Disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac o werth mewn ysgol groesawgar
Yn ôl arolygwyr, mae Ysgol Gynradd Tre Uchaf yng Nghasllwchwr yn ysgol groesawgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac o werth.
Mae bron pob disgybl yn foesgar yn gyson ac yn ymddwyn yn dda iawn yn yr ysgol ac o'i chwmpas.
Ymwelodd tîm o Estyn â'r ysgol y tymor diwethaf a chyhoeddwyd eu hadroddiad yn ystod y gwyliau.
Mae'n dweud: "Mae staff yn creu amgylchedd tawel a pharchus sy'n galluogi disgyblion i ddechrau ar eu gwaith yn fuan.
"Mae hyn yn helpu disgyblion, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol a'r rheini yn y dosbarthiadau cyfleusterau addysgu arbenigol, i wneud cynnydd da dros amser gan ystyried eu mannau cychwyn unigol.
"Mae'r ysgol yn dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynhwysiant yn gryf. Mae bron pob disgybl yn trin ei gilydd â charedigrwydd a pharch ac mae disgyblion hŷn yn ofalus ac yn gyfrifol wrth gefnogi disgyblion eraill."
Dywedodd yr arolygwyr fod yr athrawon yn darparu profiadau dysgu diddorol ac ystyrlon sy'n adlewyrchu cyd-destun lleol yr ysgol yn dda.
Mae staff yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu fel arweinwyr hyderus sy'n cyfrannu at gymuned yr ysgol mewn modd ystyrlon.
Mae arweinwyr yr ysgol yn darparu arweinyddiaeth gref a gofalus a chânt eu cefnogi gan lywodraethwyr sy'n deall anghenion a blaenoriaethau'r ysgol yn dda.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud, "Mae staff yn cydweithio'n effeithlon ac yn elwa o ddatblygiad proffesiynol o safon, sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at gynnydd disgyblion. Maent yn datblygu perthnasoedd cryf â rhieni."
Meddai'r Pennaeth Louise Davies, "Mae ein holl staff a disgyblion, yn ogystal â'n teuluoedd a'r gymuned ehangach, yn haeddu canmoliaeth fawr am yr adroddiad hwn.
"Rydym yn hapus iawn bod Estyn wedi cydnabod Ysgol Gynradd Tre Uchaf fel ysgol gynnes a chroesawgar lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus ac maent yn dysgu'n dda."
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith, "Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol Gynradd Tre Uchaf ar yr adroddiad arolygu cadarnhaol iawn hwn."