Toglo gwelededd dewislen symudol

Abertawe Mwy Diogel

Gwneud ein cymunedau'n lleoedd mwy diogel i fyw a gweithio ynddyn nhw. Mae'r heddlu, y cyngor, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth prawf, yn ogystal â nifer o sefydliadau ac elusennau eraill, yn gweithio gyda'i gilydd i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae dyletswydd ar Abertawe Mwy Diogel i sicrhau bod pobl wedi'u hamddiffyn yn ddigonol rhag amrywiaeth o beryglon go iawn a chanfyddiedig. Bydd hyn yn cynnwys:

  • troseddu
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • damweiniau tân
  • darparu cefnogaeth a diogelwch i bobl y mae'r fath faterion yn effeithio arnyn nhw.

Mae'n gweithio yn y meysydd allweddol canlynol ac yn cynllunio ac yn cynnal prosiectau a gweithgareddau i fynd i'r afael â materion troseddu lleol sy'n cynnwys popeth o dafarnau a chlybiau'n defnyddio gwydrau plastig caled i farsialiaid tacsi, teledu cylch cyfyng a systemau diogelwch cartref.

  • alcohol a chyffuriau
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • plant a phobl ifanc
  • troseddu treisgar yng nghanol y ddinas
  • cydlyniant cymunedol
  • diogelu pobl mewn perygl
  • gweithio gyda'n gilydd.

Rhoi gwybod am weithgarwch amheus

Mae Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel yn annog pob preswylydd yn y gymuned i roi gwybod am unrhyw gerbydau amheus neu weithgareddau fel galwyr diwahoddiad, difrod troseddol neu achlysuron o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Pawennau ar Batrol

Pobl gydwybodol mewn cymunedau sy'n mynd â'u cŵn am dro yn Abertawer sy'n gallu helpu eu cymdogaeth leol drwy adrodd am unrhyw ddigwyddiadau amheus neu achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gwarchod y Gymdogaeth Abertawe

Pwrpas Gwarchod y Gymdogaeth yw dod â chymdogion ynghyd i greu cymunedau cryf, cyfeillgar a gweithredol lle mae troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn llai tebygol o ddigwydd.