.5% ym mis Rhagfyr 2020 i tua 5% ym mis Mehefin 2021, roedd nifer yr hawlwyr wedi dechrau gostwng, ac roedd llawer o gyflogwyr yn nodi prinder staff.

2.8 Fodd bynnag, mae'r pandemig wedi cyflymu tueddiadau aflonyddgar sy'n debygol o gael effeithiau tymor hwy. Mae newidiadau strwythurol yn y sector manwerthu wedi effeithio ar ddefnydd canol trefi a dinasoedd. Mae gweithio o bell wedi ehangu ac yn debygol o ddod yn fwy parhaol - gan gyflwyno cyfleoedd i bobl gael mynediad at ystod ehangach o swyddi, ond hefyd o bosibl yn creu pwysau o ran tai a darpariaeth gwasanaethau ychwanegol mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, nid oedd argyfwng Covid wedi dod i gasgliad ac nid yw ei ganlyniadau yn gwbl hysbys eto - ond maent yn debygol o gael dylanwad tymor hwy dros gyfnod y Cynllun. 

Cyflwr y rhanbarth: Perfformiad economaidd diweddar

2.9 Wrth edrych yn ôl dros gyfnod hirach, mae'r economi ranbarthol wedi tyfu ers paratoi'r Strategaeth Adfywio Economaidd flaenorol. Ond ar lawer o ddangosyddion mae yna fwlch sylweddol yn dal i fod rhwng canlyniadau yn Ne Orllewin Cymru a gweddill y DU. Mae'r Adolygiad Tirwedd Economaidd a Strategol sy'n cyd-fynd â'r Cynllun hwn yn archwilio ein perfformiad economaidd diweddar yn fwy manwl: mae'r paragraffau canlynol yn rhoi cipolwg ar 'gyflwr y rhanbarth'. 

Rydym wedi gweld twf mewn swyddi a gweithgarwch economaidd, ond mae cyfle i wneud mwy

2.10 Roedd Strategaeth 2014 yn rhagweld adferiad cymharol araf o ran cyflogaeth o'r dirwasgiad yn dilyn argyfwng ariannol 2008/09. Fodd bynnag, mae perfformiad wedi bod yn gryfach o lawer na'r disgwyl. Erbyn 2019, roedd tua 322,000 o swyddi yn y rhanbarth, cynnydd gan 20,000 ar ffigur 2013. Er gwaethaf rhai colledion swyddi net yn 2016, roedd y twf hyd nes dechrau'r pandemig yn gryfach nag yng ngweddill Cymru.

2.11 Fodd bynnag, mae yna 'gapasiti sbâr' yn y farchnad lafur o hyd. Er bod y 'dwysedd swyddi' (nifer y swyddi fesul preswylydd oedran gweithio) wedi tyfu'n gyson, mae'n dal yn is na chyfartaleddau'r DU a Chymru. Yn nodedig, er gwaethaf pwysigrwydd Abertawe fel canolfan ranbarthol a chyrchfan i gymudwyr, mae dwysedd swyddi'r ddinas yn isel o gymharu â Chaerdydd a Chasnewydd.

2.12 Bu gwelliannau cyson yn y gyfradd gweithgarwch economaidd dros y 15 mlynedd diwethaf - ar gyflymder cyflymach nag yng ngweddill y DU. Fodd bynnag, mae cyfradd gweithgarwch economaidd De Orllewin Cymru yn parhau i ddisgyn y tu ôl i gyfartaledd y DU (ac ychydig y tu ôl i gyfartaledd Cymru). Pe gellid pontio'r bwlch rhwng cyfradd gweithgarwch economaidd rhanbarthol 2019 (73.8%) a chyfradd y DU (78.9%), byddai'n dod â 21,000 yn rhagor o bobl yn ôl i'r farchnad lafur. 

Mae allbwn economaidd wedi tyfu, o fewn cyd-destun newid strwythurol

2.13 Roedd allbwn economaidd (wedi'i fesur mewn gwerth ychwanegol gros) yn tua £13 biliwn yn 2018 - gan gyfateb i 21% o gyfanswm allbwn Cymru. Cynyddodd gwerth ychwanegol gros (GYG) y rhanbarth tua £630 miliwn rhwng 2013-18 (sy'n cyfateb i dwf o tua 5% dros y cyfnod). O fewn yr ehangiad cyffredinol hwn, tyfodd rhai sectorau yn gryf: cyfanwerthu a manwerthu cyfun; warysau; eiddo tirol; gwybodaeth a chyfathrebu; a chyfrannodd iechyd a gofal £689 miliwn yn ychwanegol at GYG. Ond fe grebachodd rhai sectorau dros y cyfnod, gyda'r sector metelau, cynhyrchion trydanol a pheiriannau yn lleihau ei allbwn gan tua £322 miliwn.

2.14 Mae hyn yn awgrymu proses barhaus o addasu o fewn yr economi, a adlewyrchir hefyd mewn twf cyflogaeth (a chyfran gryfach o gyflogaeth) mewn gweithgareddau lletygarwch, iechyd, dosbarthu a gweinyddu. Serch hynny, mae gweithgynhyrchu yn sylfaenol bwysig i'r economi ranbarthol, gan gyfrif am 13.6% o gyfanswm yr allbwn (a dros 25% o'r allbwn yng Nghastellnedd Port Talbot). 

Mae bwlch mawr yn parhau i fod mewn cynhyrchiant, sy'n effeithio ar ffyniant lleol 

2.15 Roedd cynhyrchiant (swm y GYG a gynhyrchir ar gyfer pob swydd sydd wedi'i llenwi) yn tua £45,100 yn Ne Orllewin Cymru yn 2018. Mae'r bwlch gyda gweddill y DU wedi culhau ychydig dros amser. Ond mae'n dal i fod yn sylweddol: yn 2018, roedd cynhyrchiant yn tua 80% o lefel y DU.

2.16 Mae ein dadansoddiad o gynhyrchiant yn Ne Orllewin Cymru yn arwain at dri sylw, sy'n hanfodol i'r strategaeth a ddatblygir yn y Cynllun hwn:

  • Nid twf cynhyrchiant yw 'popeth' .... Ond mae'n angenrheidiol ar gyfer lles economaidd hirdymor, hyd yn oed os nad yw'n ddigonol. Dylai gweithgareddau mwy 'cynhyrchiol' arwain at gyfartaledd cyflog uwch a mwy o gyfleoedd i bobl adeiladu gyrfaoedd a busnesau yn y rhanbarth.
    Ond gellir gweld cynhyrchiant fel mesur eithaf haniaethol: efallai na fydd economi hynod 'gynhyrchiol' o reidrwydd yn un gynaliadwy neu deg, ac nid yw popeth y maecymdeithas yn ei werthfawrogi yn cynhyrchu lefelau uchel o allbwn â gwerth ariannol.
    Felly, yn ogystal â chynhyrchu allbwn uwch fesul gweithiwr, yr her allweddol yw sicrhau bod yr enillion o ran cynhyrchiant yn cael eu dal yn lleol mewn tâl, amodau a chyfleoedd busnes.
  • Nid yw twf cynhyrchiant yn ymwneud â thyfu sectorau 'mwy cynhyrchiol', neu'r cwmnïau blaengar yn unig.
    Mae'r newid strwythurol yn Ne Orllewin Cymru o weithgynhyrchu gwerth chwanegol cymharol uchel i wasanaethau gwerth is wedi cyflwyno her hirdymor.
    Mae rhan o'r bwlch hefyd yn cael ei egluro gan y math o weithgarwch sy'n digwydd mewn gwahanol leoliadau yn yr un iwydiant - gyda gweithgareddau pencadlys, ymchwil a datblygu ac ati yn nodweddiadol yn cyfrannu at allbwn gwerth uwch fesul gweithiwr.
    Ond mae ymchwil ddiweddar hefyd yn tynnu sylw at yr enillion y gellir eu gwneud ym mhob sector (gan gynnwys y rheini yn yr 'economi sylfaen' yn ogystal ag o fewn diwydiannau tebyg i 'allforio') trwy fuddsoddi mewn gallu rheoli, mabwysiadu technoleg, galluoedd cadwyn gyflenwi, datblygu sgiliau ac yn y blaen.
    Mae hyn yn debygol o fod yn arbennig o bwysig yn Ne Orllewin Cymru: mewn rhanbarth sydd â nifer cymharol isel o gwmnïau mawr, mae dull eang sy'n cefnogi twf busnesau bach a chanolig ac entrepreneuriaeth yn gyffredinol a chynyddu pa mor 'ludiog' yw buddsoddiad yn lleol yn debygol o fod yn bwysig.
  • Mae twf cynhyrchiant yn debygol o fod yn raddol dros amser. Efallai y bydd yn cael ei gyflymu gan fuddsoddiadau trawsnewidiol mawr - ond mae 'culhau'r bwlch', a sicrhau bod yr enillion yn ael eu dal yn rhanbarthol mewn cyflog uwch a thwf busnes lleol, yn ymdrech hirdymor, sy'n galw am fuddsoddiad parhaus ar draws yr economi.

Mae'r dystiolaeth yn dangos cynnydd cymysg yn rbyn ysgogwyr cynhyrchiant ehangach

2.17 Yn gysylltiedig â pherfformiad cynhyrchiant cyffredinol y rhanbarth, bu cynnydd cymysg mewn perthynas ag 'ysgogwyr cynhyrchiant' ehangach: 

Mewn perthynas â sgiliau...

2.18 Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd pwyslais cryf ar gryfhau cysylltiadau rhwng darparwyr a chyflogwyr, gyda'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yn chwarae rhan gynyddol bwysig mewn brocera cysylltiadau, gan ganfod angen cyflogwyr a darparu gwell gwybodaeth am y farchnad lafur. 

2.19 Dros amser, bu gwelliant cyson mewn lefelau cymwysterau: yn 2019, roedd 35% o'r boblogaeth oedran gweithio wedi cymhwyso i NVQ4 +, o'i gymharu â 22% yn 2004, a hanerodd y gyfran heb unrhyw gymwysterau dros yr un cyfnod (yn rhannol wrth i newyddddyfodiaid i'r farchnad lafur ddisodli'n raddol y rheini sy'n gadael). Ond mewn termau cymharol, mae yna fwlch o hyd gyda gweddill y DU, ac amrywiad sylweddol ar draws y rhanbarth. 

Mewn perthynas â chysylltedd...

2.20 Bu cynnydd trawsnewidiol o ran darparu cysylltedd digidol ers Strategaeth Adfywio 2014. Mae buddsoddiad masnachol a chefnogaeth y cyhoedd trwy Cyflymu Cymru a rhaglenni olynol wedi cynyddu mynediad at fand eang cyflym iawn i dros 90% o adeiladau. Fodd bynnag, y tu hwnt i gyflymder cyflym, mae rhaniad digidol gwledig / trefol sylweddol yn dal i fod, gyda threiddiad cyflym iawn yn Sir Benfro ymhlith yr isaf yn y DU. Nod y rhaglen Seilwaith Digidol ledled De Orllewin Cymru yw mynd i'r afael â hyn - ond mae ceisiadau am dechnoleg newydd yn parhau i symud ymlaen yn gyflym: bydd aros o flaen y gromlin yn bwysig wrth i dechnoleg ddigidol drawsnewid arferion gwaith a modelau busnes.

2.21 Efallai bod y darlun yn llai cadarnhaol mewn perthynas â chysylltedd trafnidiaeth. Bu rhywfaint o siom o ran lleihau cynlluniau i drydaneiddio Prif Linell De Cymru i Abertawe. Fodd bynnag, mae cynigion yn cael eu datblygu i ddatblygu Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru fel craidd i system drafnidiaeth ranbarthol sydd wedi'i hintegreiddio'n well (y rhoddir sylw pellach iddo ym Mhennod 4); Mae Trafnidiaeth i Gymru yn bwriadu cynyddu gwasanaethau rhwng Abertawe a Manceinion o 2022; ac mae gwaith yn mynd rhagddo mewn datblygu mesurau teithio llesol ledled y rhanbarth. Er bod y rhagdybiaeth polisi yn y dyfodol yn erbyn cynlluniau ffyrdd strategol newydd, mae buddsoddiad wedi cychwyn ar welliannau mawr eu hangen i'r A40 yn Sir Benfro a thu hwnt i'r rhanbarth, mae gwelliannau mawr ar ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yn gwella cysylltedd â Chanolbarth Lloegr. 

Mewn perthynas â'r stoc fusnes...

2.22 Tyfodd maint sylfaen fusnes y rhanbarth yn yr ychydig flynyddoedd cyn dechrau'r pandemig. Yn 2020, roedd tua 23,800 o fentrau ar waith yn Ne Orllewin Cymru, nifer a oedd wedi cynyddu'n raddol dros y pum mlynedd flaenorol - ac mae cyfraddau goroesi yn cadw i fyny â gweddill Cymru a'r DU. Ond mae 'dwysedd menter' y rhanbarth (nifer y mentrau o gymharu â'r boblogaeth oedran gweithio) a'r gyfradd dechrau busnesau yn parhau i fod yn is nag yng ngweddill y DU. Mae ymchwil ddiweddar wedi tynnu sylw at y ffaith er bod gweithgarwch entrepreneuraidd cyffredinol yng Nghymru ar y cyfan yn unol â gweddill y DU, mae diffyg yn y canfyddiadau o argaeledd cyfleoedd da i ddechrau busnes. 

Mewn perthynas â safleoedd ac adeiladau ar gyfer tyfu busnes...

2.23 Mae gan Dde Orllewin Cymru safleoedd sylweddol ar gyfer ehangu diwydiannol, gan gynnwys y safle strategol mawr ym Mharc Ynni Baglan, camau pellach yn natblygiad Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin, a safleoedd allweddol yn Felindre a Fabian Way yn Abertawe a Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Fodd bynnag, mae bwlch a gydnabyddir yn eang rhwng y galw a'r cyflenwad am safleoedd ac adeiladau diwydiannol, gan fod rhenti isel (ac mewn rhai achosion costau adfer ac isadeiledd uchel ar dir cyn-ddiwydiannol) yn gwneud hyfywedd yn heriol, yn enwedig i'r gorllewin o Abertawe. Y dystiolaeth yw bod hyn yn gweithredu fel brêc ar ehangu busnesau, ar gyfer buddsoddwyr newydd a busnesau lleol presennol sy'n ceisio lle i dyfu.

Mae anghydraddoldeb yn parhau'n sylweddol

2.24 Er gwaethaf twf swyddi dros amser a gwelliannau mewn gweithgarwch economaidd, mae ymchwil ddiweddar yn tynnu sylw at y graddau y mae costau byw cynyddol (yn enwedig costau tai) wedi effeithio ar incwm gwirioneddol y rheini sydd ar y cyflog isaf, sefyllfa sydd wedi cyflymu yn ystod y pandemig.

