Cyn-filwyr ar flaen y llwyfan ar gyfer digwyddiad coffáu Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan
Mae cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd o Abertawe'n chwarae rhan bwysig mewn digwyddiad arbennig i nodi 80 mlynedd ers diwedd y rhyfel, Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan (VJ).

Ar 15 Awst 1945, daeth y rhyfel i ben pan ildiodd Japan yn ffurfiol - dau fis ar ôl i Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) gael ei ddatgan yn Ewrop.
Ddydd Gwener, 15 Awst, bydd criw bach o gyn-filwyr a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd yn dod i Neuadd y Ddinas Abertawe o flaen cynulleidfa wadd ar gyfer digwyddiad coffa.
Am hanner dydd, bydd adeiladau'r cyngor a llyfrgelloedd yn ymuno â gweddill y DU ar gyfer distawrwydd dwy funud genedlaethol i goffáu Diwrnod VJ.
Yr un noson, bydd Neuadd y Ddinas yn cael ei goleuo'n goch, gwyn a glas, i anrhydeddu'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu.
Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Cheryl Philpott, ac Arweinydd y Cyngor Rob Stewart, fydd yn cynnal y digwyddiad yn Neuadd y Ddinas.
Meddai'r Cyng. Philpott, "Rydym yn nyled y bobl a fu'n gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd a'r rhai sydd wedi gwasanaethu mewn gwrthdaro ers hynny, ac ni fyddwn byth yn gallu ad-dalu'r ddyled honno.
"Mae'r genhedlaeth a fu'n gwasanaethu ein cenedl gan sicrhau rhyddid ledled y byd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn diflannu. Dyma un o'r rhesymau pam mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn dathlu 80 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ mewn modd arbennig."
Ymhlith y rhai a fydd yn bresennol yn y digwyddiad ddydd Gwener mae Arglwydd Raglaw Gorllewin Morganwg, Louise Fleet, cynrychiolwyr o grwpiau cyn-filwyr, cymdeithasau milwrol, y Cyng. Elliott King, Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb, Hawliau Dynol a Diwylliant a Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y cyngor, y Cyng. Wendy Lewis.
Mae'r achlysur yn rhan o ystod o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn Abertawe dros yr ychydig fisoedd diwethaf i anrhydeddu'r rhai a fu'n rhan o'r rhyfel.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Roedden i am wneud popeth o fewn ein gallu i goffáu Diwrnod VE a Diwrnod VJ eleni mewn ffordd arbennig iawn, er lles y cyn-filwyr, eu teuluoedd a phobl Abertawe.
"Mae'r cyngor yn falch o gefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu a'r rhai sydd wedi gwasanaethu.Mae'n fraint gallu dathlu'r gwaith personél y lluoedd arfog, nawr ac yn y gorffennol."