Toglo gwelededd dewislen symudol

Gŵyl Tân ac Iâ newydd syfrdanol yn dod i ganol y ddinas y penwythnos hwn

Bydd canol dinas Abertawe'n disgleirio'r penwythnos hwn wrth i dân ac iâ feddiannu'r strydoedd fel rhan o sioe Nadoligaidd ysblennydd.

Ice sculpting

Ice sculpting

Gall ymwelwyr ddilyn llwybr o gerfluniau iâ disglair, tynnu lluniau hudolus yn y glôb eira enfawr ar Stryd Portland, a rhoi cynnig ar gerfio iâ rhyngweithiol.  

Bydd hefyd sioeau tân ac iâ yn St David's Place a pherfformiadau tân deinamig ar Stryd Rhydychen.

Gall teuluoedd gwrdd â dynion eira  a chymeriadau o ffilm boblogaidd Frozen  a fydd yn crwydro ar hyd y strydoedd drwy gydol y dydd, a gall y rhai sy'n dwlu ar gerddoriaeth fynd i Gaban y Carolwyr a noddir gan Costa Coffee.  

Mae rhaglen gerddoriaeth fyw'r penwythnos yng Nghaban y Carolwyr yn cynnwys: 

Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr

·       10am-11am: Village Voices

·       11am-12pm: Mumbles Lifeboat Singers

·       1pm-2pm: Hot Gin Swing

·       2.30pm-3.30pm: The Phoenix Choir of Wales

·       4pm-5pm: The J Tones

Dydd Sul 7 Rhagfyr

• 11am-11.45am: Rock Choir

• 12pm-1pm: Cymdeithas Cerddorion Prifysgol Abertawe

• 2pm-3pm: Choirs for Good

• 3.30pm-4.30pm: Chris Haul

Meddai'r Cyng.  Rob Stewart , Arweinydd Cyngor Abertawe , "Rydym am sicrhau mai dyma'r Nadolig gorau erioed yn Abertawe.

"O gerfluniau iâ disglair i berfformiadau a cherddoriaeth fyw, mae rhywbeth hudol i bawb ei fwynhau'r penwythnos hwn yn yr Ŵyl Tân ac Iâ, sy'n cael ei chynnal am y tro cyntaf yng nghanol y ddinas.

"Mae'r ŵyl yn dilyn digwyddiad arobryn Gorymdaith y Nadolig.

"Mae'n un o nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn Abertawe yn y cyfnod cyn y Nadolig wrth i ni geisio gwneud y tymor mor gofiadwy â phosib i deuluoedd a phobl leol, gan hefyd gefnogi ein busnesau gwych yng nghanol y ddinas gyda'r cynnydd mewn nifer yr ymwelwyr sy'n deillio o'r digwyddiadau hyn." 

Mae digwyddiadau a gweithgareddau Nadoligaidd eraill yn cynnwys Marchnad y Nadolig   sydd bellach ar agor ar Stryd Rhydychen a Portland Street tan 22 Rhagfyr.

Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau hefyd bellach wedi dychwelyd i Barc yr Amgueddfa tan 4 Ionawr.

I gael rhagor o wybodaeth am holl ddigwyddiadau'r tymor yn Abertawe a'r union amserau ar gyfer gweithgareddau'r Ŵyl Tân ac Iâ, ewch i  https://www.croesobaeabertawe.com/nadolig-abertawe/

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Rhagfyr 2025