Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cynllun Trawsnewid Corfforaethol - Adroddiad Blynyddol 2024-25

Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn nodi'r cynnydd a wnaed ym mlwyddyn dau Cynllun Trawsnewid Corfforaethol (CTC) Cyngor Abertawe 2023-28.

 

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Crynodeb gweithredol

Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn nodi'r cynnydd a wnaed ym mlwyddyn dau Cynllun Trawsnewid Corfforaethol (CTC) Cyngor Abertawe 2023-28. Mae'n adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i gyflawni newid gwirioneddol a pharhaol drwy raglen sy'n canolbwyntio ar ddiwygio gwasanaethau, buddsoddi a datblygu sefydliadol.

Mae tair ar ddeg o raglenni yn ganolbwynt i'r cynllun, sy'n cwmpasu gwasanaethau oedolion a phlant, tai, addysg, arloesi digidol, trawsnewid y gweithlu a chynaliadwyedd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwelsom gynnydd mesuradwy yn y rhan fwyaf o feysydd. Mae'r modelau ataliol mewn gofal cymdeithasol yn fwy manwl, y rhaglenni moderneiddio tai ac ysgolion wedi parhau i ddatblygu, ac mae canlyniadau'r buddsoddiad digidol bellach i'w gweld yn gwella mynediad, awtomeiddio ac yn rhoi cipolwg ar berfformiad ar draws y gwasanaethau.

Ar yr un pryd, rydym wedi gwella'r amodau i greu newidiadau hirdymor. Mae'r Matrics Rhyngddibyniaeth yn ein helpu i reoli'r berthynas rhwng rhaglenni yn well, tra bod modelau gweithredu ac olrhain buddiannau mwy eglur yn creu dulliau cyflawni sy'n fwy disgybledig. Mae'r Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn parhau i gefnogi'r diwylliant, sgiliau ac arweinyddiaeth sydd eu hangen i gyflawni newid ar raddfa eang.

Yn hanfodol, mae'r Cyngor hefyd yn cymryd camau pendant i reoli'r risgiau strategol sy'n gysylltiedig â'r trawsnewid. Mae'r rhain yn cynnwys cynaliadwyedd ariannol, y gallu i gyflawni, dibyniaeth rhwng rhaglenni a'r her o gadw'r momentwm mewn amgylchedd polisïau cymhleth sy'n newid. Mae trefniadau llywodraethu eglur yn sail i'r broses gyflawni, gyda'r Bwrdd Trawsnewid Corfforaethol yn ei goruchwylio. 

Mae'r sylfeini ar gyfer trawsnewid yn gadarn, ond mae'r cynnydd parhaus yn dibynnu ar ddisgyblaeth wrth gyflawni, cydweithio ar draws y gwasanaethau, a'r gallu i addasu wrth ymateb i her. Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y broses drawsnewid nid yn unig yn uchelgeisiol, ond yn gyraeddadwy, ac yn parhau i gyflawni ar gyfer cymunedau nawr ac yn y dyfodol.

1. Cyflwyniad

Hwn yw ail Adroddiad Blynyddol Cynllun Trawsnewid Corfforaethol (CTC) Cyngor Abertawe 2023-28. Mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar draws yr holl raglenni sy'n ganolbwynt i agenda trawsnewid y Cyngor, gyda phob un wedi'i chynllunio i greu canlyniadau gwell, gwell gwasanaethau, a chynaliadwyedd sefydliadol hirdymor. 

Gweledigaeth y Cyngor i greu Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy sy'n sail i'r CTC, fel a nodir yng Nghynllun Corfforaethol 2023-28 ac Amcanion Llesiant y Cyngor. Mae'r weledigaeth yn uchelgeisiol ac yn eang ei chwmpas:

"Yn 2028 mae Abertawe yn lle sydd â chanol dinas defnydd cymysg ac economi leol ffyniannus. Mae'n fan lle gall pobl ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd, lle gall pawb gyflawni ei botensial a lle mae cymunedau'n wydn ac yn gydlynol. Mae Abertawe yn fan lle mae hawliau dynol yn cael eu parchu, a lle mae pobl yn cael eu diogelu rhag niwed a cham-fanteisio. Mae'n fan lle mae natur a bioamrywiaeth yn cael eu cynnal a'u gwella, a lle mae allyriadau carbon yn gostwng."

