Toglo gwelededd dewislen symudol

Campfa awyr agored at ddefnydd preswylwyr o bob oed

Mae campfa awyr agored newydd sbon yn Nhrallwn sy'n golygu y gall pobl o bob oed fynd i'w parc lleol i ymarfer corff am ddim pan fydd y tywydd yn caniatáu yn hytrach na gwneud hynny dan do.

Trallwn Outdoor Gym official opening

Mae'r ardal chwarae ddiangen ar bwys y ganolfan gymunedol leol wedi'i thrawsnewid yn gampfa awyr agored gyda chyfarpar sy'n addas i bob oed ac mae'n ychwanegu at offer tebyg sydd mewn tri pharc arall yn Abertawe.

Ymunodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, ag aelodau'r ward i'w hagor yn swyddogol yr wythnos hon.

Meddai, "Doedd neb yn defnyddio'r hen ardal chwarae yn Nhrallwn, felly roedd yn gwneud synnwyr ei throi'n gampfa awyr agored y gall pobl ei defnyddio pryd bynnag yr hoffent, a hynny'n rhad ac am ddim.

"Ni fydd plant yn colli'r cyfle i'w defnyddio chwaith oherwydd mae 16 darn o gyfarpar ar eu cyfer nhw, yn amrywio o aml-gampfa i gyfarpar sgïo slalom a rhwyfo.  

"Gall oedolion ddefnyddio peiriant cerdded, mainc eisteddiadau, beic pedal a pheiriant camu awyr - yr holl bethau y byddech yn disgwyl eu gweld mewn campfa dan do arferol."

Mae offer campfa awyr agored am ddim ar gael mewn lleoliadau eraill o gwmpas y ddinas gan gynnwys Llyn y Fendrod, Parc Ravenhill a Pharc Coed Bach yng Nghlydach.

Mae menter Trallwn yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i gefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw ac mae'n ychwanegu at fenter y parc sglefrio a'r trac pwmpio gwerth £2.8m a'r prosiect ardaloedd chwarae awyr agored gwerth £8m.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r fenter hon yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan gymunedau yn Abertawe fynediad at fannau diogel a chyffrous i gael hwyl yn yr awyr agored.

"Dywed yr holl arbenigwyr mor bwysig yw hi i blant allu defnyddio cyfleusterau chwarae awyr agored am ddim er mwyn cymdeithasu â ffrindiau a theulu. Mae'r adborth rydym yn ei gael gan ddefnyddwyr wedi bod yn wych ac mae'n dangos y gwahaniaeth y mae'r gwelliannau'n eu gwneud yn eu cymdogaethau.


"Mae'n rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi, cefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw a hyrwyddo lles ym mhob un o'n cymunedau."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Gorffenaf 2025