Toglo gwelededd dewislen symudol

Luke yw seren TikTok Marchnad Abertawe

Ar yr olwg gyntaf, mae Luke Riley yn edrych fel pob gweithiwr caled arall yn y farchnad.

Luke Riley (Swansea Market attendant)

Luke Riley (Swansea Market attendant)

Yn ei wisg Marchnad Abertawe, yn aml gyda mop neu frwsh yn ei law, mae'n mynd ati i gyflawni ei ddyletswyddau dyddiol gyda balchder tawel. 

Ond i filoedd o ddefnyddwyr TikTok, mae Luke wedi dod yn wyneb cyfarwydd - wyneb stori lwyddiant cyfryngau cymdeithasol Abertawe.

Mae gan gyfrif TikTok swyddogol Marchnad Abertawe fwy na 8,200 o ddilynwyr ac mae ei gynnwys wedi'i hoffi 66,000 o weithiau ers ei lansio.

Mae'r cymysgedd o glipiau ysgafngalon, sy'n dangos stondinwyr yn dawnsio ac yn cydwefuso, a chipolwg y tu ôl i'r llenni ar fywyd marchnad dan do fwyaf Cymru yn boblogaidd y tu hwnt i'r ddinas.

Gwyliwyd un fideo, sy'n cynnwys un o ganeuon y rapiwr Kendrick Lamar, 166,000 o weithiau. Ac mae Luke, 26 oed, wrth wraidd y cyfan.

Swansea Market TikTok

"Roeddwn i'n bendant yn nerfus ar y dechrau," meddai Luke. "Roeddwn i'n gwybod bod TikTok yn boblogaidd iawn, ond doeddwn i erioed wedi gwneud unrhyw beth tebyg o'r blaen. Ces i fy synnu y tro cyntaf i rywun ofyn i mi fod mewn fideo.

"Ond nawr mae pobl yn dod ata i drwy'r amser - pobl ifanc, teuluoedd, hyd yn oed pobl yn eu 60au, ac maen nhw'n dweud 'ti yw'r dyn oddi ar TikTok!'

"Mae'n wallgof, ond yn wych hefyd.

"Bob wythnos, rydyn ni'n gwneud rhywbeth newydd - dawnsio, cydwefuso neu ddangos yr hyn sydd ar gael yn y farchnad.

"Mae'n hwyl, ond mae hefyd er budd y farchnad. Mae cyfraddau gwylio'r fideos hyn yn cynyddu'n gyflym iawn, ac mae'r un peth yn wir am nifer y bobl sy'n ymweld â'r farchnad. Rwy'n cyfrifo nifer yr ymwelwyr ar ddiwedd y dydd, ac ers i ni ddechrau ar TikTok, mae'r ffigyrau wedi cynyddu.

"Mae'n dod â phobl newydd i'r farchnad, yn enwedig cwsmeriaid iau.

"Rwy'n teimlo fy mod i'n gadael fy ôl, fesul fideo. Rwy'n dwlu ar y lle hwn, rwyf am i bawb weld beth sy'n ei wneud yn lle arbennig. Os yw TikTok yn helpu i ddod â phobl i mewn ac yn dangos cymeriad y farchnad, mae hynny'n beth da, yn fy marn i."

Cafodd Luke ei eni a'i fagu yn Abertawe, ac mae Marchnad Abertawe wedi bod yn rhan fawr o'i fywyd erioed. Cafodd ei eni yn Portmead, a threuliodd ei blentyndod yn ymweld â'r farchnad gyda'i fam a'i fam-gu a'i dad-cu.

"Mae wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed," meddai Luke. "Rwy'n cofio arogleuon y lle, fel y siopau bara, a'r pasteiod yn dod mas o'r ffwrn."

Mynychodd Luke Ysgol Gyfun yr Esgob Vaughan a'r chweched dosbarth yno, ond erbyn hynny roedd yn gwybod nad oedd e' am fynd i'r brifysgol.

Meddai, "Roeddwn i eisiau dechrau gweithio, ennill arian a bod yn annibynnol.

"Dyna pam rwy'n ei hoffi pan fydd pobl ifanc nad ydyn nhw'n dod ymlaen yn dda yn yr ysgol yn dod yma am brofiad gwaith. Rwy'n hoffi cael y cyfle i ddangos iddyn nhw os nad ydyn nhw am aros ym myd addysg, mae swyddi ar gael y bydden nhw'n eu mwynhau mewn gwirionedd."

Dechreuodd Luke weithio yn y farchnad saith mlynedd yn ôl, ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.

"Yr hyn rwy'n ei garu am y swydd hon yw ei bod yn cynnwys cymysgedd o'r pethau rwy'n eu mwynhau - glanhau a helpu pobl," meddai Luke.

"Rwy'n gwybod y gallai swnio'n rhyfedd fy mod yn ystyried glanhau yn hobi, ond i fi, mae fel hobi.

"Hyd yn oed gartref, rwy'n hala fy mhartner yn wallgof gyda faint rwy'n hoffi cadw popeth yn drefnus ac yn lân.

"Gwnaethon ni ennill gwobr marchnad dan do fawr orau'r DU y llynedd, felly mae gan y farchnad enw da. Rydw i am gynnal y safon honno. Mae'n bwysig i mi.

"Mae ein tîm a chymuned y farchnad hefyd yn wych. Mae staff sydd yr un oed â mi a staff sydd yn eu 60au, ond mae pawb yn cyd-dynnu'n wych.

"Ac yna mae'r stondinwyr a'r cwsmeriaid rheolaidd hefyd. Rydych chi'n gweld yr un wynebau bob dydd, rydych chi'n cael sgwrs, rydych chi'n helpu. Mae'r ymdeimlad hwnnw o gymuned yn gwneud y farchnad yn lle arbennig."

Mae llawer o fasnachwyr hefyd yn cael eu cynnwys yn rheolaidd yn fideos TikTok y farchnad.

Mae bellach bron 100 o stondinau yn y farchnad, sy'n gwerthu popeth o ffrwythau ffres, llysiau, cigoedd a physgod i hen bethau, rhoddion, cynnyrch cosmetig, dillad, cynnyrch trydanol a gemwaith.

Swansea Indoor Market Award

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Medi 2025