Mae'r CTC yn trosi'r weledigaeth hon i mewn i raglen o newidiadau strwythuredig. Dechreuodd yn 2023 gyda deuddeg rhaglen, gan ychwanegu rhaglen arall ar ddigartrefedd ym mis Ebrill 2024. Mae'r cynllun bellach yn cynnwys tair ar ddeg o raglenni cydgysylltiedig - wyth (1) sy'n benodol i wasanaethau, sy'n canolbwyntio ar feysydd fel gwasanaethau oedolion a phlant, addysg, tai, ac adfywio; a phum (2) rhaglen trawsbynciol sy'n targedu galluogwyr allweddol fel trawsnewid digidol, datblygu'r gweithlu, dylunio sefydliadol, a gweithredu ar newid hinsawdd.

Gyda'i gilydd, nod y rhaglenni hyn yw sicrhau bod y Cyngor yn gallu diwallu anghenion ei gymunedau, ymateb i heriau'r dyfodol, a darparu gwasanaethau sy'n gynaliadwy yn ariannol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.

1. Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion, Trawsnewid Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol, Ysgolion Cywir yn y Lleoedd Cywir, Rhaglen Adfywio, Rhaglen Mwy o Gartrefi, Digartrefedd, a Strategaeth Wastraff y Dyfodol.
2. Model Hyb Cymunedol y Dyfodol, Rhaglen Galluogi Cymunedau, Rhaglen Sero Net, Rhaglen Trawsnewid Digidol a Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol.

Trefniadau goruchwylio a llywodraethiant rhaglenni

Yn ystod 2024-25, cafodd trefniadau llywodraethu'r Cynllun Trawsnewid Corfforaethol eu symleiddio i gryfhau'r trefniadau goruchwylio a lleihau dyblygiad. Cafodd y strwythur blaenorol, a oedd yn cynnwys Cabinet/Bwrdd Trawsnewid y Tîm Rheoli Corfforaethol a Bwrdd Cyflawni Trawsnewid ar wahân, ei ddisodli gydag un Bwrdd Trawsnewid Corfforaethol (BTC), gan uno'r Cabinet a'r Tîm Rheoli Corfforaethol.

Mae'r BTC yn cyfarfod bob chwarter i adolygu cynnydd, darparu cyfeiriad strategol, a sicrhau ei fod yn gydnaws â pholisi ehangach a blaenoriaethau ariannol y Cyngor. Mae'r Cylch Gorchwyl diweddaraf yn atgyfnerthu ei ran mewn goruchwylio'r dulliau cyflawni, rheoli rhyngddibyniaeth, a monitro risg ar draws y portffolio trawsnewid.

 2. Rhaglenni trawsnewid corfforaethol

2.1 Trawsnewid gwasanaethau oedolion

Mae'r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion yn ymroddedig i ddarparu rhaglenni newid strategol o dan y themâu Atal a Chymorth Cynnar, Galluogi a Hyrwyddo Annibyniaeth, a Blaenoriaethu Adnoddau. Mae'r rhaglen yn cynnwys ymdrechion cydweithredol ar draws y Gwasanaeth, y Gyfarwyddiaeth a'r Bartneriaeth Ranbarthol i wella gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion.

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Gweithredu'r model sefydliadol diwygiedig ar gyfer Timau Asesu a Rheoli Gofal;
  • Sefydlu mwy o rolau 'cymorth cynnar' ac ataliol yn y Man Mynediad Cyffredin;
  • Diwygio'r model cyflawni ar gyfer y Gwasanaethau Gofal Cartref Mewnol - gan ddefnyddio'r adnoddau presennol i gynnig cyfran uwch o adnoddau i gefnogi'r broses o ailalluogi yn y cartref;
  • Cynnig mwy o wasanaethau ailalluogi preswyl, gan gynnwys gwasanaethau dementia Tŷ Westfield;
  • Cwblhau'r broses o ddatblygu cam cyntaf ailfodelu Gwasanaethau Dydd;
  • Adnewyddu fframwaith y darparwr Gofal Cartref a gomisiynwyd ac adolygu cynlluniau peilot ar gyfer bloc o gontractau ;
  • Diwygio'r fframwaith monitro perfformiad ac adnewyddu targedau

