Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwarchod y Gymdogaeth Abertawe

Pwrpas Gwarchod y Gymdogaeth yw dod â chymdogion ynghyd i greu cymunedau cryf, cyfeillgar a gweithredol lle mae troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn llai tebygol o ddigwydd.

Chwaraewch eich rhan wrth helpu'ch heddlu lleol i ymladd yn erbyn trosedd drwy ymuno â'r nifer cynyddol o bobl sy'n cefnogi cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth ledled y wlad.Gall Cynllun Gwarchod y Gymdogaeth gweithredol fod yn un o'r mentrau atal troseddau mwyaf a mwyaf llwyddiannus.

Beth yw Gwarchod y Gymdogaeth?

Gyda chynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth, daw pobl ynghyd â'u cymdogion i weithio mewn partneriaeth weithredol â'r heddlu a'r awdurdod lleol i atal troseddau.

Gall cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth:

  • leihau troseddau a'r cyfleoedd ar gyfer troseddu
  • helpu a thawelu meddyliau'r rheini sy'n ofni troseddau
  • annog natur gymdogol a chymunedau agosach

Sut mae cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth yn gweithio?

Gall cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth fod yn fawr, a chwmpasu er enghraifft y rhan fwyaf o dai ar stad neu gallant ymwneud â hanner dwsin o dai. Mae'n dibynnu ar yr ardal a'r hyn y mae'r bobl sy'n byw yno am ei gael.

Caiff cynllun ei arwain fel arfer gan gydlynydd gwirfoddol a'i rôl yw cael pobl i weithio gyda'i gilydd a sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud. Mae fel arfer pwyllgor, yn ogystal â'r cydlynydd. Mae pwyllgorau'n cwrdd yn rheolaidd i gynllunio pa broblemau i'w targedu a pha gamau i'w cymryd. Mae cynlluniau'n cadw mewn cysylltiad agos â'r heddlu lleol i rannu gwybodaeth a chyngor.

Beth gall cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth eu gwneud?

Gall cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth, mewn ymgynghoriad â'r Heddlu lleol, dargedu problemau troseddu lleol a chymryd camau i'w hatal drwy ddilyn 6 cam allweddol:  

  1. Cael darlun o droseddu lleol
  2. Cynnal arolwg ofni troseddau
  3. Targedu troseddau y gallwch gael effaith wirioneddol arnynt
  4. Nodi cyfleoedd am droseddu
  5. Llunio cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r broblem
  6. Rhwystro neu leihau cyfleoedd i'r troseddwr

Mae'r rhan fwyaf o droseddau'n rhai manteisgar, sy'n cael eu cyflawni yn y fan a'r lle, neu pan fydd car neu dŷ'n cael ei adael heb ei gloi Mae hyn yn golygu bod cyfle enfawr i leihau cyfleoedd i droseddwyr.

Mae gweithgarwch Gwarchod y Gymdogaeth traddodiadol wedi canolbwyntio ar yr ardaloedd sydd ar bwys cartrefi, gydag aelodau'n cadw llygad am unrhyw beth amheus, neu helpu eu cymdogion yn ôl yr angen. Fodd bynnag, mae mwyfwy o gynlluniau'n ehangu eu hystod o waith.

Mae targedu problemau lleol fel graffiti o fewn cwmpas Cynllun Gwarchod y Gymdogaeth sydd wedi'i drefnu'n dda. Gall pobl gymryd camau eu hunain, fel gosod cloeon drysau a ffenestri gwell a mwy diogel mewn tai sy'n hawdd torri mewn iddynt.

I helpu i leihau ofn troseddu, mae llawer o gynlluniau bellach yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill fel Heddlu De Cymru, Cymorth i Ddioddefwyr, Age UK a Safonau Masnach Abertawe.

Beth yw manteision gwarchod y gymdogaeth?

Nid rhywbeth i leihau ffigurau byrgleriaeth yn unig yw Gwarchod y Gymdogaeth.Mae'n ymwneud â chreu cymunedau sy'n gofalu am eu cymuned a chreu lle gwell i fyw, gweithio a chwarae.

Mae cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth yn dod â phobl ynghyd drwy feithrin ysbryd cymunedol newydd a chred yng ngallu'r gymuned i ddatrys problemau drwy weithio gyda'i gilydd. Ar yr un pryd, mae pobl yn teimlo'n ddiogel, gan wybod bod eu cymdogion yn cadw llygad ar eu heiddo.

Drwy fod yn rhan o gynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth, daw pobl yn gyfarwydd â syniadau atal troseddu a fydd yn helpu i gadw'u cartref a'u heiddo'n ddiogel. Gall hyn yn oed olygu y gallwch gael gostyngiad premiwm gan eich cwmni yswiriant.

Manylion cyswllt Gwarchod y Gymdogaeth cenedlaethol

Ffôn: 0116 402 6111
E-bost: enquiries@ourwatch.org.uk

Close Dewis iaith