Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Adnewyddu addunedau

Seremoni yw hon ar gyfer parau priod sydd am adnewyddu'r addunedau a wnaed i'w gilydd ar eu diwrnod priodas. Gallai hyn fod yn ddathliad o ben-blwydd arbennig neu i ailddatgan eu hymrwymiad i'w gilydd.

Fe'i dewisir yn aml gan barau a briododd dramor, fel cyfle i rannu dathliad y briodas gyda theulu a ffrindiau.

Gellir addasu'r seremoni i greu dathliad perffaith drwy ddewis geiriau, cerddi, darlleniadau a cherddoriaeth sy'n arbennig i chi.

Gellir cyfnewid modrwyau newydd neu ailgyflwyno hen fodrwyau, a gellir rhoi anrhegion fel "Diolch" i'ch gilydd neu i'r bobl bwysig yn eich bywydau. Cyflwynir tystysgrif i chi i nodi'r achlysur i gofio'ch diwrnod arbennig iawn.

Gellir cynnal seremoni adnewyddu addunedau yn y Ganolfan Ddinesig neu mewn un o'r lleoliadau cymeradwy yn Abertawe. Cysylltwch â ni am unrhyw wybodaeth neu i gael gwybod am ffïoedd.

Sylwer mai digwyddiadau dathlu'n unig yw'r seremonïau hyn. Nid oes unrhyw sail gyfreithiol i unrhyw dystysgrif goffaol a roddir.

Close Dewis iaith