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

  • Mwy o wasanaethau sy'n gwella'r ddarpariaeth Cymorth Cynnar a llwybrau hyfyw i 'gamu i lawr' o ymyriadau gofal a reolir.
  • Ailfodelu gwasanaethau i ddiwallu anghenion cymunedol, gan gynnwys darpariaeth gofal preswyl mewnol.
  • Blaenoriaethu'r adnoddau sydd ar gael i gynyddu capasiti timau a sicrhau bod cymorth amserol ar gael.
  • Gwella'r dull o gofnodi perfformiad ar draws meysydd gwasanaeth amrywiol.
  • Cymorth i greu sefydlogrwydd o fewn y farchnad gofal cartref allanol.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

  • Nifer yr ymholiadau a dderbyniodd Pwyllgor Monitro'r Rhaglen (PMC) na arweiniodd at unrhyw atgyfeiriadau parhaus at waith cymdeithasol = cyfartaledd o 46% o'r holl ymholiadau a dderbyniwyd. 
  • Derbyniwyd 55 o atgyfeiriadau llesiant cymunedol drwy'r PMC yn ystod 3 mis cyntaf y cynllun peilot. Cefnogwyd 102 o bobl i archwilio dewisiadau amgen yn lle gofal cymdeithasol.
  • Ym mis Chwefror 2025, nifer yr asesiadau cychwynnol a gwblhawyd a arweiniodd at gynllun gofal a chymorth newydd oedd 88, sef gostyngiad o oddeutu 19.3% o'i gymharu â Medi 2024 pan gwblhawyd 109 o asesiadau.
  • Nifer cyfartalog y dechreuwyr ailalluogi Gofal Cartref fesul mis (Medi 2024 - Chwefror 2025) = 57 y mis. Mae hyn yn gynnydd o 30% ar y 6 mis blaenorol.
  • Y nifer cyffredinol o bobl sy'n derbyn gwasanaeth ailalluogi yn y cartref ym mis Chwefror 2025 = 109.
  • Nifer y bobl sy'n gadael Tŷ Bonymaen gyda'u hanghenion cymorth gofal parhaus wedi'u lliniaru neu leihau = 80% o'r holl bobl a ryddhawyd Chwefror 24- Chwefror 25 (212 o 265 o'r bobl a ryddhawyd).
  • Cyfanswm nifer y bobl sy'n dychwelyd gartref gyda phecyn gofal yn dilyn asesiad ac ailsefydlu yn Nhŷ Westfield = 37.5% o'r holl bobl a ryddhawyd.
  • Cynyddodd y broses o ymestyn atgyfeiriadau i dechnoleg gynorthwyol gan dimau heb therapi o 33%.
  • Arweiniodd y broses o asesu ac aildrefnu rheoli gofal ynghyd ag adolygu prosesau cysylltiedig at leihau ymholiadau gan gleientiaid presennol i PMC o 39% ers mis Medi 2024.
  • Mae'r rhestrau aros wedi lleihau ar draws y gwasanaeth gyda gwelliant penodol mewn asesiadau newydd neu 'gychwynnol' a gostyngiad o oddeutu 51% (186 o gleientiaid) o'i gymharu â Chwefror 2024 i Chwefror 2025.

Goblygiadau ariannol

Yn 2024-25 cyflawnwyd £990,000 o arbedion a nodwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC). Bu'r rhaglen yn llwyddiannus yn 2024-25 drwy wneud y mwyaf o Grantiau Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae cael cyllid cynaliadwy yn parhau i fod yn ansicr, a dylid ystyried modelau cyflenwi amgen. Rydym wedi sefydlu Model Gweithredu Targed ar gyfer y gwasanaeth o 2025-26 i 2028-29, sy'n cyd-fynd â'r CTC a'r CATC diwygiedig.

