Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Busnesau'n croesawu cynlluniau gwerth £750m i adfywio Abertawe

Mae arweinwyr busnesau yn Abertawe wedi croesawu penodiad cwmni adfywio arobryn i arwain ar y gwaith trawsnewid gwerth £750m ar sawl safle datblygu allweddol.

Civic Centre proposal (Sketch)

Civic Centre proposal (Sketch)

Dywed Alan Brayley, Rheolwr Gyfarwyddwr AB Glass, a Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID Abertawe (Ardal Gwella Busnes), fod penderfyniad Cyngor Abertawe i benodi Urban Splash fel ei bartner datblygu a ffefrir yn bleidlais o hyder fawr yn y ddinas.

Mae Urban Splash wedi creu miloedd o gartrefi newydd a mwy na 2 filiwn o droedfeddi sgwâr o fannau gweithio ar draws dros 60 o brosiectau adfywio arobryn yn ystod y 25 mlynedd diwethaf.

Mae cynigion cynnar ar gyfer nifer o safleoedd yn Abertawe y cânt eu hariannu gan y sector preifat bellach wedi'u datblygu. Mae'r safleoedd yn cynnwys y Ganolfan Ddinesig, Gogledd Abertawe Ganolog yn hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant a darn o dir sy'n rhedeg ar hyd yr afon yn ardal St Thomas y ddinas.

Mae'r cyngor wedi penodi Urban Splash yn dilyn proses chwilio helaeth am bartner datblygu a ffefrir fel rhan o fenter Adfywio Abertawe.

Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud nawr ar y cynigion cynnar ar gyfer pob safle cyn rhoi digon o gyfleoedd i bobl leol roi eu hadborth a helpu i lywio'r cynlluniau.

Meddai Alan Brayley, sydd hefyd yn Llywydd Clwb Busnes Bae Abertawe, "Dyma gam mawr arall ymlaen i'r ddinas. Rydym yn gwybod faint o botensial sydd gan Abertawe, a bydd y cynigion hyn yn helpu i wneud y mwyaf o'n glan môr trawiadol gan hefyd gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant i'n busnesau yng nghanol y ddinas.

"Mae busnesau Abertawe'n teimlo'n hyderus am y dyfodol diolch i'r gwaith adfywio helaeth sydd eisoes ar waith ar draws y ddinas, gan gynnwys ardal Bae Copr gyda datblygiad gwych Arena Abertawe yn ganolog iddi.

"Os rhywbeth, mae'r hyder hwn wedi'i gryfhau ymhellach wrth i'r cyngor ddenu partner mawr o'r sector preifat y mae ganddo enw da am gyflawni prosiectau mewn dinasoedd eraill ledled y DU. Mae'n gyfnod hynod gyffrous i Abertawe sy'n golygu bod ein dinas yn dod allan o'r pandemig mewn sefyllfa gadarn o ran buddsoddi a chreu swyddi."

Meddai Russell Greenslade, "Mae hon yn bleidlais o hyder sylweddol gan y sector preifat yn ein hardal BID a'r ddinas.Mae'n sicr yn amser cyffrous i fod yn rhan o stori Abertawe sy'n datblygu fel dinas fodern, hyderus, flaengar.

"Fel BID, rydym yn gweld buddsoddiadau trawiadol Cyngor Abertawe a'r sector cyhoeddus yn cael eu hadlewyrchu gan ein busnesau ardal BID, sy'n cryfhau eu hymdrechion i sicrhau bod eu busnesau'n llwyddiannus.

"Rydym eisoes yn gweld cynnydd mewn hyder yn yr ardal gyda busnesau presennol a newydd yn buddsoddi yng nghanol y ddinas, a hynny oherwydd y disgwylir nifer ychwanegol o ymwelwyr a gwell bywiogrwydd diolch i safleoedd gan gynnwys y swyddfeydd, y fflatiau a'r lleoedd gwaith a rennir newydd ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant yng Ngogledd Abertawe. A chyda safle'r Ganolfan Ddinesig hefyd yn rhan o'n hardal BID, edrychwn ymlaen at ddysgu rhagor am ei drawsnewidiad. Mae gennym lawer i edrych ymlaen ato."

Mae cyrchfan glannau dinesig newydd yn cael ei glustnodi ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig. Cynigir cyrchfan defnydd a rennir ger y traeth, gyda chartrefi newydd a ffocws cryf ar hamdden a lletygarwch, gyda mannau dinesig eang a digon o wyrddni. Mae cynigion eraill yn cynnwys troedffordd newydd i'r traeth a chymysgedd o ddefnyddiau a digwyddiadau parhaol a thymhorol i greu cyrchfan i ymwelwyr yn ystod pob tymor.

Cynigir swyddfeydd, fflatiau a lleoedd gwaith a rennir newydd ar gyfer preswylwyr yng Ngogledd Abertawe Ganolog yn ogystal â lle ar gyfer busnesau creadigol bach.

Cynigir gwaith adfywio a arweinir gan breswylwyr ar y safle yn St Thomas, sy'n cynnwys cartrefi teuluoedd, fflatiau, mannau cyhoeddus newydd a ffordd gerdded ar yr afon sy'n darparu mynediad uniongyrchol i'r afon am y tro cyntaf mewn dros 150 o flynyddoedd.

Bydd cynigion pellach yn y dyfodol hefyd yn ymdrin â chyfleoedd i ddatblygu safleoedd allweddol eraill ledled Abertawe.