Talu'ch trethi busnes
Mae sawl ffordd o dalu ardrethi busnes. Debyd Uniongyrchol yw'r ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o dalu.
Talu trwy ddebyd uniongyrchol
Er mwyn sefydlu Debyd Uniongyrchol gallwch lenwi a dychwelyd: Ffurflen Debyd Uniongyrchol ardrethi busnes (PDF) [109KB]
Hyd yn oed os nad oes gennych fynediad at argraffydd, cysylltwch â ni ac anfonwn ffurflen atoch.
Ein horiau agor yw 8.30am tan 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 8.30am tan 4.30pm ar ddydd Gwener.
Talu ar-lein
Talu ardrethi busnes ar-lein Talu
Er mwyn gwneud taliad ar-lein, bydd angen rhif eich cyfrif trethi busnes arnoch (o'ch bil) yn ogystal â'ch cerdyn debyd.
Taliad ffôn awtomataidd
Ffoniwch ein rhif cyfradd leol - 0300 4562765.
Er mwyn gwneud taliad dros y ffôn, bydd angen rhif eich cyfrif trethi busnes arnoch (o'ch bil) yn ogystal â'ch cerdyn debyd.
Trwy BACS (System Glirio Awtomataidd Bancwyr)
Er mwyn talu trwy BACS, dyfynnwch y canlynol:
- Enw ein cyfrif banc: Lloyds Head Office Faster Payments (HOFS)
- Rhif y cyfrif: 00283290
- Côd didoli: 30-00-00
- Rhif eich cyfrif trethi busnes
Trosglwyddiad banc
Gallwch dalu'ch bil yn uniongyrchol i gyfrif banc y cyngor. Cofiwch ddyfynnu'ch rhif cyfrif neu ni fyddwn yn gallu talu'r arian i'ch cyfrif:
Lloyds Bank PLC, 802 Stryd Rhydychen, Abertawe SA1 3AF.
Côd didoli: 30-00-00
Rhif y cyfrif: 00283290
Yn bersonol
Gallwch dalu ag arian parod, siec neu gerdyn debyd yn eich swyddfa dai ardal agosaf neu yn y Ganolfan Ddinesig.
Trwy'r post
Anfonwch siec wedi'i gwneud yn daladwy i "Dinas a Sir Abertawe" at y Tîm Trethi Busnes, Adran gwasanaethau ariannol, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN.
Ysgrifennwch eich enw, eich cyfeiriad a rhif eich cyfrif Trethi Busnes ar gefn y siec. Peidiwch ag anfon sieciau wedi'u blaen-ddyddio gan na allwn dderbyn y rhain.