2.25 Ar draws y rhanbarth, mae crynodiadau o anfantais yn sylweddol, yn bennaf ym mhrif ganolfannau trefol Abertawe, Llanelli, Castell-nedd, Port Talbot a Doc Penfro, ac yng Nghymoedd uchaf y Gorllewin. Mae llawer o'r crynodiadau hyn yn rhai parhaus dros amser ac yn adlewyrchu effaith hirdymor newid diwydiannol: er eu bod yn tynnu sylw at bwysigrwydd mesurau 'ochr gyflenwi' i leihau anweithgarwch economaidd a dod â phobl yn ôl i'r farchnad lafur, mae'r mwyafrif o aelwydydd ar incwm isel eisoes mewn gwaith. Ar gyfer strategaeth economaidd ranbarthol, mae ysgogi galw a chreu "gwell swyddi, yn agosach at adref" yn nod ac yn her allweddol.

Adeiladu ar gryfderau: Asedau allweddol

2.26 Ar y cyfan, mae'r adolygiad o berfformiad economaidd dros y blynyddoedd diwethaf yn awgrymu cynnydd da, yn enwedig o ran creu swyddi. Ond mae yna fwlch parhaus mewn canlyniadau rhwng y rhanbarth a gweddill y DU. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod y mwyafrif o newid yn gynyddrannol: ni fydd y buddsoddiad a sicrhawyd triwyr Fargen Ddinesig (er enghraifft) wedi trosi'n welliannau yn y data economaidd. Mae hefyd yn adlewyrchu natur 'strwythurol' llawer o heriau'r rhanbarth, y mae rhai ohonynt (gan gynnwys y diffyg cynhyrchiant) yn cael eu rhannu â rhannau eraill o Gymru a Gogledd Lloegr.

2.27 Fodd bynnag, mae gan Dde Orllewin Cymru rai cryfderau a chyfleoedd economaidd arbennig sy'n rhoi llwyfan da ar gyfer twf yn y dyfodol. Mae gwireddu pob un o'r rhain yn peri her i strategaeth y dyfodol, yr ydym wedi'i nodi isod. 

Mae gennym asedau ymchwil prifysgol o bwys cenedlaethol a rhyngwladol

2.28 Mae presenoldeb addysg uwch cryf yn y rhanbarth, wedi'i angori gan gampysau Prifysgol De Abertawe a Phrifysgol Cymru Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin ac Abertawe[1]. Mae'r ddwy brifysgol wedi ehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac wedi gwneud cyfraniad pwysig at adfywiad ffisegol y rhanbarth (e.e. trwy gampws Bae Abertawe a datblygiad SA1 yng nghanol dinas Abertawe) ac maent yn 'ysgogwyr' economaidd allweddol yn eu rhinwedd eu hunain.

2.29 Y tu hwnt i hyn, mae ymchwil Prifysgol Abertawe yn cael ei ystyried yn 'arweinydd byd' mewn sawl pwnc (cysylltiedig â STEM yn bennaf)28. Ar draws y ddwy brifysgol, mae galluoedd ymchwil allweddol yn ymwneud â: 

  • Gwyddor data uwch, lle mae asedau Abertawe yn cynnwys y Ffowndri Gyfrifiadurol (sy'n dod â gwyddor cyfrifiadurol ac arbenigedd mathemategol ynghyd, a gweithio gyda diwydiant) a Chanolfan Economi Ddigidol CHERISH-DE.
  • Iechyd a meddygaeth, gyda ffocws cryf ar gymhwyso gwyddor data mewn iechyd, wedi'i gysylltu ag arbenigedd gwyddor cyfrifiadurol ehangach, ac yn cynnwys un o chwe safle Health Data Research UK (HDR-UK) yn genedlaethol.
  • Peirianneg a gweithgynhyrchu, yn enwedig mewn ymchwil deunyddiau, a gyda pherthnasedd i'r cyfleoedd ynni a datgarboneiddio a drafodir ymhellach isod. 

2.30 Mae yna hanes hir o gydweithio rhwng prifysgolion a diwydiant lleol, yn enwedig yn y sector gweithgynhyrchu. Mae enghreifftiau o raglenni diweddar yn cynnwys ASTUTE 2020, sy'n cefnogi ymchwil ddiwydiannol, datblygu ac arloesi mewn busnesau gweithgynhyrchu; a rhaglen Gweithgynhyrchu Peirianneg Dylunio Uwch (MADE) PCDDS, a gynlluniwyd i gefnogi cydweithredu â busnesau bach a chanolig. Cefnogwyd llawer o fentrau cydweithredu diwydiannol gyda chyllid Ewropeaidd: wrth i hyn ddirwyn i ben, bydd yn bwysig cynnal y momentwm a'r gallu sydd wedi'i feithrin yn ystod y blynyddoedd diwethaf, tra'n ehangu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ar draws y sylfaen busnesau bach a chanolig rhanbarthol ehangach.

2.31 Mae'r sylfaen ymchwil fasnachol ychydig yn llai. Ond bu buddsoddiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf (er enghraifft, Canolfan Dechnoleg Cymru TWI a Sefydliad Ymchwil Peirianneg a Deunyddiau Uwch ym Maglan), gan ychwanegu gwerth at y presenoldeb yn y brifysgol.

Mae ein seilwaith ynni yn helaeth, ac mae gennym beth o botensial cynhyrchu ynni carbon isel mwyaf y DU 

2.32 Mae gan Dde Orllewin Cymru sector ynni pwysig ers amser maith, yn enwedig yn gysylltiedig â diwydiant olew a nwy Sir Benfro. Bydd yr isadeiledd a'r sgiliau sy'n gysylltiedig â hyn yn bwysig wrth fanteisio ar botensial helaeth y rhanbarth mewn ynni adnewyddadwy. Mae sawl cyfle yn cael eu datblygu ar hyn o bryd trwy Strategaeth Ynni Rhanbarthol De Orllewin Cymru sy'n dod i'r amlwg. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Ynni tonnau a morol oddi ar arfordir Sir Benfro, gyda chyfres o brosiectau masnachol a chyn-fasnachol ar y gweill
  • Cynllun arfaethedig Ynys Ynni'r Ddraig ym Mae Abertawe, sy'n cynnig cyfle i gynhyrchu ynni gan y llanw, y tonnau ac o bosibl yr haul
  • Capasiti ar y tir, gan gynnwys fferm wynt ar y tir fwyaf y DU ym Mhen-y-Cymoedd ac ystod o gyfleoedd ym meysydd gwynt, biomas a gwastraff-i-ynni. 

2.33 Mae yna hefyd allu ymchwil a datblygu sylweddol i gefnogi potensial ynni adnewyddadwy'r rhanbarth. Mae gan y Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr (ORE) bresenoldeb yn Noc Penfro a, gyda sawl prifysgol arall, mae'n cymryd rhan mewn datblygu cyfleoedd newydd oddi ar Arfordir Sir Benfro. Mae gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe arbenigedd mewn dal a storio ynni solar, tra bod Canolfan Hydrogen Prifysgol De Cymru ym Maglan yn cefnogi cynhyrchu systemau storio ynni hydrogen yn arbrofol.

2.34 Felly mae ein potensial ynni yn ased allweddol i'w ddefnyddio - ar gyfer De Orllewin Cymru ac yn wir gweddill Cymru a'r DU. Yr her dros yr ychydig flynyddoedd nesaf fydd gwireddu'r cyfle, gan gydnabod bod rhai technolegau'n parhau'n gymharol eginol - a sicrhau y gellir dal y buddion yn lleol. Bydd persbectif hirdymor hefyd yn bwysig wrth ddatblygu achosion busnes ar gyfer rhai o brif brosiectau ynni'r rhanbarth - gan gydnabod, er bod ganddynt y potensial i fod yn drawsnewidiol, y gall y buddion llawn gymryd sawl blwyddyn i'w gwireddu.

Mae ein cymuned fusnes yn cynnig cyfle i dyfu 

2.33 Gwnaethom nodi'n gynharach lefelau cymharol isel dwysedd menter y rhanbarth a'i gyfradd dechrau busnesau gymharol isel. Ond mae busnes yn ganolog i strategaeth economaidd y dyfodol - yn syml, mae cyflogaeth naill ai'n cael ei chreu gan fusnesau presennol yn ehangu, busnesau newydd yn cychwyn, neu fusnesau o fannau eraill yn penderfynu lleoli yn y rhanbarth.

2.34 Yn ystod y blynyddoedd diwethaf collwyd rhai cwmnïau mwy o faint oedd wedi'u lleoli'n allanol (noder, er enghraifft, colli swyddi yn ddiweddar yn rhai o gadwyni cyflenwi modurol y rhanbarth). Rydym yn cadw cryfderau cymharol mewn gweithgynhyrchu, cynhyrchu bwyd a lletygarwch, gyda thystiolaeth o weithgarwch dechrau busnesau a buddsoddi mewnol yn gysylltiedig â'r cryfderau gwyddor data a amlygwyd uchod. Fodd bynnag, mae stoc fusnes y rhanbarth wedi'i lleoli'n eang: mae busnesau bach a chanolig 'twf uchel' wedi'u dosbarthu'n eithaf eang ar draws sectorau (ac ar draws y rhanbarth); mae modelau perchnogaeth yn amrywiol; ac mae cyfleoedd ar gyfer twf cynhyrchiant ar draws y dirwedd sectoraidd. Yn dilyn ein dadansoddiad o'r 'diffyg cynhyrchiant' uchod, yr her yw cryfhau 'ehangder a dyfnder' y sylfaen fusnes, gan gydnabod cwmpas ar gyfer twf ar draws yr economi, gan gynnwys (ond nid yn unig) yn y gweithgareddau hynny sy'n flaengar o ran technoleg ac arloesi.

Mae ansawdd amgylcheddol ac 'ymdeimlad o le' yn asedau allweddol 

2.35 Mae cyfuniad De Orllewin Cymru o asedau 'seiliedig ar le' yn nodedig ac yn gyfoethog, gan gynnwys y Parciau Cenedlaethol, yr arfordir, y cynnig chwaraeon a hamdden a dinas prifysgol sy'n cynnig 'crynoder' ac ystod eang o amwynderau metropolitan.

2.36 Y tu hwnt i'r ystod hon o swyddogaethau ac amwynderau, mae hunaniaeth unigryw'r rhanbarth yn rhan bwysig o'r cynnig. Mae dwy agwedd i hyn: 

  • Yn gyntaf, mae cynnig 'ansawdd bywyd' yn amlwg yn ffurfio rhan o'r cynnig i ymwelwyr, buddsoddwyr a darpar breswylwyr, ac un sy'n chwarae rôl economaidd allweddol. Mae cydbwysedd pwysig i'w daro rhwng ansawdd yr amgylchedd a chynaliadwyedd cymunedol ac amgylcheddol.

Yn ail, mae hunaniaeth y rhanbarth yn ymwneud â phwysigrwydd 'cymuned', y cysylltiadau sydd gan fusnesau a sefydliadau eraill â'r lleoedd y maent wedi'u lleoli ynddynt, a'r rhan sydd ganddynt yn lleol. Mae'n anoddach nodi hyn mewn termau economaidd confensiynol, ond mae'n ymwneud â'r graddau y gellir dal neu ymgorffori gwerth a pherchnogaeth yn lleol a'r heriau wrth dyfu'r sylfaen fusnes a chyflogaeth a amlygwyd uchod. 

Edrych i'r dyfodol: Tueddiadau trawsnewidiol allweddol 

2.39 Dylanwadir hefyd ar strategaeth y dyfodol gan ffactorau 'trawsnewidiol' ehangach a fydd yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd economaidd. Er bod y rhain yn berthnasol i bob economi ddatblygedig, bydd sut y rhoddir sylw iddynt a sut maent yn rhyngweithio â'n strwythur a'n cryfderau economaidd presennol yn sylfaenol. Mae tri 'macro duedd' yn arbennig o bwysig, yn ymwneud â datgarboneiddio, digideiddio a newid demograffig. Rydym yn ystyried pob un yn ei dro isod.

Datgarboneiddio yn Ne orllewin Cymru

2.40 Fel yr amlygwyd gennym yn y trosolwg cynharach o'r cyd-destun polisi, bydd ymrwymiad Llywodraethau'r DU a Chymru i sero net erbyn 2050 yn cael effaith ar bob agwedd ar bolisi.

2.41 Yn nhermau pennawd, mae Cymru wedi llwyddo i leihau allyriadau carbon tra'n cynnal twf economaidd: rhwng 1990 a 2018, gostyngodd cyfanswm yr allyriadau CO2 20%, ac roedd y wlad ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau lleihau carbon 2020. Fodd bynnag, daeth tua 85% o'r toriad mewn allyriadau o'r sector pŵer. Er bod y mwyafrif o sectorau eraill hefyd wedi sicrhau gostyngiadau (yn enwedig gweithgynhyrchu), roedd y rhain yn sylweddol llai, ac mewn gwirionedd cynhyrchodd y sector trafnidiaeth wyneb gynnydd net. Gan edrych i'r dyfodol a'r ymrwymiad sero net, argymhellodd y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd "lwybr wedi'i ysgogi gan arweinyddiaeth" sy'n gofyn am weithredu pellgyrhaeddol dros y deng mlynedd ar hugain nesaf.

"Mae'r camau sydd eu hangen i gyflawni'r targedau - gan gynnwys datgarboneiddio'r sector pŵer yn llawn, newid yn llwyr i werthiannau cerbydau trydan, gosod gwres carbon isel, a datgarboneiddio gweithgynhyrchu - yn mynd y tu hwnt i'r rhai sy'n ofynnol o'r byd ar gyfartaledd, yn unol â chyfrifoldeb Cymru fel cenedl gyfoethocach ag allyriadau hanesyddol mwy." - Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd.

2.42 Mae hyn yn peri heriau penodol i Dde Orllewin Cymru. Ar hyn o bryd, mae allyriadau carbon rhanbarthol yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru a'r DU. Mae'r rhain yn adlewyrchu rôl gwaith enfawr Tata ym Mhort Talbot yn bennaf, gosodiad diwydiannol o arwyddocâd cenedlaethol sy'n parhau i ddibynnu ar fewnbwn glo. Yr her ar gyfer strategaeth y dyfodol yw galluogi pontio sylfaen ddiwydiannol y rhanbarth, tra'n sicrhau gweithredu ehangach i ddatgarboneiddio'r systemau trafnidiaeth, tai a gweithgynhyrchu - a sicrhau bod De Orllewin Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol â rhanbarthau eraill. Bydd ein potensial ynni adnewyddadwy yn chwarae rhan bwysig yn hyn, ac rydym yn ei egluro ymhellach ym Mhennod 4. 

