Toglo gwelededd dewislen symudol

Addewidion newid yn yr hinsawdd dinasyddion i ysbrydoli eraill i weithredu

Gall pobl a sefydliadau sydd am helpu Abertawe i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd bellach fynegi eu nodau'n gyhoeddus ar wedudalen newydd.

The online pledge page

Online pledge page cym

Mae Wal Addewid Hinsawdd ar-lein y cyngor yn caniatáu i unigolion a grwpiau gymryd cam cyflym a syml i ddweud wrth eraill sut maent yn helpu'r blaned.

Bydd pob addewid ar-lein gan ddinasyddion o bob oed, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol neu wirfoddol yn egluro sut mae'r llofnodwr yn chwarae ei ran wrth helpu Abertawe i ddod yn wyrddach ac yn garbon sero-net.

Mae'r cyngor yn bwriadu dod yn sero-net erbyn 2030 ac mae am wneud y ddinas yn sero-net erbyn 2050.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor,  "I wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chyflwyno'r Abertawe rydym am ei chael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae angen i bawb weithredu'n awr.

"Rwy'n annog pobl a grwpiau lleol i wneud eu haddewidion ar-lein ac ysbrydoli eraill i gymryd camau cadarnhaol.

"Mae'n hawdd gwneud hyn a bydd yn helpu'r ddinas gyfan i ddod yn wyrddach ac yn fwy ystyriol o'r amgylchedd ar yr adeg hon o argyfwng hinsawdd."

Mae syniadau gwych ar gyfer addewidion unigol yn cynnwys newid i gyflenwr ynni adnewyddadwy 100%, cerdded a beicio'n fwy i leihau'r defnydd o gerbydau, a siopa'n lleol i dorri allyriadau.

Mae busnesau a grwpiau cymunedol lleol hefyd yn cael eu hannog i wneud eu haddewid gan nodi sut byddant yn cyfrannu at Abertawe sero-net.

Mae'r cyngor eisoes yn mynd yn wyrddach ac wedi llofnodi siarter ar weithredu ar yr hinsawdd sy'n gwneud ymrwymiad i weithredu ar newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth ac amrywiaeth.

Os hoffech ddatgan eich dymuniad yn gyhoeddus i helpu i wneud Abertawe'n garbon sero-net, llofnodwch addewid hinsawdd y ddinas yn awr -www.abertawe.gov.uk/addewidhinsawdd

Llun: Wal Addewid yr Hinsawdd ar-lein newydd Abertawe

 

Close Dewis iaith