Ymgyrch yn tynnu sylw at arwyddion rhybuddio o gam-drin a sut i gael mynediad at gymorth
Cynhelir ymgyrch newydd yn Abertawe i dynnu sylw at arwyddion rhybuddio perthnasoedd nad ydynt yn iach a sut i gael mynediad at gymorth os oes angen.
Mae Cyngor Abertawe'n cydweithio â goroeswyr, trwyddedai, aelodau'r Ardal Gwella Busnes a phartneriaid eraill ar gyfer y fenter lle bydd sticeri'n tynnu sylw at arwyddion cam-drin ac yn darparu rhifau ffôn ar gyfer cymorth lleol.
Fe'i lansiwyd i gyd-fynd â Diwrnod y Rhuban Gwyn (25 Tachwedd) - ymgyrch genedlaethol sy'n galw ar bawb, yn enwedig dynion a bechgyn, i sefyll yn erbyn trais sy'n targedu menywod a merched.
Bydd y posteri a'r sticeri, a grëwyd gyda goroeswyr, yn cael eu gosod mewn toiledau mewn mangreoedd trwyddedig ar draws canol y ddinas.
Ar 25 Tachwedd, bydd aelodau staff a phartneriaid y cyngor yn cynnal bwrdd gwybodaeth yn Ysbyty Treforys i gynnig cyngor ac adnoddau i gynyddu ymwybyddiaeth am Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a chefnogi'r rheini y mae cam-drin domestig wedi effeithio arnynt.
Bydd Neuadd y Ddinas hefyd yn cael ei goleuo'n oren gyda'r hwyr.
- Llinell Gymorth Byw Heb Ofn:0808 80 10 800
- Cymorth i Fenywod Abertawe:01792 644683
- Stori: 01792 345751
- New Pathways: 01685 379 310
- Bawso:01792 642003
