Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwmni technoleg llwyddiannus yn symud i gynllun swyddfeydd newydd yn Abertawe

Mae'r cwmni technoleg newydd o Gymru, Veeqo, sy'n eiddo i Amazon wedi agor pencadlys newydd yn Abertawe, gan nodi twf parhaus ar gyfer y busnes llwyddiannus lleol sydd wedi treblu ei weithlu byd-eang mewn tair blynedd.

Veeqo launch

Veeqo launch

Mae'r busnes yng nghynllun swyddfeydd 71/72 Ffordd y Brenin yng nghanol y ddinas, adeilad a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a ariannwyd yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae Veeqo yn cynhyrchu meddalwedd rheoli cludiant a stocrestrau am ddim ar gyfer mwy na 100,000 o fusnesau ym mhedwar ban y byd. Mae'r feddalwedd yn gwneud e-fasnach yn fwy effeithlon a galluog i ehangu'n gyflym drwy helpu busnesau i gyflawni archebion ar draws amryfal wefannau a storfeydd, cysoni stocrestrau a darparu cyfraddau cludo cost isel yn awtomatig.

Roedd Veeqo, a gaffaeliwyd gan Amazon yn 2021, wedi lansio'i swyddfa gyntaf - a 'Chanolfan Ddatblygu' gyntaf Amazon yng Nghymru - yn 2022 ac mae wedi tyfu o 60 o weithwyr i fwy na 200 yn ystod y tair blynedd diwethaf, gyda hanner y rheini bellach yn gweithio yn y safle newydd sbon yn Abertawe.

Sefydlwyd Veeqo gan y Prif Swyddog Gweithredol, Matt Warren yn 2013 fel gwerthwr ar-lein yr oedd angen meddalwedd arno a fyddai'n gwneud archebion cludo o amryfal sianelau gwerthu'n rhatach ac yn haws.

Meddai, "Mae ein swyddfa estynedig yn Abertawe'n ein galluogi i barhau i adeiladu gwasanaethau sy'n ei gwneud hi'n haws i entrepreneuriaid a busnesau werthu o gwmpas y byd.

"Rwy'n falch ein bod wedi parhau i greu swyddi technoleg hynod fedrus yng Nghymru a bod ein cwmni lleol yn cael effaith fyd-eang fawr."

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae hyn yn newyddion gwych i Abertawe.

"Mae Veequo yn stori llwyddiant lleol go iawn - busnes a gafodd ei eni yma, a dyfwyd yma ac sydd bellach yn ffynnu'n rhyngwladol dan Amazon. Mae cael y cwmni yn natblygiad 71/72 Ffordd y Brenin yn bleidlais o ffydd yn nhalent, isadeiledd a dyfodol ein dinas fel dinas arweiniol ar gyfer busnesau yn y sector technoleg.

"Bydd staff yn Veequo bellach yn ymuno â channoedd o staff o gwmnïau eraill sydd eisoes yn gweithio yn yr adeilad. Caiff rhagor o denantiaid eu cyhoeddi yn yr wythnosau sy'n dod wrth i ni nesáu at feddiannu'r adeilad yn llawn, gyda hyd at 600 o bobl yn gweithio yno.

"Bydd y datblygiad hefyd yn cyfuno â chynlluniau eraill yng nghanol y ddinas i gynyddu nifer yr ymwelwyr, a fydd yn helpu i gefnogi masnachwyr presennol canol y ddinas a denu rhagor o siopau a busnesau eraill i ganol y ddinas yn y dyfodol."

Mae cwmnïau sydd eisoes yn y datblygiad yn 71/72 Ffordd y Brenin, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac ariannwyd yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn cynnwys y cwmni teithio a hamdden TUI yn ogystal â'r cwmni ariannol Futures First.

Mae'r darparwr gweithleoedd hyblyg, IWG, wrthi'n gwneud ei waith gosod mewnol yn y cynllun, y disgwylir iddo fod yn werth £32.6m y flwyddyn i economi Abertawe.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Rhagfyr 2025