Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyddiad wedi'i gyhoeddi ar gyfer digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig

Nodwch y dyddiad yn eich dyddiaduron, mae Abertawe'n dod ynghyd unwaith eto i ledaenu hwyl yr ŵyl i bobl mewn angen yn ystod digwyddiad Nadoligaidd arbennig iawn.

Together at Christmas (Brangwyn Hall)

Together at Christmas (Brangwyn Hall)

Bydd cinio Nadolig dau gwrs am ddim i bobl sy'n agored i niwed, sy'n teimlo'n ynysig neu a all fod yn ddigartref yn ganolbwynt digwyddiad yn Neuadd y Ddinas a gynhelir gan JR Events & Catering gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe ddydd Mawrth, 9 Rhagfyr.

Cynhelir y digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig rhwng 12pm a 3pm, a bydd adloniant a chynrychiolwyr o amrywiaeth o wasanaethau ac elusennau'n darparu gwybodaeth am gymorth sydd ar gael.

Ar hyn o bryd, mae mwy o gefnogaeth nag erioed o'r blaen ar gael yn Abertawe i helpu pobl ddigartref neu unrhyw un sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae Cyngor Abertawe'n parhau i weithio'n agos iawn gyda'i bartneriaid i sicrhau na fydd unrhyw un y mae angen gwely neu lety arno yn mynd hebddynt y gaeaf hwn.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rwy'n falch iawn bod digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig yn dod yn draddodiad yma yn Abertawe, a byddwn unwaith eto yn sicrhau ein bod yn rhannu ychydig o hwyl yr ŵyl â'r rhai sydd mewn angen.

"Ni fyddai'n bosib i ni gynnal digwyddiad o'r fath heb ein partneriaid gwych, JR Events & Catering, a hoffwn ddiolch iddynt am ein gwahodd i weithio gyda nhw eto.

"Bydd y digwyddiad hwn yn rhan o'r pecyn cymorth cynhwysfawr sy'n cynnwys cynigion teithio am ddim, bwyd, digwyddiadau a mannau croesawgar y byddwn yn ei ddarparu i helpu preswylwyr fel rhan o'n hymgyrch #YmaIChiYGaeafHwn."

Meddai Jess Rice, cyfarwyddwr JR Events & Catering, "Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi yn anodd iawn, gyda chynifer o bobl yn wynebu problemau ariannol, unigedd ac unigrwydd.

"Mae'r digwyddiad hwn bellach yn ei nawfed flwyddyn, ac er bod y cyfnod hwn yn anodd ar gyfer ein diwydiant ni hefyd, ni allwn sefyll yn ôl a pheidio â helpu ar ôl i ni weld yr hapusrwydd a'r gefnogaeth sy'n dod yn sgîl y digwyddiad hwn yn flynyddol."

Meddai Shannon Williams, Rheolwr Digwyddiadau, JR Events & Catering, "Allwch chi ddychmygu treulio'r Nadolig heb fwyd, dathliadau, teulu neu ffrindiau?

"Dyma'r realiti i rai o bobl fwyaf agored i niwed Abertawe, felly ynghyd â Chyngor Abertawe, rydym mor falch o gynnal digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig unwaith eto, sy'n wahoddiad agored ar gyfer prynhawn arbennig iawn.

"Rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym ddigon o wirfoddolwyr i helpu i gynnal y diwrnod, ond rydym yn chwilio am adloniant ac am gymorth gan wasanaethau - unrhyw beth a all ein helpu i gynnal prynhawn gorau tymor y Nadolig."

Os gallwch helpu i ddarparu gwasanaeth, adloniant neu rodd, e-bostiwch Shannon Williams yn shannon.williams@jr-eventsandcatering.co.uk

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Hydref 2025