Trawsnewid digidol

2.43 Mae 'digideiddio' yn cyfeirio at drawsnewid yr economi trwy ddefnydd cynyddol aruthrol o ddata a datblygu technolegau digidol fel deallusrwydd artiffisial, dysgu peiriannau a roboteg. Nid yw digideiddio yn ymwneud â newid o fewn un diwydiant; yn hytrach, mae'n ymwneud â defnyddio technolegau 'pwrpas cyffredinol' gydag ystod eang o gymwysiadau ar draws diwydiannau.

2.44 Nid yw trawsnewid digidol yn newydd: mae'r cyfnod ers cyhoeddi Strategaeth Adfywio Economaidd Bae Abertawe ddiwethaf wedi gweld trawsnewid yn y defnydd pob dydd o dechnolegau digidol newydd, ac mae wedi'i gydnabod fel sbardun allweddol y strategaeth economaidd ers cryn amser. Mae tair agwedd ar effeithiau trawsnewidiol digideiddio yn arbennig o berthnasol: 

  • Effeithiau aflonyddgar ar ddiwydiant: Mae defnyddio technoleg ddigidol yn arwain at fwy o effeithlonrwydd, gyda chwmnïau sydd â'r capasiti a'r gallu i fuddsoddi a mabwysiadu yn fwy tebygol o elwa o enillion cynhyrchiant a gwell cystadleurwydd. Ond mae ei rym 'trawsnewidiol' yng nghydgyfeiriant technolegau i ysgogi diwydiannau cwbl newydd (dyfeisiau gwisgadwy neu chwarae gemau, er enghraifft), sydd yn eu tro yn ysgogi cymwysiadau mewn meysydd eraill. Canlyniad hyn yw torri lawr sectorau a marchnadoedd diwydiant traddodiadol, gan arwain at gydnabod digideiddio fel y 'pedwerydd chwyldro diwydiannol'.
  • Effeithiau ar y farchnad lafur: Mae amcangyfrifon o effaith bosibl awtomeiddio ar swyddi yn amrywio'n fawr, er bod y mwyafrif o astudiaethau'n awgrymu, er y bydd technolegau newydd yn cymryd lle llafur mewn rhai sectorau, mae'n debygol y bydd creu swyddi yn gwrthbwyso hyn. Fodd bynnag, mae technoleg yn newid y ffordd y mae gwaith yn cael ei wneud, gyda'r potensial i gael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar amodau gwaith; yr angen a'r cyfle i newid swyddi yn ystod bywyd gweithiol; galw cynyddol am sgiliau; a'r gallu i weithio o bell. 
  • Effeithiau ar wasanaethau, a allai o bosibl helpu i oresgyn pellenigrwydd cymharol, a chynnwys datblygu ffyrdd newydd o gyrchu iechyd a gofal, sydd yn ei dro yn effeithio ar ddatblygiad nwyddau a gwasanaethau newydd a'r galw am swyddi. 

2.45 Ar draws pob un o'r rhain, y neges ar gyfer strategaeth y dyfodol yw nad mater o sicrhau 'cyflenwad' technoleg a chysylltedd newydd yn unig yw ymateb i ddigideiddio (er bod hynny'n bwysig). Mae hefyd yn ymwneud ag ysgogi galw economaidd am sgiliau a thechnolegau newydd - ar flaen y gad o ran arloesi a thrwy'r economi gyfan.

Ymateb i newid demograffig 

Mae gan Dde Orllewin Cymru boblogaeth sy'n tyfu. Fodd bynnag, mae'r boblogaeth 'oedran gweithio' wedi gostwng ychydig dros y degawd diwethaf. Dros yr 20 mlynedd nesaf, mae disgwyl i'r boblogaeth 'oedran gweithio' ostwng tua 1%, gan olygu colled net o tua 4,700 o bobl 16-64 oed dros y cyfnod.

2.47 Mae heneiddio graddol y boblogaeth yn duedd hirdymor. Ymhlith y goblygiadau allweddol ar gyfer strategaeth economaidd y dyfodol y mae'r canlynol:

  • Newid bywydau gwaith: Mae'r cysyniad o 'oedran gweithio' yn dod yn fwyfwy hylifol, wrth i bobl weithio am gyfnod hirach ac yn fwy hyblyg (er y bydd gallu unigolion i weithio am gyfnod hirach yn dibynnu ar y math o swydd sydd ganddynt a'r amodau a'r gallu i addasu i rolau newydd a thechnolegau dros amser).
  • Newidiadau yn y galw am wasanaethau: Fel y dengys y dadansoddiad o berfformiad economaidd diweddar, bu twf cryf mewn cyflogaeth ac allbwn sy'n gysylltiedig ag iechyd a gofal cymdeithasol, wrth i'r galw gynyddu gan boblogaeth sy'n heneiddio. Bydd demograffeg newidiol yn cefnogi newidiadau yn y galw ehangach am nwyddau a gwasanaethau hefyd.
  • Cymarebau dibyniaeth cynyddol: Er bod disgwyliadau oes a chyfraddau genedigaeth yn ysgogi demograffeg newidiol, maent hefyd yn rhannol adlewyrchu cydbwysedd ymfudo, gyda phoblogaethau'n gostwng yn raddol mewn rhai cymunedau ôlddiwydiannol a gwledig, a mewnfudo, yn enwedig gan bobl hŷn, ar hyd rhannau o'r arfordir. Mae hon yn broses raddol - ond mae cadw a denu pobl iau hefyd yn helpu i gefnogi gwytnwch a chynaliadwyedd cymunedol, ac mae hyn ynddo'i hun yn dibynnu ar gynhyrchu gweithgarwch a galw economaidd lleol. 

Dwyn popeth ynghyd: materion allweddol ar gyfer y Cynllun Cyflawni 

2.48 Wrth grynhoi 'cyflwr y rhanbarth', ein hasedau allweddol a'r tueddiadau 'macro' hirdymor a fydd yn effeithio ar draws yr economi, rydym yn gweld y canlynol:

  • Mae gwendidau'r rhanbarth yn rhai 'strwythurol' yn bennaf. Maent yn gysylltiedig â phrosesau newid diwydiannol hirdymor, maent yn cael eu rhannu â llawer o rannau eraill o'r DU, ac yn mapio ar gynhyrchiant cymharol isel y rhanbarth. 
  • Yn erbyn hyn, bu cynnydd cryf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ran creu swyddi newydd ac wrth yrru prosiectau trawsnewidiol yn eu blaenau. Mae hyn yn rhoi sylfaen gref i adeiladu arni. 
  • Mae gan Dde Orllewin Cymru rai cryfderau a chyfleoedd nodedig - yn arbennig rhai sy'n gysylltiedig â photensial ynni adnewyddadwy'r rhanbarth, cysylltiadau prifysgoldiwydiannol a'i gynnig ar gyfer ansawdd bywyd. Mae gan y rhain hefyd y potensial i gael effaith gadarnhaol mewn perthynas â'r tueddiadau amgylcheddol, technolegol a demograffig hirdymor. 
  • Mae yna gyfle i adeiladu ar rai o'r cryfderau hyn a'u dal. Mae rhai yn dal i fod mewn cyfnod cymharol gynnar (er enghraifft, elfennau o'r cyfle ynni adnewyddadwy a'r potensial ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol), ond mae'r dechnoleg yn datblygu'n gyflym, a bydd rhai rhanbarthau eraill yn cystadlu'n ffyrnig am fuddsoddiad. 
  • Rydym yn rhanbarth amrywiol iawn, gyda chydbwysedd nodedig o asedau trefol, gwledig, parc cenedlaethol, arfordirol a diwydiannol. Ond mae cyffredinedd sylweddol ar draws De Orllewin Cymru, ac mae gan rai o'n cyfleoedd mawr ôl-troed ledled y rhanbarth. Mae rhai hefyd yn ymestyn y tu hwnt i'r rhanbarth ei hun, a bydd cysylltiadau sy'n edrych tuag allan yn bwysig. 
  • Mae angen cydbwyso cyfleoedd twf 'trawsnewidiol' gyda'r amodau ar gyfer gwelliannau cynyddrannol mewn gwytnwch a gallu busnes ar draws yr economi ranbarthol. Mae yna rai cyfleoedd nodedig ar 'flaen y gad' - ond bydd gwytnwch cyflogaeth a thwf cyflogau yn yr hirdymor yn dibynnu ar gynaliadwyedd, cynhyrchiant ac ehangu'r stoc ehangach o fusnesau bach a chanolig rhanbarthol - nid dim ond y cwmnïau 'arloesi'.

2.49 Yn seiliedig ar y ddealltwriaeth hon o'n heconomi a'i photensial, mae'r bennod nesaf yn cyflwyno ein fframwaith strategol, i arwain ein gweithredoedd dros y degawd nesaf.

3. Ein huchelgeisiau hyd at 2030 

Gan adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth, mae'r bennod hon yn cyflwyno ein huchelgeisiau ar gyfer economi De Orllewin Cymru. Mae'n egluro'r newidiadau yr ydym am eu gweld dros y degawd nesaf ac yn cyflwyno'r tair 'Cenhadaeth' a fydd yn arwain ein gweithgarwch a rennir.

 O'r dystiolaeth i fframwaith strategol...

3.1 Dros y deng mlynedd nesaf, rydym yn ceisio adeiladu ar y cryfderau a'r cyfleoedd unigryw a nodwyd yn y bennod flaenorol i ddatblygu economi fwy llewyrchus a chydnerth. Er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, rydym wedi nodi tair Uchelgais (datganiadau am natur economi De Orllewin Cymru yr ydym am weithio tuag atynt), gan gefnogi tair Cenhadaeth (meysydd blaenoriaeth y bydd ein gweithredoedd Cynllun Cyflawni a rennir yn canolbwyntio arnynt):

  • Uchelheisiau
    • Cydnerth a chynaliadwy
    • Mentrus ac uchelgeisiol
    • Cytbwys a chynhwysol
  • Cenadaethau
    • Cenhadaeth 1: Sefydlu De Orllwein Cymru fel arweinydd y DU ym maes ynniadnewyddadwy a datblygiad economi sero net
    • Cenhadaeth 2: Adeiladu Sylfaen fusnes grep, gydnerth sydd wedi'r 'gwreiddio'
    • Cenhadaeth 3: Tyfu a chynnal y cynnig 'profiad
  • Gweithredu
    • Piblinell o brosiectau wedi'u cysylltu i bob Cenhdaeth a'u datblygu trwy broses achos busnes

Dadbacio ein huchelgeisiau 

3.2 Mae ein tair Uchelgais yn cael eu castio'n eang. Maent yn cydnabod bod sicrhau ffyniant cynaliadwy, hirdymor a'r "De Orllewin Cymru yr ydym am ei weld" yn ymwneud â mwy na mynd ar drywydd twf economaidd fel nod er ei fwyn ei hun - ac y bydd ffyniant ei hun yn cael ei alluogi gan gynnydd ar draws nifer o feysydd.

3.3 Mae ein Huchelgeisiau yn ceisio economi sydd, dros yr hirdymor, yn fwy cydnerth a chynaliadwy; mentrus ac uchelgeisiol; a chytbwys a chynhwysol. 

Dadbacio ein Huchelgeisiau: Yr economi yr ydym am ei gweld

Cydnerth a chynaliadwy 

  • Cydnerth i newid mewn technoleg ac effeithiau digideiddio: 
    • Cefnogi cwmnïau i fabwysiadu ac addasu i dechnoleg newydd
    • Adeiladu gwytnwch y farchnad lafur trwy'r system sgiliau o ysgolion hyd at ddysgu fel oedolion
  • Cydnerth i newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio: 
    • Cynyddu gwytnwch sylfaen gweithgynhyrchu'r rhanbarth (gan gynnwys yn ei ddiwydiannau sylfaen cymharol garbon ddwys (presennol))
    • Cefnogi addasu a mabwysiadu ledled yr economi (ar draws sectorau a thrwy'r system stoc adeiladau a thrafnidiaeth)
    • Cyflwyno cysylltedd digidol cadarn i gefnogi arferion gwaith sy'n newid a gwell mynediad at gyflogaeth.
  • Cefnogi cwmnïau a chadwyni cyflenwi cydnerth ac sydd wedi'u gwreiddio'n well 
    • Datblygu'r sylfaen fusnes leol trwy fynediad at gefnogaeth, cyllid, rhwydweithiau a chaffael Gwreiddio arfer gorau a gwytnwch trwy'r gadwyn gyflenwi i gyd
    • Adeiladu capasiti a gallu rheoli yn barhaus.

Mentrus ac uchelgeisiol 

  • Uchelgeisiol mewn perthynas â'n cyfle ynni hirdymor 
    • Sicrhau gallu i yrru ein potensial yn ei flaen 
    • Integreiddio ein manteision ynni adnewyddadwy naturiol gyda'n cryfderau prifysgol a diwydiannol 
  • Mentrus mewn perthynas ag amodau newidiol y farchnad, technoleg a chyfleoedd
    • Buddsoddi yn y system sgiliau ar draws yr economi ac ysgogi galw am sgiliau lefel uwch a thechnegol, yn ogystal â dylanwadu ar y cyflenwad 
    • Buddsoddi yn y stoc eiddo masnachol - ar gyfer busnesau lleol sy'n tyfu yn ogystal â buddsoddwyr newydd 
  • Ysgogi modelau buddsoddi, arloesi a chyllido newydd 
    • Datblygu dewisiadau amgen cynaliadwy yn lle cyllid Ewropeaidd 
    • Hyrwyddo'r rhanbarth fel lleoliad i fuddsoddi, gweithio ac ymweld ag ef 

Cytbwys a chynhwysol

  • Cytbwys rhwng arloesi'n flaengar a thwf cynaliadwy ar draws yr economi 
    • Datblygu cyfleoedd ar gyfer arloesi 'newydd i'r cwmni', yn ogystal ag ymchwil a datblygu a thechnoleg newydd a datblygu cynnyrch
    • Cydnabod y cyfle ar gyfer ystod amrywiol o fodelau busnes a pherchnogaeth
  • Cytbwys yn ofodol, ledled y rhanbarth
    • Dathlu amrywiaeth ranbarthol a dosbarthiad eang o gyfleoedd
  • Creu twf hirdymor, tra'n cynnal a gwella asedau amgylcheddol a chymunedol craidd
    • Cydnabod a gwella gwerth cynhenid yr amgylchedd i ansawdd bywyd ac ansawdd cynnig o le
    • Cefnogi perchnogaeth gymunedol ar asedau economaidd, lle gall hyn gefnogi cyfle lleol a sicrhau enillion cynaliadwy. 