Casgliad

Yn 2024-25, creodd y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion y sylfeini ar gyfer newid strategol yn yr hirdymor. Mae sefydlu swyddogaethau Asesu a Rheoli Gofal diwygiedig, cydweddu adnoddau Gofal Cartref mewnol, a dulliau comisiynu gofal cartref yn adlewyrchu newidiadau yn y dull o weithredu gwasanaethau oedolion. Mae canolbwyntio ar atal, hyrwyddo annibyniaeth, a blaenoriaethu adnoddau yn cyd-fynd â'r ymrwymiadau cynllunio ariannol a'r heriau parhaus ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn 2025-26 bydd y rhaglen yn parhau i ganolbwyntio ar Atal, Hyrwyddo Annibyniaeth, a Blaenoriaethu adnoddau wrth i ni fodloni'r ymrwymiadau cynllunio ariannol a'r heriau parhaus ar draws pob maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

2.2 Trawsnewid gwasanaethau plant a theuluoedd

Mae'r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn canolbwyntio ar wella cymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd drwy flaenoriaethu ataliaeth, ymyrraeth gynnar a galluogi. Nod y rhaglen yw:

  • Galluogi gweithwyr i dreulio mwy o amser gyda theuluoedd.
  • Lleihau baich gwaith papur a phrosesau.
  • Canolbwyntio ar 'yr hyn sy'n bwysig' a llais y plant a'r bobl ifanc.
  • Newid ffordd o feddwl ac ymddygiad arweinwyr.
  • Creu gwell ymdeimlad o bwrpas a hunaniaeth gyffredin ar draws y gwasanaeth.
  • Grymuso ac ymddiried yn rolau'r gweithlu.

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Datblygu darpariaeth breswyl gofrestredig ychwanegol yn Abertawe.
  • Ailgynllunio'r Gwasanaeth Atal Digartrefedd i bobl ifanc.
  • Cyflwyno cymorth gyda Lleoliadau Rhieni a Phlant Newydd yn y cartref i gefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd sy'n gydnaws â'n gwaith a'n gwaith Born into Care a enillodd wobr.
  • Arolygiad cadarnhaol o'n Gwasanaethau Maethu gyda'r canfyddiadau yn gydnaws â'r datblygiadau arfaethedig i ehangu a pharhau i ddatblygu'r gwasanaeth.
  • Adroddiad Arolygu Rhagorol gan Arolygiaeth Gofal Cymru i Gartref Preswyl Tŷ Nant.
  • Rhoi llwybr llety â chymorth newydd ar waith i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a phobl ifanc digartref i ymestyn y gwasanaeth a'r dewis.
  • Datblygu arbenigedd, goruchwyliaeth a hyfforddiant mewn cartrefi preswyl i ymgorffori dull therapiwtig a gofal o ansawdd cyson i blant a phobl ifanc.
  • Ymgyrch recriwtio a denu lwyddiannus sy'n ymgysylltu â darpar ofalwyr maeth mewn ffordd greadigol.
  • Sefydlu model academi sy'n cefnogi'r broses o recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol newydd cymwys fel rhan o'r strategaeth 'tyfu ein hunain'.
  • Arolygiad thematig cadarnhaol gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid o Ddatrysiadau y Tu Allan i'r Llys. Abertawe oedd yr unig ardal yng Nghymru i gael ei chynnwys.

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

  • Y cyfleoedd a grëwyd ar draws y gwasanaeth i blant, pobl ifanc a rhieni fynegi eu safbwyntiau yn hyderus a'n cynorthwyo i ddeall eu profiadau.
  • Ymestyn gwasanaeth ein tîm therapi mewnol i dimau ar draws y gwasanaeth i faethu a chartrefi plant preswyl.
  • Mae'r model gwaith ieuenctid cyfunol yn parhau i gynyddu ein cwmpas a'n hymgysylltiad â phobl ifanc yng nghanol y ddinas ac mewn cymunedau lleol.
  • Mae mentrau fel Gweithiwr Blaen Niwroamrywiaeth mewn Cymorth Cynnar ac Arbenigwyr Ymddygiadol yn darparu cymorth wedi'i dargedu i deuluoedd er mwyn atal cynnydd mewn angen.
  • Creu swyddi gweithiwr cymdeithasol arbenigol i gadw staff o fewn y tîm cynllunio gofal â chymorth a denu ymgeiswyr allanol profiadol.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

  • Cefnogi mwy o blant a phobl ifanc i fyw mewn lleoliadau teulu: 34% yn byw gyda rhieni neu berthnasau; cynyddodd y lleoliadau gofal maeth o 50.6% i 52.55%.
  • Gostyngiad mewn plant a aned i mewn i ofal: Gostyngiad o 17% o Ebrill-Rhagfyr 2023 o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2024.
  • Atal digartrefedd ymysg pobl ifanc: Cadwodd 92.7% o bobl ifanc eu tai; cynhaliwyd 72 o sesiynau ymwybyddiaeth.
  • Plant wedi'u lleoli'n agos at gartref: Lleoli 65.5% o blant â phrofiad o fod mewn gofal yn Abertawe.
  • Gostyngiad mewn ymyrraeth statudol: Gostyngiad o 9% ers mis Ebrill 2024.
  • Roedd yr adborth a gafwyd gan staff am eu lles a'u cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd yn gadarnhaol.
  • Llwyddwyd i gadw'r gyfradd cadw staff ym mhob tîm yn sefydlog.

