Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig yn dychwelyd i Neuadd Brangwyn

Cynhelir y digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig blynyddol yn Neuadd Brangwyn ddydd Mawrth 9 Rhagfyr, gan ddod â hwyl yr ŵyl i rai o breswylwyr mwyaf agored i niwed y ddinas.

Together at Christmas with HereForYouThisWinter logo

Mae gwahoddiad agored i'r digwyddiad a gynhelir rhwng canol dydd a 3pm, lle bydd cinio Nadolig dau gwrs, adloniant a mwy o wasanaethau cefnogaeth gynhwysol nag erioed. Bydd hefyd fanciau bwyd a dillad, torri gwallt am ddim, cyngor ar ofalu am anifeiliaid anwes a chynnyrch ar eu cyfer, llyfrau plant, cynnyrch hylendid a llawer mwy.

Mae'r digwyddiad am ddim, sydd bellach yn ei nawfed flwyddyn, yn cynnig y cyfle i'r rheini sy'n teimlo'n unig neu ar wahân, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sy'n teimlo bod angen rhywfaint o lawenydd arnynt i gymdeithasu a mwynhau eu hunain.

Bydd bysus mini am ddim yn mynd i'r digwyddiad ac oddi yno ar gyfer y rheini y mae eu hangen arnynt, gan adael am 11.30am o Oriel Gelf Glynn Vivian, Caer Las ar ben uchaf y Strand, a'r ardal barcio gerllaw Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe yn y Cwadrant.

Cyflwynir y digwyddiad, sydd bellach yn ei nawfed flwyddyn, ar y cyd gan Gyngor Abertawe a JR Events and Catering, gyda chefnogaeth gan lawer o bartneriaid, busnesau a gwirfoddolwyr gwahanol, y maen nhw i gyd yn rhoi o'u hamser yn wirfoddol ac yn cynnig adnoddau am ddim. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Rhagfyr 2025