Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Storfa: Cynnydd gyda nodweddion allweddol yn yr hwb cymunedol

Gwneir cynnydd o hyd yn safle hwb gwasanaethau cymunedol newydd Abertawe yng nghanol y ddinas, Y Storfa.

Inside Y Storfa July 2025

Inside Y Storfa July 2025

Pan fydd yn agor, bydd yn gartref i gyfleusterau fel llyfrgell ganolog newydd a fydd yn cynnwys llyfrgell i blant.

Bydd y gwasanaethau eraill a gynhelir gan y cyngor yno'n cynnwys y rheini fel y Ganolfan Gyswllt, Opsiynau Tai, Dysgu Gydol Oes a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

Disgwylir i denantiaid yr adeilad nad ydynt yn denantiaid y cyngor gynnwys Gyrfa Cymru, Cyngor ar Bopeth, a Llyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd y Storfa'n lleoliad penigamp i bobl gael mynediad at wasanaethau hanfodol.

"Mae'r ardal hon o ganol y ddinas yn cael ei thrawsnewid gyda chymysgedd da o fuddsoddiad gan y sectorau cyhoeddus a phreifat."

Yn ystod yr wythnosau diweddar ar safle'r Storfa, mae'r prif gontractwyr Kier Group wedi parhau i weithio ar elfennau fel gosod y canlynol:

  • fframwaith dur ar gyfer grisiau canolog tri llawr
  • podiau cyfarfod ar ffurf cytiau traeth ar gyfer Gyrfa Cymru
  • ffenestri mewnol ac allanol
  • paneli cladin allanol.

Disgwylir i'r prosiect yng nghanol y ddinas yn hen adeilad siop BHS ar Stryd Rhydychen gael ei gwblhau eleni. Mae cyllidwyr y prosiect yn cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Llun: Aelodau Cabinet y Cyngor ac aelodau staff yn Y Storfa.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Gorffenaf 2025