Gwireddu ein Huchelgeisiau 

3.4 Mae'r Uchelgeisiau a nodir uchod yn eang, ac yn gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Maent i gyd hefyd yn rhyng-gysylltiedig: nid ydynt yn 'themâu' ond yn hytrach yn weledigaeth o sut yr ydym am i'r economi esblygu. Dros y deng mlynedd nesaf, bydd yr holl gamau y mae awdurdodau lleol De Orllewin Cymru yn eu cymryd i gefnogi adfywio a datblygu economaidd yn cyfrannu at eu cyflawni - p'un a ydynt yn cael eu cyflawni ar raddfa ranbarthol, neu â ffocws mwy lleol iddynt. 

3.5 Fodd bynnag, er mwyn cyflawni ein nod cyffredinol o fod yn economi fwy "cydnerth a chynaliadwy; mentrus ac uchelgeisiol; a chytbwys a chynhwysol", mae angen i ni ganolbwyntio ar y degawd nesaf. Rydym wedi galw'r rhain yn dair Cenhadaeth, y byddwn yn eu defnyddio i arwain y gwaith o gyflawni. Y rhain yw: 

  • Sefydlu De Orllewin Cymru fel arweinydd y DU ym maes ynni adnewyddadwy a datblygiad economi sero net
  • Adeiladu sylfaen fusnes gref, gydnerth sydd wedi'i 'gwreiddio'
  • Tyfu a chynnal y cynnig profiad

3.6 Mae'r penodau canlynol yn egluro pob Cenhadaeth, gan nodi'r hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni, y cyfleoedd, yr heriau a'r risgiau y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hwy, a'r atebion a'r prosiectau yr ydym yn anelu i'w datblygu. Er ein bod yn egluro pob Cenhadaeth yn ei thro, dylid eu hystyried yn integredig: mae sefydlu De Orllewin Cymru fel arweinydd y DU mewn ynni adnewyddadwy ac economi sero net, er enghraifft, yn elfen allweddol o'r ddwy Genhadaeth arall.

4. Cenhadaeth 1: Arweinydd yn y DU ym maes ynni adnewyddadwy a'r economi sero net 

Gan edrych ymlaen at 2030, ein nod yw gwneud De Orllewin Cymru yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy yn y DU. Mae hynny'n golygu manteisio ar ein hasedau naturiol a'n galluoedd diwydiannol ac ymchwil a datblygu i adeiladu presenoldeb o arwyddocâd rhyngwladol mewn technolegau tanwydd yn y dyfodol ac i ysgogi datgarboneiddio ein sylfaen ddiwydiannol a'r economi ehangach.

Asedau cyfredol:

  • Crynodiad a gyfleoedd ar y môr ac ar y tir wahanol gamau obarodrywydd ar gyfer y farchnad
  • Strategaeth Rhanbarthol sy'n dod I'r amlwg a chefnogaethLlywudraeth Cymru Asedau Ymchwil a Datblygu
  • Prifysgol a gallu corfforaethol cynyddol ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol

Cylfoedd nesaf:

  • Cysylltu creu ynni gyda datgarboneiddio diwydianol
  • Manteisio I'r eithaf ar gyfleoedd a gyflwynir gan y Sylfaen wybodaeth / ymchwil sy'n bodoli eisoes
  • Trosi prsiectau ar gamau cynnar yn gynigion buddsoddiadwy

Heriau allweddol:

  • Gwrthbwyso pwysau diwydiant presennol sy'n uchel o ran dwyster carbon
  • Sicrhau / cynnal gallu I yrru'r agenda strategol a phrosiectau mawr yn eu blaen
  • Cystadleuaeth gan (a sefyddlu cydweithrediaddau gyda) rhanbarthau eraill
  • Sicrhau cefnogaeth Llywodraeth

Gweithredu allweddol:

  • Gallu ychwanegol I yrru'r agenda yn ei blaen
  • Datblygu prsiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy mawr y rhanbarth
  • Denu a sbarduno duddsoddiad diwydiannol
  • Newydd Datgarboneiddio trafnidiaeth a'r stoc tai

Ffigur 4-2: Asedau ynni allweddol

  • South Hook LNG
  • Dragon LNG
  • Fferm Wynt Wear Point
  • STEP
  • Purfa Olew Valero
  • Gorsaf Bwer Penfro
  • Parth Arddangos Sir
  • Ardal Forol Doc Penfro
    • Catapwlt Ynni Adnewyddadwy oddi ar yr Afrordir
    • Canolfan Ragoriaeth Peirianneg
    • Ynni Morel
    • Ardal Profi Ynni'r Mor
  • Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC
  • Morflawdd
  • Ynys Ynni'r Ddraig
  • FLEXIS
  • Gorsaf Bwer Bae Baglan
  • Canolfan Hydrogen Prifsygol De Cymru
  • Parc Ynni Baglan
  • Cartrefi yn Orsafoedd Pwer
  • Mynydd Y Gwair
  • Fferm wynt Alltwalis
  • Fferm Wynt Gorllwein Coedwig Brechta
  • Fferm Wynt Dyffryn Brodyn 

4.3 Mae asedau ynni adnewyddadwy allweddol yn cynnwys y cyfuniad o weithgarwch ynni morol sy'n gysylltiedig â Morlun Doc Penfro a'r cynllun ynni llanw, gwynt ac ynni solar arfaethedig yn Ynys Ynni'r Ddraig ym Mae Abertawe. Maent hefyd yn cynnwys ystod o gynlluniau gwynt ar y tir a gwastraff o ynni ledled y rhanbarth, a chynllun prototeip ymasiad niwclear posibl yn Sir Benfro. Mae'r Ganolfan Hydrogen ym Maglan yn canolbwyntio ar ddatblygiad arbrofol cynhyrchu a storio hydrogen adnewyddadwy, yn ogystal ag ymchwil a datblygu ym meysydd cerbydau hydrogen, cymwysiadau celloedd tanwydd a systemau ynni. Mae'r prosiect Systemau Ynni Integredig Hyblyg (FLEXIS) yn darparu parth arddangos ynni craff ym Mhort Talbot, sy'n canolbwyntio ar systemau ynni lleol, adfer gwres a mabwysiadu cerbydau allyriadau isel.

4.4 Fodd bynnag, er bod maint y gweithgarwch yn sylweddol, mae risg na fydd y potensial yn cael ei wireddu'n llawn, am dri rheswm: 

  • Mewn rhai achosion, mae technolegau mewn cyfnod cymharol gynnar. Maent hefyd yn gymhleth, ac mewn llawer o achosion bydd angen cyllid hirdymor arnynt, yn fasnachol neu gan y Llywodraeth. Bydd angen i rywfaint o hyn ddod ymlaen mewn amodau o rywfaint o ansicrwydd: er enghraifft, mae Llwybr Hydrogen Llywodraeth Cymru yn nodi "mae ansicrwydd ynglŷn â'r union rôl a fydd gan hydrogen o ran cefnogi datgarboneiddio yng Nghymru .... [ond er gwaethaf hyn], mae angen dybryd o hyd i gymryd y camau cyntaf i ddatblygu'r sgiliau, yr arbenigedd a'r gadwyn gyflenwi ar gyfer tyfu hydrogen yng Nghymru".
  • Gall meysydd a thechnolegau sy'n cystadlu symud yn gyflymach o fewn yr amgylchedd technoleg deinamig hwn. Mae gan Dde Orllewin Cymru asedau unigryw - ond os cyfeirir capasiti a buddsoddiad ychwanegol mewn man arall, gallai rhai o'r manteision hyn leihau.
  • Nid yw buddion lleol yn cael eu dal yn awtomatig trwy'r broses cynhyrchu ynni. Y newyddion da yw bod yna sylfaen ymchwil a datblygu gadarn yn Ne Orllewin Cymru i fanteisio ar y cyfle (gweler, er enghraifft, y Ganolfan Hydrogen y cyfeiriwyd ati uchod; Canolfan SPECIFIC Prifysgol Abertawe), yn ogystal â chynlluniau (fel y prosiect Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol yn Noc Penfro) i adeiladu cyfleoedd cadwyn gyflenwi gyda busnesau bach a chanolig. Bydd yn bwysig bod y rhain yn cael eu gyrru'n galed, er mwyn sicrhau bod y rhanbarth yn elwa gan werth ychwanegol buddsoddiad ynni adnewyddadwy.

4.5 Bydd darparu cyfleoedd ynni adnewyddadwy'r rhanbarth ar raddfa fawr - a sicrhau eu bod wedi'u hintegreiddio â pholisi ehangach ac yn sicrhau'r buddion lleol mwyaf posibl i fusnesau a chymunedau lleol yn ganolog i'r strategaeth ranbarthol dros y blynyddoedd i ddod: 

Meysydd gweithredu allweddol 

  • • Byddwn yn meithrin gallu ac arbenigedd i fanteisio i'r eithaf ar botensial ynni adnewyddadwy a sero net De Orllewin Cymru 
    • Mae yna sawl corff cyhoeddus sydd â gwybodaeth ac arbenigedd, gan gynnwys (er enghraifft) Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac Ynni Morol Cymru, yn ogystal ag asiantaethau Llywodraeth y DU fel Catapwlt ORE. Ond mae'r agenda'n gymhleth: gallai sefydlu 'system ddatgarboneiddio' ranbarthol helpu i fynd i'r afael â nodau ledled y rhanbarth (gan gynnwys mewn perthynas â sgiliau a seilwaith) a chydlynu blaenoriaethau buddsoddi y tu hwnt i gyflawni mentrau penodol.
  • Byddwn yn ceisio sicrhau buddsoddiad newydd mewn seilwaith ynni adnewyddadwy 
    • Yn gysylltiedig â'r meithrin gallu a ddisgrifir uchod, byddwn yn gweithio gyda Llywodraethau Cymru a'r DU a gyda'r sector preifat i ddadlau dros fuddsoddi mewn cynlluniau 'o bwys cenedlaethol' fel Ynys Ynni'r Ddraig a chynnig morol Sir Benfro, yn ogystal â chynlluniau ar raddfa lai, gan gynnwys ar dir cyhoeddus.
  • Byddwn yn gweithio i gyflawni'r Strategaeth Ynni Ranbarthol 
    • Datblygwyd y Strategaeth Ynni Ranbarthol ochr yn ochr â'r Cynllun hwn a chaiff ei chyhoeddi yn 2021. Byddwn yn gweithio i fwrw ymlaen â phrosiectau System Ynni 

Meysydd gweithredu allweddol 

  • Lleol peilot ac olynol (fel y prosiect peilot sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn Nheyrnas Ynni Aberdaugleddau), a byddwn yn ceisio cysylltu amcanion system ynni'r Strategaeth Ynni â chyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â busnesau lleol a datblygu'r gadwyn gyflenwi.

Datgarboneiddio ein sylfaen ddiwydiannol

4.6 Mae dwysedd carbon uchel rhai o weithgareddau diwydiannol De Orllewin Cymru yn wendid: er bod allyriadau carbon cymharol uchel y rhanbarth yn y data yn cael eu hachosi i raddau helaeth gan y diwydiant dur, mae olew a nwy hefyd yn bwysig i'r rhanbarth, yn ogystal â'n sylfaen weithgynhyrchu fawr.

4.7 Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu rhaglen ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol trwy fenter Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), a ariennir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU ac sy'n cynnwys sawl cwmni ynni a diwydiannol trwm yn Ne Orllewin Cymru (gan gynnwys Tata, Valero a RWE, gweithredwr purfa Penfro). Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar gynhyrchu a defnyddio hydrogen ac ar fecanweithiau i sicrhau datgarboneiddio diwydiannol ar raddfa fawr trwy 'newid tanwydd': fel gyda rhai o'r mentrau a drafodwyd uchod, mae'r cynnig yn ei ddyddiau cymharol gynnar, er y bydd newid ar raddfa fawr yn bwysig ar gyfer cystadleurwydd y rhanbarth yn y dyfodol. Yn fwy eang, mae cyfle i ddenu buddsoddiad ychwanegol i'r rhanbarth, y tu hwnt i ddatgarboneiddio'r stoc bresennol: mae prosiectau 'trawsnewidiol' fel y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer y Rheilffyrdd sydd ar ddod yn darparu enghreifftiau o fuddsoddiadau a gefnogir gydag arian cyhoeddus, ond bydd y cyfuniad presennol o weithgarwch cysylltiedig ag ynni yn ffactor bwysig wrth ddenu lleoliadau busnes newydd.

4.8 Adeiladu ar bresenoldeb cynyddol y rhanbarth ym maes ynni adnewyddadwy a'r ffocws presennol ar ddatgarboneiddio diwydiannol:

Meysydd gweithredu allweddol 

  • Byddwn yn datblygu'r cyfle a gyflwynir gan SWIC ac yn ceisio sicrhau buddsoddiad yn y dyfodol i gefnogi cystadleurwydd diwydiannol y rhanbarth yn y dyfodol
    • Fel gydag elfennau eraill o'r agenda carbon isel, mae technoleg yn datblygu'n gyflym ac mae graddfa'r buddsoddiad mewn prosiectau a mentrau arddangos fel SWIC yn sylweddol. Trwy ein gallu cynyddol i yrru'r agenda datgarboneiddio yn ei blaen, byddwn yn ceisio sicrhau buddsoddiad dilyniannol, gan weithio gyda Llywodraethau'r DU a Chymru fel y bo'n briodol. 
  • Byddwn yn tyfu'r sylfaen ddiwydiannol carbon isel ehangach ac yn hyrwyddo potensial y rhanbarth i fuddsoddwyr newydd 
    • Yn gysylltiedig â chamau gweithredu i hyrwyddo'r rhanbarth fel cyrchfan buddsoddi, byddwn yn tynnu sylw at ein potensial i fuddsoddwyr newydd (gan gynnwys ein presenoldeb o ran prifysgol, ein sylfaen sgiliau a'n mynediad at safleoedd ac adeiladau) a byddwn yn parhau i ddatblygu buddsoddiadau arfaethedig mawr fel y GCRE.