Parhau i ddefnyddio'r cyllid grant yn effeithlon, gan gadw o fewn y gyllideb graidd y cytunwyd arni.

Goblygiadau ariannol

Yn 2024-25, llwyddodd y CATC i gyflawni £150,000 o arbedion, gyda chymorth defnyddio grantiau Llywodraeth Cymru yn effeithiol. Gydag ansicrwydd am gyllid ar gyfer y dyfodol, rydym wedi datblygu Model Gweithredu Targed ar gyfer 2025-29, sy'n gydnaws â'r Cynllun Trawsnewid Corfforaethol a'r CATC diwygiedig, i arwain y broses o ddarparu gwasanaethau cynaliadwy.

Casgliad

Mae cyflawniadau 2024-25 yn adlewyrchu ymrwymiad a gwydnwch parhaus y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i ddarparu cymorth amserol ac o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae'r canlyniadau cadarnhaol a'r mesurau perfformiad yn amlygu effaith pwyslais cryf ar atal, ymyrraeth gynnar, a chydweithio, gyda phob un ohonynt wedi helpu i gynnal gwasanaeth diogel ac effeithiol er yr heriau parhaus.

Roedd cyflawni arbedion y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn dibynnu ar dderbyn cymorth cynnar cadarn i leihau'r angen am ofal cost uchel, wedi'i gomisiynu. Fodd bynnag, mae dibyniaeth barhaus y gwasanaeth ar gyllid grant yn peri risg sylweddol i gynaliadwyedd.

Fel gwasanaeth seiliedig ar alw, mae rhagweld yn parhau i fod yn fater cymhleth. Serch hynny, rydym yn cryfhau ein tystiolaeth, drwy ddulliau fel y Strategaeth Digonolrwydd a'r Cynllun Comisiynu tair blynedd, i ddod i ddeall anghenion yn y dyfodol yn well ac i gynllunio ar eu cyfer.

2.3 Rhaglen galluogi cymunedau

Mae'r rhaglen Galluogi Cymunedau yn ymrwymedig i feithrin cymunedau cynhwysol, gwydn a chydlynol drwy ymdrechu i gydweithio gyda phartneriaid a'r cyhoedd a chanolbwyntio'n benodol ar:

  • Gynyddu cymunedau gwydn.
  • Cydweithio â Chymunedau er mwyn ymateb i argyfyngau a chyfleoedd.
  • Ymgorffori dulliau cydgynhyrchu ar draws y Cyngor.
  • Gwirfoddoli Corfforaethol

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Cydgynhyrchu diffiniadau cyffredin o wydnwch cymunedol a hunanddibyniaeth.
  • Creu cynllun gweithredu hunanasesu sylfaenol 'Gyda'n gilydd fe allwn ni'.
  • Cwblhau'r broses o fapio rhanddeiliaid ac asedau cymunedol. 
  • Dechrau ar weithgareddau i ddatblygu perthnasoedd gydag arweinwyr cymunedol.
  • Cwblhau'r Polisi Cydgynhyrchu gyda mewnbwn gan y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau.
  • Datblygu Llawlyfr a Phecyn Cymorth i Wirfoddolwyr Corfforaethol.
  • Creu set ddata sylfaenol gyson ar gyfer gwirfoddoli.
  • Cydgynhyrchu brîff ar gyfer cydgynhyrchu cymunedol a dulliau gwerth cymdeithasol gyda Lab Cydgynhyrchu Cymru.
  • Datblygu Brîff y Rhaglen.
  • Sefydlu rheolaethau'r rhaglen.

