Toglo gwelededd dewislen symudol

Y ddinas yn dweud diolch i'n gwirfoddolwyr gwych

Mae Abertawe'n dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr Genedlaethol drwy ddiolch i'r miloedd o bobl sy'n rhoi o'u hamser er mwyn helpu eraill yn y ddinas.

Volunteers graphic generic from Canva

Volunteers graphic generic from Canva

Bydd Neuadd y Ddinas yn cael ei goleuo ar 1 Mehefin ac mae pobl yn cael eu hannog i ddiolch i'r rheini sy'n gwirfoddoli a meddwl am wirfoddoli eu hunain a'r buddion niferus y gall gwirfoddoli eu cynnig.

Mae nifer o'r gwasanaethau a gynhelir gan y cyngor yn cael eu cefnogi gan wirfoddolwyr gan gynnwys chwarae, chwaraeon a chynlluniau ieuenctid, ac mae gwirfoddolwyr hefyd yn helpu i gadw pobl yn ddiogel pan fyddant allan yng nghanol y ddinas ac ar Wind Street gyda'r hwyr, yn rheoli canolfannau cymunedol ac mae llywodraethwyr ysgol yn ymgymryd â rolau pwysig di-dâl.

Meddai Alyson Pugh, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell, "Mae miloedd o wirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser i wneud ein dinas yn lle gwell i fyw, ac ar ran y cyngor hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bob un ohonynt.

"Hoffwn hefyd ddiolch i'n partneriaid niferus yn y sector gwirfoddol ac wrth gwrs, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, yr ydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda nhw ers dechrau'r pandemig ac mae eu cymorth wedi bod yn amhrisiadwy."

Meddai Amanda Carr, Cyfarwyddwr CGGA, "Er gwaethaf heriau'r blynyddoedd diwethaf, mae'r sector yn parhau i ffynnu, tyfu ac addasu i sicrhau bod cymorth ar gael i'r rheini y mae ei angen arnynt, ac mae hyn yn ddiolch i'r miloedd o wirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser er budd eraill.

"Diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud - o'r ymddiriedolwyr i'r cyfeillion; y casglwyr sbwriel i'r gwirfoddolwyr chwaraeon a phawb arall hefyd - rydym yn eich gwerthfawrogi cymaint."

Gallwch bori'r cyfleoedd lleol yn: swansea.volunteering-wales.net/index-classic?lang=CY, dod o hyd i Ganolfan Wirfoddol Abertawe yn www.scvs.org.uk/volunteercentre neu e-bostio:volunteering@scvs.org.uk am gymorth.

 

Close Dewis iaith