Sut ydw i'n pleidleisio?
Yn y DU, gallwch fwrw pleidlais mewn tair ffordd wahanol.
Yn y DU, gallwch fwrw pleidlais mewn tair ffordd wahanol.
Mae gwefan Y Comisiwn Etholiadol yn esbonio beth yw'r rhain: Pleidleisio'n bersonol, trwy'r post & trwy ddirprwy.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu pleidleisio - Cofrestru i bleidleisio (gov.uk)
Os ydych yn fyfyriwr gallwch gofrestru yn eich prifysgol a'ch cyfeiriad cartref, ond gwnewch yn siŵr mai dim ond unwaith rydych yn pleidleisio.
Mae angen ID ffotograffig er mwyn pleidleisio
Bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer rhai etholiadau.
Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy
Byddwch yn ymwybodol o newidiadau sydd bellach ar waith os ydych yn ystyried gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu os ydych yn ystyried penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan (a elwir yn bleidlais drwy ddirprwy).
Addaswyd diwethaf ar 08 Ebrill 2024