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid cymunedol a chreu perthnasoedd yn well.
  • Diffinio dulliau o greu gwydnwch cymunedol, ymateb i argyfwng, cydgynhyrchu, a gwirfoddoli.
  • Sefydlu dulliau, polisïau a strategaethau i gefnogi ffyrdd o ymrymuso'r gymuned a'i chynnwys.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

  • Cwblhau asesiadau sylfaenol ar gyfer gwydnwch cymunedol a hunanddibyniaeth.
  • Cychwyn mentrau dan arweiniad y gymuned a pharatoi i ymateb mewn argyfwng.
  • Gwerthuso dulliau o gydgynhyrchu cymunedol ac ymateb i argyfyngau a chyfleoedd.
  • Datblygu a chyhoeddi polisïau a phecynnau cymorth cydgynhyrchu.
  • Adolygu data a systemau sylfaenol ar gyfer gwirfoddoli corfforaethol.

Goblygiadau ariannol

Ni chofnodwyd unrhyw arbedion yn y CATC sy'n gysylltiedig â'r rhaglen ac sy'n canolbwyntio ar greu capasiti a gwydnwch. Fodd bynnag, mae'r maes hwn yn dibynnu'n fawr ar gyllid Grant Llywodraeth Cymru a gan fod cyllid cynaliadwy yn parhau i fod yn ansicr, mae'n rhaid ystyried modelau cyflawni amgen sy'n gydnaws â'r CTC.

Casgliad

Eleni yn 2024-25, mae'r rhaglen Galluogi Cymunedau wedi parhau i archwilio cyfleoedd i wella ein perthynas â chymunedau yn arbennig o ran gwydnwch, ymateb i argyfwng, dulliau cydgynhyrchu, a gwirfoddoli gyda'r Cyngor. Er yr heriau parhaus o safbwynt arian ac adnoddau, mae'r rhaglen wedi gwneud cynnydd sylweddol, ac mae gweithdai ar y gweill i ailedrych ar ein cynlluniau ar gyfer 2025-26 o dan ddulliau rheoli a blaenoriaethu diwygiedig. Er mwyn symud ymlaen, mae'n rhaid ymdrechu'n barhaus i atgyfnerthu cyflawniadau, gwella ein fframweithiau i gyfleu profiadau bywyd a modelau cymorth yn y gymuned sy'n fwy cynaliadwy yn enwedig o ran dulliau gyda chymorth cynnar ac ataliaeth.

2.4 Trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol 

Mae'r Rhaglen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn canolbwyntio ar gyflawni Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET) 2022-2027 a thrawsnewid y ddarpariaeth i gefnogi digon o leoedd arbenigol (SSSP).

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Y Cabinet yn cymeradwyo'r model arfaethedig ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbenigol (STF) i'w weithredu'n raddol gan ychwanegu dros 60 o leoedd arbenigol.
  • Cryfhau'r ddarpariaeth i gefnogi dysgwyr â niwroamrywiaeth, wrth aros am ddiagnosis.
  • Datblygu polisi ymddygiad newydd yr awdurdod lleol ar y cyd.
  • Treialu darpariaeth arloesol ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg ag ADY.
  • Dechrau ar waith allgymorth i gefnogi plant (sy'n derbyn gofal plant) ag ADY cyn oedran ysgol.
  • Darparu platfform newydd i gofnodi achosion o ADY gan ddarparu hyfforddiant i staff ysgolion.

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

  • Gwell darpariaeth leol i ddysgwyr ag ADY;
  • Gweledigaeth gyffredin i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY yn Abertawe;
  • Darpariaeth ehangach ar gael i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg;
  • Cynyddu'r ddarpariaeth sydd ar gael yn Abertawe.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

  • Roedd bron pob achos tribiwnlys wedi ei chadarnhau o blaid darpariaeth yr awdurdod lleol.

Goblygiadau ariannol

Ni nodwyd unrhyw arbedion ar gyfer y rhaglen hon, y tu hwnt i'r £257,000 a ddarparwyd yn 2023-24, o ganlyniad i alw cynyddol a gofynion statudol. Yn dechnegol, daw'r gost ar gyfer lleoedd STF ychwanegol o gyllideb ddirprwyedig ysgolion. Fodd bynnag, byddai gwneud dim yn fwy costus i'r gyllideb Addysg gyffredinol a gallai hynny arwain at lai o ddarpariaeth mewn mannau eraill.

