Toglo gwelededd dewislen symudol

Pennu dyddiad agor ar gyfer Y Storfa yn Abertawe

Pennwyd dyddiad ar gyfer agoriad cyhoeddus Y Storfa, yr hwb gwasanaethau cymunedol blaenllaw yng nghanol dinas Abertawe.

Y Storfa Nov 2025

Y Storfa Nov 2025

Mae Cyngor Abertawe - sy'n trawsnewid hen adeilad BHS ar y gyffordd rhwng Stryd Rhydychen a Princess Way - yn bwriadu agor y drysau am 9am, ddydd Llun, 1 Rhagfyr.

Mae'r Storfa yn un o gonglfeini rhaglen adfywio gwerth £1bn y cyngor.

Mae'n dod ag amrywiaeth eang o wasanaethau ynghyd o dan yr unto, gan greu amgylchedd modern, croesawgar.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: "Mae'n wych bod gennym ddyddiad agor cadarn ar gyfer Y Storfa bellach - a hynny cyn y Nadolig.

"Bydd yn gyfleuster newydd gwych a fydd yn helpu i wneud canol y ddinas yn lle gwell byth i ymweld ag ef. Bydd diddordeb mawr y cyhoedd yn Y Storfa'n golygu y bydd mwy o bobl yn ymweld â masnachwyr cyfagos wrth i gyfnod yr ŵyl fynd rhagddo.

"Bydd Y Storfa yn fan lle gall pobl ddod at ei gilydd - i ddysgu, cael mynediad at wasanaethau pwysig neu gymryd rhan mewn bywyd cymunedol mewn lle modern a chroesawgar."

Ar ôl cael ei hagor i'r cyhoedd am 9am ar 1 Rhagfyr, bydd Llyfrgell Ganolog y ddinas ar gael i ymwelwyr, gan gynnig mannau dynodedig i blant a theuluoedd.

Hefyd, darperir gwasanaethau Opsiynau Tai a Chymorth Tai'r cyngor yn yr adeilad, yn ogystal â Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a nifer o wasanaethau eraill y cyngor.

Bydd gwasanaethau Gyrfa Cymru a Chyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar gael yno - a chaiff gwasanaethau eraill fel Llyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe eu sefydlu yn Y Storfa dros yr wythnosau i ddod.

Ger Y Storfa, mae'r cyngor yn trawsnewid Sgwâr y Castell yn lle gwyrddach a mwy croesawgar i'r cyhoedd.

Mae'r gwelliannau diweddar eraill yn y cyffiniau dan arweiniad y cyngor yn cynnwys datblygu Arena Swansea Building Society, trawsnewid Ffordd y Brenin a Wind Street, adeiladu mannau swyddfeydd newydd yn 71/72 Ffordd y Brenin ac ailagor adeilad hanesyddol Theatr y Palace.

Mae cynlluniau adfywio cyfagos y sector preifat yn cynnwys yr adeilad byw bioffilig ar Stryd Rhydychen, Ardal y Dywysoges ac adeilad hanesyddol Albert Hall.

Mae arianwyr Y Storfa yn cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Gwnaed y gwaith adeiladu dan arweiniad The Kier Group.

Llun: Golwg ar Y Storfa, yr hwb gwasanaethau cyhoeddus newydd yng nghanol dinas Abertawe, o Stryd Rhydychen.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Tachwedd 2025