Datgarboneiddio'r economi ehangach 

4.9 Bydd datgarboneiddio yn ymestyn y tu hwnt i'r sylfaen ddiwydiannol, a bydd yn effeithio ar dai a gwres domestig, eiddo dibreswyl a'r rhwydwaith trafnidiaeth. Mae llawer eisoes ar y gweill: 

  • Mewn perthynas â'r stoc dai, mae Cymdeithas Dai Pobl yn arwain un o brosiectau ôl-ffitio, cynhyrchu ynni a rheoli ynni craff yn y gymuned mwyaf y DU yn Penderi, Abertawe, a bydd ei ganlyniadau yn llywio'r cynllun Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer mwy, a ariennir gan y Fargen Ddinesig.
  • Mewn perthynas â thrafnidiaeth, mae'r holl awdurdodau lleol yn cymryd rhan mewn rhaglenni datgarboneiddio fflyd, a bydd Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru wrth wraidd system drafnidiaeth carbon is a mwy cynaliadwy y rhanbarth.
  • Mewn perthynas ag ailddefnyddio ac atal gwastraff, mae gan Gymru eisoes rai o gyfraddau ailgylchu trefol uchaf y byd - gyda holl awdurdodau De Orllewin Cymru (a Chymru gyfan) yn gweld cynnydd cyflym mewn cyfraddau ailgylchu dros yr ugain mlynedd diwethaf.

4.10 Yn gysylltiedig â'r Strategaeth Ynni Ranbarthol, dros y blynyddoedd i ddod:

Meysydd gweithredu allweddol 

  • • Adeiladu ar gynlluniau presennol, byddwn yn symud ymlaen gyda datgarboneiddio'r stoc tai a busnes 
    • O safbwynt datblygu economaidd - a'n huchelgeisiau ehangach i sicrhau sylfaen fusnes 'wedi'i gwreiddio a mwy cydnerth', dylai hyn ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygu cadwyn gyflenwi leol ac atebion cyflogaeth yn y gymuned (yn ogystal, mewn rhai achosion, perchnogaeth gymunedol leol). 
  • Byddwn yn parhau i ddatblygu Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru 
    • Yn ogystal â'r Metro ei hun, bydd hyn yn arwain at rwydwaith trafnidiaeth wedi'i integreiddio'n well a mwy cynaliadwy trwy ymgorffori gwasanaethau bws a theithio llesol a datblygu cyfleoedd i weithio a chael mynediad at wasanaethau yn agosach at adref. 
  • Byddwn yn gweithio i sicrhau economi gylchol 
    • Gan adeiladu ar ein perfformiad mewn lleihau gwastraff a thrawsnewid cyfraddau ailgylchu, mae cyfleoedd i gynyddu ailddefnyddio nwyddau a deunyddiau gan gynnig potensial ar gyfer atebion yn y gymuned i gynyddu atgyweirio a'r defnydd o dechnoleg i gynyddu'r cwmpas ar gyfer ailddefnyddio deunyddiau a llai o wastraff bwyd. 

5. Cenhadaeth 2: Adeiladu sylfaen fusnes gref, gydnerth sydd wedi'i gwreiddio

Mae busnes yn greiddiol i'n strategaeth hyd at 2030: trwy ehangu cwmnïau presennol a dechrau a denu rhai newydd y bydd cyflogaeth newydd yn cael ei chynhyrchu a sicrhau twf cynhyrchiant. Mae hynny'n golygu cefnogi twf busnes cynaliadwy - sy'n flaengar ym maes technoleg ac arloesi ac ar draws yr economi. 

Crynodeb o asedau, cyfleoedd, heriau a chamau gweithredu

Asedau cyfredol

  • Cysylltiadau prifysgoldiwydiant cryf Rhywdweithiau busnes lleol, clystyrau sy'n dod I'r amlwg a rhai busnesau angora
  • Diddordeb polisi cynyddol mewn annog busnesay sydd wedi'u 'gwreiddio' yn lleol a chadwyni cyflenwi lleol
  • Sedydliadau Cymru gyfan (e.e Banc Datblygu)

Cyfleoedd nesaf

  • Cefnogi dynamiaeth (trwy entrepreneuriaeth ac ehangiad ar y cam cynnar)
  • Cefnogi gwynwch (trwy fabwysiadu technoleg, gallu o ran rheoli ac olyniaeth)
  • Cefnogi datblygiad cadwyn gyflenwi leol Adeiladu 'ecosystem' arloesi effeithiol (ac eang)

Heriau allweddol

  • Cynnig 'seilwaith' gwan (e.e eiddo masnachol, tarfu ar ddechrau ac ehangu busnesau)
  • Heriau o ran sgiliau a gallu
  • Sylfaen cefnogaeth sector preifat gyfyngedig
  • Mynediad at gyllid twf
  • Rhwystrau at fasnacheiddiad
  • Dwysedd busnes cyfyngedig a 'gollyngiad' allan o'r rhanbarth

Gweithredu allweddol

  • Cyflymy cefnogaeth ar gyfer mabwysiadu ac arloesi (wedi'I gysylltu I argymhellion Cymru 4.0 mewn perthynas a busnes, sgiliau a chefnogaeth arloesi)
  • 'Caffael blaengar' o fewn busnesau lleol a system datblygu cadwyn gyflenwi

Deall yr achos dros y Genhadaeth: y rhesymeg graidd

5.1 Amlygodd yr adolygiad o'r dystiolaeth ym Mhennod 2 ganlyniadau cyflogaeth cadarnhaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, twf yn y stoc fusnes, a hanes cryf mewn gweithgareddau ymchwil drosiadol rhwng sylfaen wybodaeth y brifysgol a diwydiant.

5.2 Fodd bynnag, mae'r economi yn parhau i raddau mewn proses o 'ailstrwythuro', oddi wrth gryfderau traddodiadol mewn rhannau o'r sector gweithgynhyrchu a thuag at dwf mewn meysydd fel gwybodaeth a chyfathrebu a gofal iechyd (yn ogystal ag mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r sector ynni sy'n tyfu a amlygir yng Nghenhadaeth 1). Mae newid cydberthynas masnachu hefyd yn peri heriau (yn benodol, ond nid yn unig, ym meysydd amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd), y mae rhai ohonynt eto i'w gweld yn llawn[1].

5.3 Bydd y trawsnewid hwn yn dod â chyfleoedd yn y sectorau hynny sy'n tyfu - ac fel yr amlygwyd yn gynharach, mae cyfleoedd ar gyfer twf ac enillion cynhyrchiant yn draws-sector. Fodd bynnag: 

  • Hyd yn oed pan fydd colli swyddi mewn un diwydiant yn cael eu disodli gyda swyddi mewn diwydiant arall, mae perygl na fyddant yn cynhyrchu'r un lefel o allbwn (ac felly'n sicrhau'r un tâl).
  • Mae gan economi ehangach De Orllewin Cymru sylfaen fusnes gymharol gul: mae dwysedd busnes yn gymharol isel, ac ychydig o fusnesau brodorol o faint canolig mawr neu fwy sydd yno. Fodd bynnag, mae'r gobaith o fewnfuddsoddi ar raddfa fawr wedi lleihau dros yr ugain mlynedd diwethaf. Y perygl yw, wrth i'r economi esblygu, efallai na fydd colledion yn cael eu gwrthbwyso'n llawn gan enillion, ac mae'r 'bwlch cynhyrchiant' yn parhau neu'n ehangu. 

5.4 Mewn ymateb, mae ein Cenhadaeth i greu "sylfaen fusnes gref, gydnerth ac wedi'i gwreiddio" yn ceisio annog ffocws parhaus ar arloesi a thwf gallu mewn meysydd blaengar, wedi'i gydbwyso â dull sy'n anelu at sicrhau mwy o wytnwch, potensial twf a'r gallu i gael cyflogaeth barhaus ar draws sylfaen fusnes ehangach y rhanbarth, sy'n gysylltiedig â'r rheidrwydd datgarboneiddio yng Nghenhadaeth 1.

Tyfu'r elfen arloesol a chyflymu ymlediad

5.5 Mae'r polisi arloesi yng Nghymru mewn sefyllfa o newid, gan fod y cyllid Ewropeaidd sydd wedi cynnal sawl rhaglen fawr (gan gynnwys y rhaglenni SMART 'craidd' a ddarperir trwy Lywodraeth Cymru45 a'r ystod eang o gynlluniau sector neu thematig megis, yn Ne Orllewin Cymru, ASTUTE a RICE46) yn dod i ben; a'r ystod o chwaraewyr sy'n ymwneud â pholisi arloesi
(gan gynnwys, o bosibl, rôl fwy gweithredol i Lywodraeth y DU) yn cynyddu.

5.6 Ar yr un pryd, mae consensws, a amlygwyd mewn adolygiad diweddar i Lywodraeth Cymru, bod rôl polisi arloesi wedi esblygu, i ganolbwyntio'n llai cul ar dechnoleg, a mwy o gofleidio
gweithredoedd sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau cymdeithasol (efallai yn arbennig o bwysig o ystyried twf y sector iechyd a gofal a'r heriau demograffig hirdymor a amlygir ym Mhennod 2) ac effaith newid yn yr hinsawdd47. Mae'r adolygiad hefyd yn pwysleisio'r angen i ddatblygu gweithgareddau ymchwil trosiadol ymhellach ac i gysylltu gweithgarwch cefnogi arloesi yn gliriach gyda'r ystod o raglenni cyllid, cynghori, rhwydweithio a rhaglenni eraill sy'n cyfrannu at 'ecosystem' arloesi llwyddiannus.

'Heddiw, mae arloesi yn ymwneud â chymaint mwy na gwyddoniaeth a thechnoleg' - Adroddiad Dyfodol Polisi Arloesi

5.7 Bydd yn bwysig bod gweithgarwch rhanbarthol yn Ne Orllewin Cymru yn ychwanegu gwerth at bolisi cenedlaethol Cymru sy'n esblygu (a'r ystod eang o raglenni a sefydliadau ar lefel y DU) ac yn cyd-fynd â nhw. Dros y blynyddoedd nesaf: 

Meysydd gweithredu allweddol 

  • Byddwn yn archwilio cynnig arloesi rhanbarthol sydd wedi'i integreiddio'n well, ar ffurf 'Sefydliad Ymchwil a Thechnoleg rhithwir' ar gyfer De Orllewin Cymru 
    • Mae'r prifysgolion yn asedau rhanbarthol allweddol ac mae ganddynt hanes cryf o ymchwil drosiadol gyda diwydiant. Fodd bynnag, mae'r dirwedd ehangach ychydig yn dameidiog, a gall ddod yn fwyfwy felly wrth i'r rhaglenni presennol ddod i ben. Ein nod yw cyflawni model lle nad oes "drws anghywir", gan fanteisio i'r eithaf ar ein galluoedd prifysgol a'u galluogi i ddiwallu angen y diwydiant. Gallai hyn ymestyn ar draws ystod o sectorau a thechnolegau, yn gysylltiedig (er enghraifft) â chynlluniau'r dyfodol ar gyfer datblygu'r cynnig ymchwil a datblygu sy'n gysylltiedig â Pentre Awel yn Llanelli, a chyfranogiad agos Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant a datblygu Yr Egin a'i chlwstwr creadigol cysylltiedig. Efallai y bydd hefyd yn croesawu galluoedd arloesi ehangach, gan gynnwys cefnogaeth mewn sgiliau a gallu rheoli ac (yn gysylltiedig â'n dull ehangach o ddatblygu sgiliau rhanbarthol) mynediad at dalent i alluogi busnesau bach a chanolig arloesol i wireddu eu potensial. 
    • Efallai y bydd sawl opsiwn wrth symud y cynnig hwn yn ei flaen - ond y pwynt allweddol yw ein bod yn manteisio i'r eithaf ar werth ein hasedau a rennir i ddarparu gwasanaeth cydgysylltiedig ar draws y llywodraeth, addysg uwch a'r sector preifat.

Tyfu cynhyrchiant a gwytnwch ar draws yr economi

5.8 Ar draws y stoc fusnes ehangach, bu newidiadau yn y dirwedd gefnogi ers cynhyrchu'r Strategaeth Adfywio ddiwethaf. Yn genedlaethol, mae Busnes Cymru yn darparu porth canolog i ystod o gynhyrchion cefnogi, ac ers 2017, mae Banc Datblygu Cymru wedi cydgrynhoi cymorth benthyciad ac ecwiti gyda chefnogaeth gyhoeddus yn gerbyd 'hyd braich' a gydnabyddir yn eang. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhywfaint o fuddsoddiad uniongyrchol (yn gyffredinol mewn perthynas â chwmnïau mwy, rhai gweithgynhyrchu yn aml), ac mae holl awdurdodau lleol De Orllewin Cymru yn cynnig gwasanaethau cymorth (yn ychwanegol at y gwasanaethau arloesi cysylltiedig â phrifysgol a amlygir uchod yn aml).

5.9 Amlygodd adolygiad diweddar o dirwedd cymorth busnes Cymru dair her, sy'n berthnasol i'r strategaeth a nodir yn y Cynllun hwn:

  • Yn gyntaf, bregusrwydd cymharol Cymru i siociau economaidd: swyddogaeth o'r broses barhaus o ailstrwythuro a amlygir yn y sylfaen dystiolaeth. Mae hyn wedi cyfrannu at y ffocws polisi mwy diweddar ar dwf busnes cynhenid. Fodd bynnag, er bod 'siociau' economaidd yn aml yn cael eu gweld trwy ddigwyddiadau mawr 'unwaith yn unig' (cau gweithfeydd, rhaglenni diswyddo ac ati), mae trawsnewid sy'n cael ei ysgogi gan dechnoleg ledled yr economi yn fwy yn ei effaith gyffredinol, a bydd y gallu i addasu ac ymateb yn bwysig ar draws meintiau cwmnïau a sectorau.
  • Yn ail, maint y cynnig cymorth, a'r nifer gymharol fach o gwmnïau y mae'n eu cyrraedd (y casgliad yw bod ystod lawer ehangach o fusnesau bach a chanolig a allai elwa o fod yn rhyngweithio â'r system gymorth, pe bai'r cyrhaeddiad yn fwy).
  • Yn drydydd, lledaenu buddion, yn enwedig y graddau y mae enillion mewn perfformiad busnes yn cael eu dal mewn cyflogau a threthi a lle bo buddion i'r gadwyn gyflenwi yn cronni'n rhanbarthol. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o bwyslais ar hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, trwy ddatblygiad y 'contract economaidd' a gynigiwyd yn y Cynllun Gweithredu Economaidd.

