Tîm cyflogaeth Crest
Mae tîm cyflogaeth CREST yn ddarparwr sefydledig o ran sgiliau gwaith, hyfforddiant a chefnogaeth cyflogaeth, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd PABM.
Mae'r tîm yn darparu sylfaen ar gyfer datblygu amrywiaeth o brosiectau cyflogaeth i helpu oedolion sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl neu sy'n adfer ohonynt i gael mynediad at gefnogaeth a hyfforddiant galwedigaethol.
Mae'r rhaglenni wedi'u llunio i ddiwallu anghenion y rheini sydd â diddordeb mewn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith.
Mae CREST yn cynnal amrywiaeth o leoliadau sy'n seiliedig ar waith i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys gwaith derbynfa / gweinyddu, garddio / gwaith tir, arlwyo, gwasanaeth cludwr, prosiectau ailgylchu a dyletswyddau gofalu.
Mae'r tîm cyflogaeth yn cefnogi'r defnyddiwr gwasanaeth drwy gydol y rhaglen, gan ei alluogi i ddatblygu ei wybodaeth a'i sgiliau i gyflawni'r nodau y cytunwyd arnynt.
Gall defnyddwyr gwasanaeth sy'n mynd i'r ganolfan adnoddau hefyd nodi diddordeb mewn derbyn cefnogaeth gan y tîm cyflogaeth drwy siarad â staff a fydd yn siarad â'u rheolwr gofal i sicrhau y cyflawnir nodau eu cynllun gofal a thriniaeth.
Gellir e-bostio'r holl ymholiadau i crest@abertawe.gov.uk.