Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Addysg ddewisol yn y cartref - beth os oes gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol?

Mae'r un weithdrefn yn berthnasol os oes gan eich plentyn ddatganiad o AAA ac mae'n mynychu ysgol brif ffrwd.

Fodd bynnag, os bydd eich plentyn yn mynd i ysgol arbennig, bydd angen i chi gael caniatâd yr Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol (UADY)  yn yr ALl cyn ei dynnu o'r ysgol.

Mae'n bwysig eich bod yn ysgrifennu at yr adran ADY i ddweud wrthynt am eich penderfyniad i addysgu yn y cartref. Bydd hyn yn eu galluogi i gynnig cyngor wrth gyflawni nodau'r datganiad.

Yn y naill achos neu'r llall, mae'n rhaid bod yr addysg a ddarperir gennych yn bodloni nodau'r datganiad AAA/amcanion y CDU. Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gynnal adolygiad blynyddol am hyd y datganiad. Bydd hyn yn cynnwys a yw geiriad y datganiad yn briodol o hyd ac a oes angen iddo aros yn ei le.

Mae gennych yr hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC) o hyd).

 

Close Dewis iaith