Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgyblion yn gadael etifeddiaeth barhaus cyn symud i ysgol newydd

Mae disgyblion sy'n cyfri'r wythnosau nes eu bod yn gallu symud i'w hadeilad ysgol newydd wedi creu etifeddiaeth barhaus i ddangos i blant y dyfodol sut beth yw bywyd ysgol heddiw.

Tan-y-lan time capsule

Tan-y-lan time capsule

Mae'r plant yn Ysgol Gymraeg Tan-y-lan wedi bod yn gweithio gyda staff i gasglu eitemau ar gyfer capsiwl amser sydd wedi'i gladdu ar safle'r adeilad newydd gwerth £9.9 miliwn yn y Clâs.

Mae'r datblygiad bron â chael ei gwblhau ac mae disgwyl iddynt symud o'u safle presennol yn Tan-y-lan Terrace yn Nhreforys i'w cartref newydd yn y Clâs ar ôl gwyliau'r Nadolig.

Ymunodd y disgyblion ag Arweinydd y Cyngor Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Robert Smith, ac uwch-gynghorwyr eraill ar y safle newydd i gladdu'r capsiwl amser.

Ariennir yr adeilad newydd ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru dan raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif ac mae'n rhan o fuddsoddiad gwerth £170 miliwn mewn ysgolion newydd a gwell yn Abertawe, sef y buddsoddiad mwyaf o'i fath yn hanes y ddinas.

Meddai'r Cyng. Smith, "Mae'r adeilad ysgol a'r cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf a gallaf weld pa mor gyffrous yw'r staff a'r plant am symud i'w cartref newydd.

"Bydd hyn yn rhoi'r amgylchedd gorau iddynt weithio ynddo ac mae'n wahanol iawn i'w hadeiladau presennol sy'n hen ac wedi dyddio.

Mae gan yr adeilad newydd yn Hill View Crescent fwy o leoedd a dosbarth meithrin a fydd yn helpu i ateb y galw ychwanegol am addysg cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

Dywedodd Bennaeth YGG  Tan-y-lan, Berian Jones, fod disgyblion a staff yn gyffrous iawn am symud i'r ysgol newydd a'u bod wedi gweithio gyda'i gilydd i greu'r capsiwl amser.

Ychwanegodd, "Roedd disgyblion o bob grŵp blwyddyn yn rhan o baratoi USB llawn enghreifftiau o weithgareddau, lluniau a pherfformiadau sydd wedi'u gosod yn y capsiwl.

"Rydym hefyd wedi casglu eitemau sy'n cynrychioli'r ysgol a'n cynefin - rydym hefyd wedi cynnwys eitemau a gwybodaeth o'r cyfnod presennol sy'n esbonio'r sefyllfa bresennol a'r digwyddiadau hanesyddol presennol."

Close Dewis iaith