5.10 Dros y blynyddoedd i ddod, rydym am greu system sydd wedi'i hintegreiddio'n well ar draws llywodraeth leol a chenedlaethol, lle mae cynnig 'cefnogaeth' cryfach yn gysylltiedig â chyflenwi sgiliau ac adeiladau, rôl y sector cyhoeddus fel prynwr a chomisiynydd o fewn yr economi leol ac mewn sicrhau bod mynediad eang at waith teg a chynaliadwy:

Meysydd gweithredu allweddol 

  • Byddwn yn ceisio pecyn cymorth wedi'i gydgysylltu'n well ar gyfer busnesau
    • Bydd angen archwilio cwmpas hyn, a'r rhyngweithio rhwng cyflawni ar wahanol lefelau daearyddol. Ond y cynnig yw bod angen ysgogi dwysedd busnes, cyfraddau dechrau busnes ac entrepreneuriaeth, a gwytnwch a'r 'gallu i addasu' i newid ar draws y sylfaen busnesau bach a chanolig - gan gydnabod bod 'menter' yn cynnwys ystod o fathau sefydliadol a modelau perchnogaeth . 
  • Byddwn yn cysylltu hyn â phŵer prynu'r sector cyhoeddus 
    • Yn ddiweddar, bu ffocws ar y rôl y gall caffael cyhoeddus ei chwarae mewn cefnogi twf economaidd lleol. Adlewyrchwyd hyn yn adolygiad Llywodraeth Cymru o gaffael, sydd wedi archwilio cysyniadau 'adeiladu cyfoeth cymunedol' a'r 'sefydliadau angori' yn y broses gaffael , ac mae awdurdodau lleol De Orllewin Cymru i gyd wedi ymrwymo i'r defnydd rhagweithiol a blaengar o gaffael. Y nod yma yw sicrhau bod busnesau bach a chanolig lleol yn gallu tendro'n llwyddiannus am waith (yn gysylltiedig â'r cynnig cymorth busnes uchod) a defnyddio hyn fel sbringfwrdd ar gyfer twf yn y dyfodol. 
  • Byddwn yn buddsoddi mewn datblygu mynediad at safleoedd ac adeiladau
    • Mae'r dystiolaeth yn dangos bod methiant parhaus yn y farchnad o ran cyflenwi eiddo masnachol. Effaith hyn yw rhwystro ehangiad busnesau bach a chanolig lleol (yn ogystal â chyflwyno rhwystr i ddenu buddsoddwyr mwy). Ar draws yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, byddwn yn ceisio ysgogi datblygiad ar safleoedd strategol allweddol y rhanbarth ym Maglan, Glannau Port Talbot, Ffordd Fabian, Felindre, Cross Hands a Dyfrffordd y Ddau Gleddau, yn ogystal ag o fewn yr ystod eang o safleoedd llai a fydd yn cynorthwyo i gefnogi twf gwasgaredig ar draws y rhanbarth, yn gyson â'n hamcanion datgarboneiddio ehangach. Byddwn hefyd yn gweithio i ddatblygu llety swyddfeydd canol dinas newydd yn Abertawe, gan adeiladu ar fuddsoddiad diweddar a pharhau gyda thrawsnewidiad y ddinas. 
  • Byddwn yn hyrwyddo De Orllewin Cymru fel lleoliad buddsoddi 
    • Er bod y Genhadaeth hon yn canolbwyntio ar dyfu ein stoc fusnes leol, yn hanesyddol bu mewnfuddsoddi yn bwysig yn Ne Orllewin Cymru, ac mae'n parhau i fod yn sbardun allweddol mewn sgiliau a chyflogaeth ac yn ffynhonnell galw am gyflenwyr lleol. Rydym yn croesawu buddsoddiad newydd: byddwn yn mynd ati i hyrwyddo asedau'r rhanbarth (yn gysylltiedig â'i gynnig ansawdd bywyd ac economi ymwelwyr a ddisgrifir yng Nghenhadaeth 3) a byddwn yn gweithio gyda buddsoddwyr i sicrhau mynediad at sgiliau a chysylltiadau cadwyn gyflenwi, gan eu hymgorffori ymhellach yn yr economi leol. 
  • Byddwn yn parhau i fuddsoddi yng nghapasiti sgiliau'r rhanbarth
    • Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd gwelliant ym mhroffil sgiliau'r rhanbarth, ac mae gennym hanes cryf o feithrin dealltwriaeth o alw gan gyflogwyr a'i gysylltu'n glir â darpariaeth. Ochr yn ochr â'r mesurau yn y Cynllun hwn i gynyddu'r galw am sgiliau ac ymgysylltu â chyflogwyr, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cryfhau cyflenwad ar bob lefel, trwy seilwaith arbenigol, buddsoddi mewn mynediad at gyflogaeth a ffocws parhaus (gan adeiladu ar Raglen Sgiliau a Thalent y rhanbarth) ar ymateb i alw a chyfle economaidd lleol.
  • Ar draws ein holl weithredu, byddwn yn gwella mynediad at gyflogaeth deg a chadarn 
    • Er gwaethaf llwyddiant y rhanbarth mewn creu swyddi, mae anweithgarwch economaidd yn parhau i fod yn uwch yma nag yng ngweddill y DU. Er bod tlodi mewn gwaith yn fater sylweddol - ac yn un y mae ein ffocws ar gynhyrchiant a gwytnwch ar draws pob sector yn ceisio mynd i'r afael ag ef - mae tystiolaeth gref fod bod mewn gwaith yn cefnogi canlyniadau cadarnhaol ar draws ystod o fesurau . Gan adeiladu ar ein profiad o raglenni llwyddiannus fel Workways+, byddwn yn sicrhau ystod o gefnogaeth i alluogi pobl i ymuno â'r farchnad lafur a gwneud cynnydd. 

6. Cenhadaeth 3: Tyfu a chynnal cynnig 'profiad' De Orllewin Cymru

Mae gan Dde Orllewin Cymru amgylchedd gwych a chynnig 'ansawdd bywyd' unigryw. Mae hwn yn ased allweddol i'r rhanbarth, ac yn un y mae'n rhaid i ni ei amddiffyn a'i wella. Byddwn yn gwneud De Orllewin Cymru yn adnabyddus am ansawdd ac ehangder ei 'gynnig profiad', gan ddod ag ansawdd amgylcheddol trefol a gwledig ynghyd, 'ansawdd bywyd' a diwylliant. Bydd hyn yn cefnogi economi ymwelwyr gwerth uchel - ond bydd hefyd mewn perchnogaeth leol ac yn rhan ganolog o'n cynnig buddsoddi. 

Asedu cyfredol

  • Cyfuniad unigryw o asedau (amgylchedd chwaraeon a hamdden, cymysgedd trefol a gwledig; cymeriad diewylliannol a threftadaeth unigrwyw)
  • Cynnig twristiaeth pwysig yn bodoli'n barod, wedi'I gysylltu'n agos ag ansawydd amgylcheddol

Cyfleoedd nesaf

  • Sicrhau gwerth cynyddol o 'brofiad De Orllewin Cymru', yng nghyd-destun galw cynyddol am ansawydd a chynaliadwyedd a thyfu cyfleoedd ar gyfer gweithio gwasgaredig ac o bell
  • Meithrin a chodi ymwybyddiaeth o'r 'brand' lleol

Heriau allweddol

  • Cydbwyso ystyriaethau cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chmunedol
  • Gwrthbwyso pwysau ar ganol trefi a dinas gan fod angen eu hail-bwrpasu yng ngoleuni newid strwythurol

Gweithredu allweddol

  • Buddsoddiad cyfalaf wedi'I dargedu a'I gydlyni, gan gynnwys mewn canol trefi a dinas
  • Cydbwyso mentrau raddfa a ysgogir yn rhanbarthol, lleol a chymunedol

Deall yr achos dros y Genhadaeth: y rhesymeg graidd

6.1 Mae 'cynnig profiad' De Orllewin Cymru yn gryfder allweddol. Mae hefyd yn amlweddog ac yn rhyng-gysylltiedig: er ei fod yn cynnwys economi ymwelwyr sylweddol y rhanbarth, mae'n cydnabod bod yr economi ymwelwyr ei hun yn dibynnu ar ansawdd cynnig diwylliannol ac amgylcheddol y rhanbarth. Ar lefel genedlaethol, adlewyrchir hyn gyda'r datganiad o 'gynnig craidd Cymru' ym Mlaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi Ymwelwyr (a nodir yn Ffigur 6-2). Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd 'ymdeimlad o le' o fewn y cynnig Cymru, gyda'r economi ymwelwyr yn helpu i weithredu fel modd i arddangos bwyd a diod lleol a dathlu'r Gymraeg fel rhan ganolog o hunaniaeth leol a chenedlaethol.

6.2 Yn Ne Orllewin Cymru, mae'r ystod o brofiadau sydd gan y rhanbarth i'w cynnig yn amrywiol ac yn drawiadol. Yr amrywiaeth hon sy'n rhoi llawer o hynodrwydd i'r rhanbarth: agosrwydd dinas prifysgol Abertawe at draethau'r Gŵyr er enghraifft, neu ystod y rhanbarth o fathau o dirwedd (gan gynnwys Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog) a rhwydwaith o drefi gwledig llai. Mae hyn hefyd yn gwneud y rhanbarth yn ddeniadol fel lle i fyw, a dylai fod yn rhan ganolog i gynnig buddsoddi'r rhanbarth. Mae'r Genhadaeth hon yn canolbwyntio ar fuddsoddi yn yr 'economi profiad' a sut y gallwn ei hyrwyddo i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol.

Arlwy craiff Cymru
Tirweddau eithriadol, a ofelir amdanynt
Tirweddau naturiol hygyrch, gwarchodedig sy'n cynnig profiadau llesiant ystyrion, safonol a chyfoes
Cymunedau bywiog a diwylliant creadigol
Arly diwyllionol a threftadaeth drefol a gwledig sy'n unigryw ond sy'n hynod greadigol a chyfoes, a gaiff ei greu ar y cyd a phobl leol ac a gaiff ei werthfawrogi gan ymwelwyr
Anturiaethau a gweithgareddau epic I bawb
Anturiaethau, digwyddiadau a gweithgareddau arloesol o'r radd flaenaf - sy'n rhoi bywyd I'n tirweddau ol-ddiwydiannol a naturiol ac yn annog pawb I fyw bywyd iach
Croeso unigryw Gymgreig
Byddwn hefyd yn gwneud mwy I ddatblygu a hyrwyddo creoso sy'n unigryw Gymreig - yn seiliedig ar hyrwddo lleoedd llawn cymeriad I aros ynddynt a phrofiadau bwyd lleol ledied Cymru
Profiadau cenedlaethol fel Ffordd Cymru

Buddsoddi yn ein heconomi profiad 

6.3 Y 'newyddion da' yw bod nifer o dueddiadau economi ymwelwyr yn cyd-fynd â rhai o gryfderau cynhenid De Orllewin Cymru: yn benodol, y diddordeb cynyddol mewn cynaliadwyedd, twristiaeth werdd a natur ac awydd am brofiadau 'dilys'. Mae'r rhain, a gwerth cynhenid cymunedau a hunaniaeth leol, yn rhan o'r 'cynnig' lles i breswylwyr hefyd. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd poblogaethau oedran gweithio yn gostwng dros yr ugain mlynedd nesaf ym mhob rhan o'r rhanbarth, ac eithrio Abertawe. Dylai cyfleoedd cyflogaeth newydd helpu i wyrdroi hyn - ond mae cyfle hefyd, trwy gyflymu gweithio o bell a chynyddu hyblygrwydd, i gadw mwy o'n pobl ifanc a graddedigion prifysgol, ac i ddenu demograffig ehangach i'r rhanbarth.

6.4 Dros y degawd nesaf, bydd hyn yn golygu buddsoddiad sy'n canolbwyntio ar ansawdd y cynnig i ymwelwyr ac apêl De Orllewin Cymru fel lle i fyw a gweithio - gan gydnabod bod y rhain yn rhyng-gysylltiedig yn eu hanfod: 

Meysydd gweithredu allweddol

  • Byddwn yn buddsoddi yn 'seilwaith profiad' y rhanbarth 
    • Byddwn yn ceisio ehangu'r ystod o atyniadau a chyfleoedd ledled y rhanbarth, yn enwedig lle maent yn cyfrannu at gynnig cynyddol gynaliadwy, sy'n gysylltiedig â threftadaeth y rhanbarth (gan gynnwys mewn perthynas â chynhyrchion bwyd a diod lleol), diwylliant a'r amgylchedd naturiol. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod cyflawni mentrau cenedlaethol allweddol (fel y Goedwig Genedlaethol arfaethedig) yn cyfrannu at ein huchelgeisiau economaidd ehangach.
  • Byddwn yn buddsoddi yn ein canolfannau dinas, trefi a chymunedol 
    • Ein trefi a'n dinasoedd yw'r pyrth i'n rhanbarth, a'r canolfannau ar gyfer bywyd cymunedol, masnachol a dinesig. Mae llawer o fuddsoddiad wedi digwydd ac mae llawer ar y gweill - gydag (er enghraifft) Arena Abertawe a'i chysylltiad ar ffurf pont i ganol y ddinas yn agor yn 2021, gan greu carreg filltir arall yn adfywiad y ddinas. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud: ar draws y rhanbarth, mae newid strwythurol yn y sector manwerthu wedi effeithio ar lawer o'n canolfannau trefi a chymunedol - gyda'r broses o ail-bwrpasu yn gofyn am weithredu cymhleth mewn sawl maes. 
    • Gan adeiladu ar ein profiad o weithio gyda'n gilydd ledled y rhanbarth, ac yn ysbryd menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, byddwn yn blaenoriaethu buddsoddiad pellach yn ein canol trefi a dinasoedd, gan sicrhau eu bod yn fannau ffocws cynaliadwy ar gyfer yr hirdymor.
  • Byddwn yn gwneud i'r 'economi profiad' weithio i bawb 
    • Nid yw pob rhan o'r rhanbarth yn elwa o'r ansawdd bywyd rhagorol sydd gan y rhanbarth i'w gynnig - ac mewn rhai lleoedd mae dirywiad mewn fforddiadwyedd tai yn effeithio ar ein gallu i gadw a denu pobl iau (mater sydd â'r potensial i waethygu ymhellach mewn economi a nodweddir yn gynyddol gan weithio o bell). Yn gysylltiedig â'n datgarboneiddio a'n hamcanion sero net, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn datrysiadau tai fforddiadwy ac adnewyddu cymunedol yn yr hirdymor.

