Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol yn anelu at aur wrth hyrwyddo'r Gymraeg

Mae ysgol yn Abertawe wedi ennill gwobr aur am annog disgyblon, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach i siarad Cymraeg mor aml â phosib.

Ysgol Gymraeg Bryn y Môr Gold Siarter Iaith Award.

Ysgol Gymraeg Bryn y Môr Gold Siarter Iaith Award.

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr wedi ennill Gwobr Aur y Siarter Iaith.

Menter gan Lywodraeth Cymru yw hon i annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau, gan gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn gymdeithasol y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Meddai Catrin Williams, Cydlynydd Siarter Iaith Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr, "Mae'r garreg filltir hon yn dangos ymroddiad a brwdfrydedd cymuned gyfan yr ysgol i hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant.

"O ddisgyblion a staff i rieni a llywodraethwyr, mae pawb yn chwarae rhan weithredol mewn defnyddio'r Gymraeg yn yr ysgol.

"Mae ein Pwyllgor Cymreictod wedi chwarae rôl ganolog mewn arwain ar amrywiaeth o weithgareddau creadigol a chyffrous sydd wedi helpu i wneud y Gymraeg a'i diwylliant yn rhan naturiol ac amlwg o fywyd beunyddiol yr ysgol a'r gymuned.

"Rydym yn gyffrous iawn i barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn ac i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i ddefnyddio a dathlu'r Gymraeg bob dydd."

Meddai'r Pennaeth Elin Wakeham, "Rwy'n falch iawn o ymdrech ac ymroddiad parhaus Mrs Williams, y staff, a'r disgyblion, yn enwedig Pwyllgor Cymreictod yr ysgol, sy'n arddangos eu brwdfrydedd i ddilyn gweledigaeth yr ysgol i hyrwyddo a meithrin y Gymraeg a'i diwylliant, ein treftadaeth, a'n cariad at Gymru yn gyson.

"Mae'r wobr hon hefyd yn dathlu'r ymroddiad hwnnw ar bob lefel, o lywodraethwyr i rieni, sy'n ardderchog."

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith, "Rydym yn cefnogi pob ysgol i gynyddu defnydd plant a phobl ifanc o'r Gymraeg yn gymdeithasol drwy ddefnyddio'r Siarter Iaith fel rhan o'n Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

"Mae'n braf iawn gweld yr holl waith sy'n cael ei wneud yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr yn cael ei gydnabod, a hoffwn longyfarch pawb a oedd yn rhan o hyn."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Mehefin 2025