Cyn-filwyr yn cael eu hanrhydeddu wrth i'r ddinas goffáu 80 mlynedd ers Diwrnod VJ
Ymunodd pobl Abertawe â miliynau o bobl eraill wrth i'r byd sefyll yn llonydd i goffáu 80 mlynedd ers Diwrnod VJ.

Cynhaliwyd distawrwydd dwy funud cenedlaethol am hanner dydd ar draws adeiladau'r cyngor a lleoliadau eraill o amgylch y ddinas.
Yn Neuadd Siôr yn Neuadd y Ddinas, talodd yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Philpott, ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rob Stewart, deyrnged uniongyrchol ar ran pobl Abertawe i grŵp bach o gyn-filwyr a oedd yn westeion anrhydeddus i goffáu diwrnod VJ y ddinas.
Meddai'r Cyng. Philpott, "Mae'n anodd i ni gyfleu pa mor ddiolchgar rydyn ni i'r cyn-filwyr hyn. Rydym yn ddyledus i'r rhai a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd ac mewn gwrthdaro ers hynny.
"Mae'r genhedlaeth a wasanaethodd ein cenedl yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn diflannu, felly roeddem yn ffodus iawn fod rhai o'r bobl hynny sy'n gwybod sut beth oedd hi yn y cyfnod hwnnw yma gyda ni heddiw i adrodd eu straeon.
"Dyma un o'r rhesymau pam mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn dathlu 80 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ mewn modd arbennig."
Roedd y gwesteion anrhydeddus yn cynnwys Richard Pelzer, Ron Horsey a'r Capten David Cledwyn Jones - tri chyn-filwr balch o Abertawe y mae eu gwasanaeth yn y rhyfel wedi gadael ôl parhaol ar eu bywydau a'u cymunedau.
Roedd Arglwydd Raglaw Gorllewin Morganwg, Louise Fleet, cynrychiolwyr o grwpiau cyn-filwyr, cymdeithasau milwrol, y Cyng. Elliott King, Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb, Hawliau Dynol a Diwylliant a Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y cyngor, y Cyng. Wendy Lewis, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad.
Roedd yr achlysur yn rhan o ystod o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn Abertawe dros yr ychydig fisoedd diwethaf i anrhydeddu'r rhai a fu'n rhan o'r rhyfel.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae Cyngor Abertawe bob amser wedi sefyll ochr yn ochr â'n cyn-filwyr, gan eu cefnogi mewn digwyddiadau coffáu yn ogystal ag wrth ddarparu cymorth ymarferol a mynediad i'n gwasanaethau.
"Mae'n fraint gallu dathlu'r gwaith angenrheidiol a wneir eisoes ac yn y gorffennol gan bersonél gwasanaethau'r genedl. Mae heddiw yn ein hatgoffa o aberth a chost rhyddid, ac mae hefyd yn ddathliad o ddiwedd y rhyfel."
"Mae ein rhaglen o ddathliadau a digwyddiadau coffáu eleni wedi'i chreu yn dilyn ymgysylltu â grwpiau cyn-filwyr, cynrychiolwyr milwrol a chymunedol, ac mae mwy o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio ar gyfer tymor coffa mis Tachwedd."