Hyrwyddo'r rhanbarth

6.5 Mae ansawdd asedau De Orllewin Cymru yn rhoi cyfle i hyrwyddo'r rhanbarth yn well - i ymwelwyr a buddsoddwyr ac i godi proffil y rhanbarth ar y llwyfan ehangach. Dylai hyn ymestyn i gwmpasu'r potensial ynni adnewyddadwy a'r cyfleoedd diwydiannol a amlygwyd yn gynharach: dyfodol y rhanbarth mewn economi wyrddach (a'r cyfleoedd a gyflwynir gan hyn) gan gyfuno â'i ansawdd diwylliannol ac amgylcheddol: 

Meysydd gweithredu allweddol 

  • Byddwn yn defnyddio dull mwy cydgysylltiedig ar gyfer hyrwyddo cyfle De Orllewin Cymru 
    • Gan gydnabod bod gan bob rhan o'r rhanbarth hunaniaeth a 'brand' unigryw, byddwn yn gweithio i sicrhau cydgysylltiad ar draws y sianeli marchnata ymwelwyr, addysg, cynnyrch lleol a buddsoddwyr i sicrhau bod gan Dde Orllewin Cymru broffil 'allanol' cliriach a chynnig ategol.
  •  Byddwn yn buddsoddi mewn ansawdd 
    • Mae Croeso i Gymru, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi ymwelwyr, yn rhoi pwyslais cryf ar ansawdd yr holl gynnig profiad - llety, bwyd a diod, y parth cyhoeddus, yr amgylchedd, ac ati - fel y llwybr at sylfaen economaidd sydd â gwerth uwch ac sy'n fwy cynaliadwy. Ar draws yr holl gamau uchod, byddwn yn buddsoddi - gyda busnes - mewn ansawdd a rhagoriaeth. 

7. Symud ymlaen: Cyflawni'r Cynllun 

Mae'r Cynllun hwn yn rhoi fframwaith ar gyfer datblygu'r blaenoriaethau yr ydym wedi'u nodi yn ein Huchelgeisiau a'n Cenadaethau dros yr hirdymor. Bydd cyflawni'r Cynllun yn dibynnu ar ystod o ffynonellau buddsoddi a chydlynu prosiectau penodol dros amser sy'n cyfuno i gyflawni ein hamcanion. Mae'r bennod hon yn egluro ein dull ar gyfer cyllido a chyflawni, a sut y byddwn yn blaenoriaethu ac yn monitro ein cynnydd.

O fframwaith i biblinell o brosiectau atodol... 

7.1 Mae'r Cynllun hwn yn cymryd golwg hirdymor. Gan gydnabod y bydd cyfleoedd newydd yn dod i'r amlwg dros amser, bwriedir iddo fod yn hyblyg, gyda chamau gweithredu penodol yn cael eu disgrifio ar lefel gymharol uchel.

7.2 Er mwyn trosi'r rhain yn ymyriadau ymarferol, rydym wedi paratoi piblinell prosiect. Mae hon yn nodi amserlen o ymyriadau, gan ddisgrifio sut maent yn cyfrannu at ein Huchelgeisiau a'n Cenadaethau, eu statws presennol o ran eu datblygiad a'r camau y mae'n rhaid eu cymryd i'w dwyn ymlaen. Bydd hyn yn cael ei gadw'n 'fyw' a'i adolygu'n rheolaidd gan bartneriaid rhanbarthol. Bydd hyn yn galluogi ymyriadau newydd i ddod ymlaen pan fydd cyfleoedd yn codi (er enghraifft, gallai cynigion masnachol arwain at gynigion sydd heb eu canfod eto), ac i wybodaeth prosiect gael ei diweddaru wrth i gynlluniau ddatblygu.

7.3 Mae'r prosiectau sydd ar y gweill ar gamau datblygu gwahanol. Yn gyson â'r dull a ddefnyddir gan Drysorlys Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru (ac a fabwysiadwyd gan y Fargen Ddinesig), bydd prosiectau'n cael eu dwyn ymlaen trwy'r broses achos busnes a nodir yn y canllaw gwerthuso 'Llyfr Gwyrdd'. I grynhoi, mae hyn yn golygu y bydd prosiectau'n cael eu hystyried yn erbyn y penawdau canlynol: 

Ystyriaethau achos busnes prosiect

Ystyriaeth

Disgrifiad

Ffitio'n strategol

  • Pa mor gryf yw'r dystiolaeth o alw neu angen economaidd?
  • A yw'r prosiect yn ychwanegu 'gwerth rhanbarthol net' (h.y. a yw'n ychwanegol at weithgarwch sydd eisoes yn digwydd yn y rhanbarth ac, os oes unrhyw ddyblygu, a yw hyn yn cael ei liniaru?)
  • A yw'r prosiect yn cyfrannu at y fframwaith strategol cyffredinol (h.y. a fydd yn cefnogi cyflwyno economi sy'n "gydnerth ac yn gynaliadwy; yn gytbwys a chynhwysol; ac yn fentrus ac yn uchelgeisiol"? 

Gwerthuso opsiynau

  • A ystyriwyd ystod o opsiynau, ac a oes achos clir dros yr opsiwn a ffafrir?

Gwerth am arian

  • A yw'r prosiect yn rhoi gwerth da, o ran yr allbynnau a'r canlyniadau y bydd yn eu cyflawni, o'i gymharu â'r costau cyhoeddus a ragwelir? 

Fforddiadwyedd

  • A oes cyllid ar gyfer y prosiect, a/neu a oes llwybr clir at gyllid?
  • A yw'r model cyllido yn cydymffurfio â Rheolaeth Cymhorthdal a rheoliadau eraill?

Cyflawnadwyedd

  • A ystyriwyd opsiynau caffael ac a oes llwybr clir at gaffael llwyddiannus?
  • A oes trefniadau llywodraethu a rheoli ar waith, ac a oes digon o allu i gyflawni? 

Bydd yn bwysig bod y cynllun gweithredu yn cael ei ystyried yn ddogfen ddeinamig a'i fod yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd gan bartneriaid. Yn gyffredinol, mae prosiectau'n cynnwys: 

  • Mentrau ledled y rhanbarth i adeiladu gallu i fanteisio ar y cyfleoedd a nodir yn y Cynllun. Amlygir y rhain ym mhob Cenhadaeth, ac maent yn cynnwys: 
    • Meithrin gallu ac arbenigedd i fanteisio i'r eithaf ar botensial 'sero net' De Orllewin Cymru
    • Creu 'asiantaeth arloesi rithwir' i gydlynu a symbylu cysylltiadau rhwng diwydiant a'r sylfaen wybodaeth, yn enwedig wrth i gyllid Ewropeaidd ddod i ben
    • Cefnogaeth ar raddfa fawr ar gyfer menter ac entrepreneuriaeth
    • Buddsoddiad cyhoeddus yn y cynnig eiddo masnachol, i alluogi buddsoddiad, twf busnes a mwy o gynaliadwyedd amgylcheddol
    • Cyflwyno dull cydgysylltiedig ar gyfer marchnata a chefnogaeth buddsoddi, yn gysylltiedig â'r economi 'profiad'. 
  • Buddsoddiadau cyfalaf strategol proffil uchel, fel Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru 

7.4 Prosiectau lleol mawr sy'n cyfrannu at yr amcanion cyffredinol a'r Cenadaethau. Ni fydd pob un o fudd uniongyrchol i bob rhan o'r rhanbarth. Fodd bynnag, gyda'i gilydd byddant yn cynnig budd rhanbarthol sylweddol.

Cyllido'r Cynllun: Cronfa fuddsoddi tymor hwy

7.5 Bydd cyllid i ddatblygu'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol a'i brosiectau cydrannol yn dod o sawl ffynhonnell, ac mae rhai pecynnau cyllido unigol yn debygol o fod yn gymhleth. Ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, mae rhywfaint o ansicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol, wrth i ffynonellau Ewropeaidd (rhan bwysig o'r gymysgedd cyllido yn Ne Orllewin Cymru yn hanesyddol) ddirwyn i ben. Fodd bynnag, gall ffynonellau posibl gynnwys: 

  • Buddsoddiad preifat, yn enwedig mewn cyflwyno rhai o'r buddsoddiadau cysylltiedig ag ynni a nodwyd mewn perthynas â Chenhadaeth 1, ac mewn perthynas â chynlluniau adfywio a datblygu mawr
  • Y Gronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig (neu olynwyr amgen i'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd)
  • Buddsoddiad ar y cyd ar draws yr awdurdodau lleol, neu rhwng yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru
  • Cronfeydd Llywodraeth y DU (megis y Gronfa Cryfder mewn Lleoedd a'r Gronfa Lefelu i Fyny).

Meysydd gweithredu allweddol 

  • Byddwn yn ceisio sicrhau Cronfa Fuddsoddi ranbarthol ddatganoledig
    • Bydd natur y ffynonellau cyllido a nodwyd uchod yn newid dros amser. Fodd bynnag, o ystyried maint y cyfle (a'r her ranbarthol) yn Ne Orllewin Cymru, byddwn yn ceisio sicrhau cronfa fuddsoddi ranbarthol ddatganoledig, a fyddai'n cynnig y gallu i'r rhanbarth ysgogi cyllid ychwanegol a dwyn prosiectau ymlaen mewn modd hyblyg. Gellid strwythuro cronfa o'r fath i roi enillion ariannol rhannol ar fuddsoddiad, yn ogystal ag enillion economaidd a chymdeithasol, yn dibynnu ar natur y prosiect. Byddai hyn yn gofyn am arbenigedd a chapasiti i fuddsoddi, ond gallai arwain at ddatblygu portffolio rhanbarthol o brosiectau, yn deillio o'r biblinell prosiectau sy'n dod i'r amlwg ac yn adeiladu ar weithredu'r Fargen Ddinesig bresennol yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd, mae gan y prosiectau sydd ar y gweill gyfanswm gwerth o tua £3 biliwn dros y degawd i ddod: er y bydd costau'n cael eu pennu trwy'r broses achos busnes, mae hyn yn rhoi syniad o raddfa'r her a'r cyfle sydd o'n blaen.

Monitro cynnydd

7.6 Mae ein prosiectau arfaethedig i gyd ar wahanol gamau datblygu ar hyn o bryd. Trwy'r broses achos busnes, byddwn yn nodi cyfres o ddangosyddion perfformiad y gellir monitro cynnydd yn eu herbyn. Mae'r rhain yn debygol o gynnwys: 

Mesurau perfformiad dangosol

Dangosydd

Disgrifiad

Buddsoddiad preifat

Buddsoddiad preifat ychwanegol wedi'i sicrhau yn y rhanbarth o ganlyniad i gefnogaeth y cyhoedd trwy'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol (CCERh)

Gwerth gros wedi'i ychwanegu

Amcangyfrif o'r GYG ychwanegol a gynhyrchir o ganlyniad i fuddsoddiad

Creu a goroesiad cwmnïau

Busnesau newydd yn cychwyn o ganlyniad i weithgaredd a gefnogir gan CCERh a chyfraddau goroesi dros amser

Swyddi

Swyddi wedi'u creu a'u diogelu o ganlyniad i fuddsoddiad. Mae'r

CCERh yn pwysleisio ansawdd swyddi (yn unol â'r Contract Economaidd) a dylid adlewyrchu hyn yn y mesur perfformiad (e.e. cyflogaeth ar neu'n uwch na'r Cyflog Byw Gwirioneddol ac wedi'i gynnal dros amser).

Mynediad at gyflogaeth

Pobl sy'n dechrau cyflogaeth (neu'n cynyddu oriau) o ganlyniad i ymyriad

Arloesedd

Ymchwil a datblygu i gynhyrchion, nwyddau a gwasanaethau newydd o ganlyniad i ymyriad.

Mabwysiadu cynhyrchion neu brosesau 'newydd i'r cwmni' o ganlyniad i ymyrraeth

Lleihad mewn carbon

Arbedion CO2 o ganlyniad i fuddsoddiad

Symudiad moddol

Mwy o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus/mwy o ddefnydd o deithio llesol o ganlyniad i fuddsoddiad

Gwariant ymwelwyr

Cynnydd mewn gwariant ymwelwyr o ganlyniad i fuddsoddiad

Llywodraethu

7.7 Bydd y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol yn cael ei 'berchnogi' a'i oruchwylio gan Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) De Orllewin Cymru. Bydd hwn yn un o bedwar CBC a sefydlir yng Nghymru o dan ddeddfwriaeth newydd, gan alluogi'r awdurdodau lleol cyfansoddol i arfer swyddogaethau ar y cyd yn ymwneud â chynllunio strategol, trafnidiaeth a mesurau a fydd yn gwella lles economaidd eu rhanbarthau.

7.8 Yn cefnogi'r CBC, bydd y Cyfarwyddwyr Adfywio Rhanbarthol yn cadw golwg ar y cynnydd ac yn gyfrifol am ddatblygu achosion busnes, sicrhau buddsoddiad a sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni ar ran y CBC. Bydd yn bwysig sicrhau gallu digonol - o fewn awdurdodau partner unigol ac ar y cyd - i wneud hyn, o ystyried maint y cyfleoedd a'r heriau. Bydd y CBC hefyd yn sefydlu mecanweithiau ar gyfer llais cryf y tu allan i'r llywodraeth (e.e. gan y sector busnes a'r trydydd sector) mewn dylanwadu ar flaenoriaethau a chynnal goruchwyliaeth. 

Annex A: Dadansoddiad SWOT cryno

A.1 Roedd yr Adolygiad Tystiolaeth a Thirwedd Strategol a baratowyd i lywio'r Cynllun hwn yn cynnwys dadansoddiad o gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau'r rhanbarth. Roedd hwn yn sail i'r dadansoddiad ym Mhennod 2 y Cynllun, ac fe'i crynhoir isod:

Cryfderau

Gwendidau

  • Asedau ymchwil prifysgol o bwys cenedlaethol a rhyngwladol, gyda hanes cryf o gydweithredu â diwydiant yn y rhanbarth a buddsoddiad diweddar ac wedi'i gynllunio mewn cyfleusterau prifysgol newydd
  • Amgylchedd naturiol eithriadol, yn cefnogi ansawdd bywyd a chynnig lleoliad unigryw ar gyfer ymwelwyr a buddsoddwyr
  • Hanes cymharol gryf mewn creu swyddi ac mewn gweithgarwch economaidd cynyddol
  • Rhai cryfderau sectoraidd sefydledig (e.e. peirianneg a gweithgynhyrchu uwch; cynhyrchu bwyd)
  • Rhai cyfleoedd datblygu safle mawr
  • Sylfaen busnesau bach a chanolig sy'n tyfu ac yn amrywiol
  • Cryfderau a gallu cymunedol ac ymdeimlad cryf o hunaniaeth
  • Dirywiad a ragwelir yn y boblogaeth oedran gweithio a'r gymhareb dibyniaeth gynyddol
  • Cynhyrchiant cymharol isel, wedi'i adlewyrchu mewn cyflogau cymharol isel
  • Ymylolrwydd cymharol, gan arwain at gysylltiadau trafnidiaeth a digidol gwan mewn rhai lleoedd, a chyfyngiadau o ran hyfywedd ar ddatblygiadau ffisegol
  • Ychydig o gwmnïau mawr a phencadlysoedd cwmnïau
  • Peth cyfyngiadau ar ehangiad cwmnïau, yn gysylltiedig â diffyg mewn sgiliau gweithlu (er bod lefelau cymwysterau'n codi) ac opsiynau cyfyngedig o ran eiddo masnachol
  • Newid yn y farchnad yn effeithio ar hyfywedd a bywiogrwydd canol trefi a dinasoedd
  • Crynodiadau parhaus o anfantais

Cyfleoedd

Bygythiadau

  • Cronfa dalent a gynhyrchir gan brifysgolion a system addysg bellach y rhanbarth; cyfle i gadw a thyfu'r gweithlu medrus a'r stoc fusnes
  • Cyfleoedd ar gyfer twf mewn meysydd gweithgarwch sy'n berthnasol i gryfderau hanesyddol y rhanbarth (e.e. gweithgynhyrchu uwch) ac mewn galluoedd ymchwil a thechnoleg presennol
  • Cyfle ar gyfer twf lleoliad-benodol yn y sector ynni ac mewn datgarboneiddio yn ehangach
  • Gallai pellter ddod yn llai pwysig wrth i weithio o bell ddod yn 'normal' (gan gynyddu apêl cynnig ansawdd bywyd De Orllewin Cymru o bosibl a chynorthwyo i newid canfyddiadau
  • Agosrwydd at yr amgylchedd naturiol a'r gallu i gynnig cynnig chwaraeon, diwylliannol ac amgylcheddol unigryw - gan helpu i gadw a denu pobl ifanc a dawnus
  • Cyfleoedd i adeiladu ar hanes o gydweithredu rhwng y sector cyhoeddus, y byd academaidd a diwydiant
  • Buddsoddiadau seilwaith a allai fod yn arwyddocaol (e.e. Metro Bae Abertawe)
  • Arloesi polisi economaidd yng nghyddestun polisi Cymru
  • Cyfleoedd safleoedd mawr (e.e. Parc Ynni Baglan) a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer buddsoddi a datblygu, gan gynnwys fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe
  • Cyfleoedd ar gyfer arloesedd busnes
  • Dwysedd carbon uchel rhan o'r sylfaen ddiwydiannol
  • Perygl o golli prif gyflogwyr, gydag effeithiau llafur a gofodol a allai fod yn sylweddol
  • Perygl all-lif talent a gweithwyr iau, os nad oes digon o gyfleoedd yn lleol
  • Ansicrwydd ehangach cysylltiedig â Brexit yn ymwneud â marchnadoedd allforio, gweithgarwch cysylltiedig â phorthladdoedd a thaliadau fferm yn y dyfodol
  • Effeithiau pandemig Covid-19, gan gynnwys diweithdra uwch wrth i fesurau lliniaru ddirwyn i ben a chyflymu newidiadau yn rôl swyddogaethau'r Stryd Fawr/canol tref
  • Perygl y gallai'r anghydraddoldebau presennol gael eu gwaethygu. 

Annex B: Asesiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r

Dyfodol 

Cyfraniad at y Nodau Llesiant

B.1 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi saith Nod Llesiant: Cymru Lewyrchus; Cymru Gydnerth; Cymru Iachach; Cymru sy'n Fwy Cyfartal; Cymru o Gymunedau Cydlynus; Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu; a Chymru sy'n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang. Mae canllawiau ar weithredu'r Ddeddf yn nodi y dylai polisi geisio cyfrannu at bob un o'r saith Nod Llesiant, nid dim ond yr un sydd agosaf at ddiben canolog y fenter.

B.2 Mae'r tabl isod yn crynhoi sut mae'r Cynllun hwn yn cyfrannu at y Nodau Llesiant: 

Cyfraniad CCERh at y Nodau Llesiant

Nod

Cyfraniad

Cymru Lewyrchus

Cyfraniad uniongyrchol

Mae'r Cynllun yn cyfrannu at gynnydd mewn cynhyrchiant a thwf economaidd i gefnogi creu a diogelu mwy o swyddi â chyflog gwell, cyfleoedd i fusnesau ddechrau a thyfu, a chysylltiadau pellach rhwng y sylfaen wybodaeth a diwydiant.

Cymru Gydnerth

Cyfraniad uniongyrchol

Mae'r Cynllun yn rhoi mwy o bwyslais ar gynaliadwyedd economaidd trwy ganolbwyntio ar yr angen i ddatgarboneiddio'r economi; gwytnwch i newid technoleg yn y dyfodol trwy bwyslais ar ymateb i ddigideiddio a'i harneisio.

Cymru Iachach

Cyfraniad anuniongyrchol

Nid yw'r Cynllun yn ymwneud yn uniongyrchol â materion iechyd. Fodd bynnag, mae mwy o ffyniant (yn enwedig pan ei fod wedi'i ddosbarthu'n fwy cyfartal) yn arwain at ganlyniadau iechyd gwell. Mae'r Cynllun hefyd yn nodi pwysigrwydd y sector iechyd a gofal a'r cyfle i'w gysylltu â thwf economaidd.

Cymru sy'n Fwy Cyfartal

Cyfraniad uniongyrchol

Mae'r Cynllun yn cydnabod yr angen i ymgorffori model 'twf cynhwysol' yn y strategaeth, trwy ymdrechion i gefnogi canlyniadau sgiliau, gwytnwch i awtomeiddiad, neu fecanweithiau i gefnogi cadw cyfoeth yn well yn y gymuned.

Cymru o Gymunedau Cydlynus

Cyfraniad anuniongyrchol 

Dylai gwell canlyniadau cynhwysiant economaidd wella cydlyniant, lle maent yn gysylltiedig â rhaglenni a mecanweithiau sy'n canolbwyntio ar gynnwys ac ymgysylltu â'r gymuned leol.

Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu

Cyfraniad anuniongyrchol

Dylai mesurau i gefnogi twf yr economi greadigol (gan gynnwys yn rheini sy'n gysylltiedig â'r Gymraeg) gefnogi'n uniongyrchol, a gallent fod yn rhan bwysig o gynnig buddsoddi De Orllewin Cymru. Yn fwy eang, mae'r Cynllun yn ceisio cefnogi bywiogrwydd economaidd y rhanbarth, gan gynnwys cymunedau sy'n bennaf Gymraeg eu hiaith. 

Cymru sy'n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang

Cyfraniad anuniongyrchol

Bydd cyflawni model twf wedi'i ddatgarboneiddio dros amser yn cyfrannu at hyn. Mae'r Cynllun hefyd yn tynnu sylw at fod yn agored i syniadau (a buddsoddiad) newydd o fannau eraill.

 

Cyflawni yn erbyn y Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol

Dangosydd

Llwybr i effaith: Galluogir trwy...

04. Lefelau llygredd nitrogen deuocsid (NO2) yn yr aer

Datgarboneiddio ar raddfa fawr (Cenhadaeth 1)

08. Y ganran o'r oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol

Mesurau i godi'r cyflenwad o sgiliau gweithlu, a gwell ymgysylltiad â chyflogwyr, dros amser (ar draws pob Cenhadaeth) Mesurau i gynyddu'r galw am sgiliau (ar draws pob Cenhadaeth, ond yn arbennig o berthnasol i Genadaethau 2 ac 1)

09. Gwerth Ychwanegol Gros am bob awr a weithir (o'i gymharu â chyfartaledd y DU)

Pob Cenhadaeth. Mae hwn yn fesur o gynhyrchiant, y mae'r Cynllun yn gyffredinol yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Sylwer fodd bynnag bod 'llwyddiant' mewn cyflawni mesur cymharol mewn perthynas â gweddill y DU yn dibynnu ar gyflymder y twf mewn rhannau eraill o'r DU (a dyna pam bod heriau i'w cael wrth 'gau'r bwlch' heb fuddsoddiad ar raddfa fawr iawn)

10. Incwm Gwario Gros Aelwydydd y pen

Pob Cenhadaeth. Sylwer, fodd bynnag, nad yw'r data hwn ar gael yn naearyddiaeth De Orllewin Cymru (fe'i cyhoeddir yn ITL 1 a 2)

11. Y ganran o'r busnesau sydd wrthi'n arloesi

Mesurau i gynyddu rhyngweithio rhwng busnes a'r sylfaen wybodaeth, ac i gryfhau'r ecosystem arloesi (Cenhadaeth 2 yn bennaf) 

12. Capasiti (mewn MW) yr offer ynni adnewyddadwy sydd wedi'i osod

Datblygu ein potensial ynni adnewyddadwy (Cenhadaeth 1

B.3 Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu 46 o Ddangosyddion Cenedlaethol, y gellir mesur eu cynnydd yn erbyn nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Fel y nodir yng nghraidd y CCERh, er bod cynyddu cynhyrchiant (gwerth ychwanegol gros fesul swydd wedi'i llenwi, neu'r awr a weithir) yn fesur pwysig, bydd llwyddiant yn cael ei fesur yn erbyn nifer o ddangosyddion eraill hefyd. Rhestrir y dangosyddion perthnasol allweddol isod (gyda'r rhif wrth ymyl pob un yn cyfateb i'r rhif dangosydd a gyhoeddir yn rhestr Llywodraeth Cymru), ynghyd â disgrifiad o sut mae'r Uchelgeisiau a'r Cenadaethau yn y Cynllun yn debygol o gyfrannu at eu cyflawniad: 

Dangosydd

Llwybr i effaith: Galluogir trwy...

16. Y ganran o'r bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy'n ennill mwy na 2/3 o gyflog canolrifol y DU

Mesurau i gynyddu gweithgarwch economaidd a chyflenwad cyflogaeth ar gyflog uwch. Wedi'i gyflwyno ar draws pob Cenhadaeth. 

18. Y ganran o'r bobl sy'n byw mewn aelwydydd mewn tlodi incwm o'i gymharu â chanolrif y DU, wedi'i fesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwn

Mesurau i gynyddu mynediad at gyflogaeth, yn enwedig ar gyfraddau cyflog uwch. Ar draws pob Cenhadaeth

21. Y ganran o'r bobl sydd mewn gwaith

Mesur allweddol llwyddiant economaidd; yn berthnasol i bob Cenhadaeth

22. Y ganran o'r bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi'i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran

Mesurau i wella mynediad at addysg a hyfforddiant, a'r galw amdanynt (ar draws pob Cenhadaeth)

26. Y ganran o'r bobl sy'n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw

Mesur canlyniadol yn deillio o lwyddiant mesurau i wella 'ansawdd lle' (yn arbennig o berthnasol i Genhadaeth 3)

33. Y ganran o'r anheddau gyda pherfformiad ynni digonol

Mesurau i gyflawni economi 'sero net' ac i wella effeithlonrwydd ynni'r stoc dai fel rhan o hynny (Cenhadaeth 1)

42. Allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd i'w priodoli i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru

Mesurau i gefnogi datgarboneiddio (Mesur 1)

Annex C: Datblygu'r Cynllun: Y broses

C.1 Datblygwyd y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol yn 2021 gyda chefnogaeth SQW, trwy broses ddilyniannol a oedd yn gweithio o ddadansoddiad newydd o'r dystiolaeth economaidd i nodi'r cyfleoedd a'r heriau allweddol sy'n wynebu'r rhanbarth ac, yn seiliedig ar hynny, yr Uchelgeisiau a'r Cenadaethau a adlewyrchir yn y Cynllun:

Arweiniodd Cam I at ddatblygu Adolygiad Tystiolaeth a Thirwedd Strategol manwl. Mae hyn yn rhoi trosolwg o economi'r rhanbarth a'r cyddestun polisi, gan lywio dadansoddiad SWOT cyffredinol. Cynhyrchwyd yr Adolygiad Tystiolaeth a Thirwedd Strategol fel dogfen ategol ar wahân a llywiodd y dadansoddiad ym Mhennod 2 y Cynllun hwn.

  • Yn seiliedig ar ganlyniadau Cam I, roedd Cam II yn golygu paratoi 'fframwaith strategol' ar gyfer y Cynllun, a oedd yn nodi'r set o Uchelgeisiau a Chenadaethau yr ydym wedi'u hamlinellu. Fel rhan o hyn, gwnaethom ddadansoddi canlyniadau'r dadansoddiad SWOT i ystyried heriau nodedig y rhanbarth, a gwnaethom ddatblygu cyfres o senarios yn y dyfodol.
  • Yng Ngham III, gwnaethom ddatblygu piblinell gychwynnol o brosiectau i gyflawni nodau'r Uchelgeisiau a'r Cenadaethau. Roedd hyn yn cynnwys 'galwad am gynigion' gydag awdurdodau lleol De Orllewin Cymru a rhanddeiliaid eraill, a datblygid Atodiad Piblinell Prosiect, a fydd yn cael ei gadw'n 'fyw', fel y nodir ym Mhennod 7.
  • Yn seiliedig ar ganlyniadau'r camau blaenorol, roedd Cam IV yn cynnwys cwblhau'r Cynllun, a luniwyd ar ffurf drafft ym mis Awst 2021.

Datblygu'r Cynllun: Camau

  • Cam I: Datblygu'r sylfaen dystiolaeth
  • Cam II: Fframwaith strategol 
  • Cam III: Cynllunio camau gweithredu
  • Cam IV: Cwblhau'r CCERh

Ymgynghori ac ymgysylltu

C.2 Arweiniwyd datblygiad y Cynllun gan awdurdodau lleol De Orllewin Cymru, a chynhaliwyd deialog reolaidd gyda grŵp llywio a oedd yn cynnwys y pedwar awdurdod a Llywodraeth Cymru, a gyda'r Cyfarwyddwyr Rhanbarthol. Cafodd fframwaith strategol a chynnwys y Cynllun eu hystyried hefyd gan Arweinwyr a Phrif Weithredwyr De Orllewin Cymru.

Wrth ddatblygu'r Cynllun, cynhaliwyd ymgynghoriad gyda dros 50 o randdeiliaid o feysydd busnes, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, arweinwyr o fewn Parthau Menter y rhanbarth a phartneriaethau busnes lleol, a'r trydydd sector. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghoriadau dwyochrog trwy gydol y broses; trafodaethau ar fyrddau partneriaeth economaidd ar lefel sirol, y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, a Grŵp Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe; a gweithdy ymgynghori â rhanddeiliaid a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2021. 

Close Dewis iaith