Casgliad

Mae'r ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar sy'n sicrhau bod plant ag ADY yn cael eu trosglwyddo i ysgolion yn esmwyth wedi datblygu eleni. Rhoddwyd mwy o gymorth i gefnogi dysgwyr â niwroamrywiaeth. Crëwyd mwy o leoedd yn lleol i gefnogi dysgwyr ag anghenion penodol. Mae angen cydweithio'n barhaus a chanolbwyntio ar ymdrechu i fynd i'r afael â'r gofynion a'r pwysau sy'n gysylltiedig ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau bod y gallu a'r cymhwysedd o fewn ysgolion a thu hwnt i ddiwallu anghenion y dysgwyr yn effeithiol.

2.5 Ysgolion cywir yn y lleoedd cywir

Menter dros ddeng mlynedd yw'r Rhaglen Ysgolion Cywir yn y Lleoedd Cywir sy'n anelu at adolygu ac optimeiddio seilwaith ysgolion Cyngor Abertawe i ddiwallu anghenion addysgol presennol ac yn y dyfodol yn effeithiol. Y nod yw sicrhau bod y stoc o ysgolion yn cyd-fynd â charfanau disgyblion, gan gynnwys y galw am addysg cyfrwng Saesneg, creu lleoedd cyfrwng Cymraeg, addysg ffydd, ac anghenion dysgu ychwanegol. Nodau allweddol yn y rhaglen yw sicrhau gwerth am arian a darpariaeth gyfartal.

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Cymeradwywyd y cynnig statudol i uno dwy ysgol arbennig ac adleoli i gyfleuster wedi'i adeiladu'n bwrpasol erbyn Medi 2025, gan gynyddu'r lleoedd arfaethedig o 100;
  • Cymeradwywyd y cynnig statudol i adolygu'r Cyfleusterau Addysgu Arbenigol (STFs) ledled y sir, gan gynyddu'r lleoedd arfaethedig o 61;
  • Y Cabinet yn cymeradwyo i ymgynghori ar uno Ysgolion Cynradd Blaenymaes a Portmead, ar y safleoedd presennol i ddechrau, gyda'r nod yn y tymor hwy i adeiladu ysgol newydd yn 2031;
  • Cwblhau nifer o brosiectau cyfalaf, gan gynnwys prosiectau Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru, Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r grant Prydau Ysgol am Ddim cyffredinol;
  • Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r Rhaglen Amlinellol Strategol (SOP) mewn egwyddor o dan Gymunedau Dysgu Cynaliadwy (SCfL);
  • Dadansoddi'r data a gasglwyd i flaenoriaethu prosiectau cyfalaf i'w gwneud yn gydnaws â charfannau disgyblion a'r galw;
  • Drafftiwyd y Cynllun Darparu Ysgolion Strategol (SSPP), sy'n cynnwys gwybodaeth am ddemograffeg, polisïau a chasgliadau am anghenion lleoedd ysgol, a fydd yn destun datblygiad ac ymgynghori pellach.

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

  • Cyflawni prosiectau cyfalaf cymeradwy, gydag amgylchedd dysgu gwell;
  • Gwario'r grant yn effeithiol, gan gynnwys gwella'r cyfleusterau ar draws ysgolion i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol;
  • Cynllunio mwy o leoedd ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

  • Cyflawni prosiectau cyfalaf, gan sicrhau bod ystad yr ysgol yn cyd-fynd â charfan y disgyblion a'r galw.

Goblygiadau ariannol

Mae'r Cyngor yn cyfrannu at brosiectau cyfalaf, gyda Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn darparu o leiaf 65% o'r cyllid cyfalaf. Nod y rhaglen yw lleihau'r ôl-groniad mewn cynnal gwariant a lleihau'r costau cynnal refeniw a ariennir gan ysgolion.

Casgliad

Cyflawnwyd amgylchedd dysgu gwell, sydd o fudd i ddysgwyr ledled Abertawe, gan gynnwys y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'r rhaglen yn parhau i ymateb i newid mewn carfannau disgyblion a'r datblygiadau a amlinellir yn y cynllun datblygu lleol (CDLl), i ddarparu ystad ysgolion sydd wedi'i thrawsnewid. Yn gyffredinol, gwnaed cynnydd sylweddol i wneud seilwaith ysgolion Abertawe yn gydnaws â'r anghenion addysgol presennol ac yn y dyfodol.

2.6 Rhaglen adfywio

Mae'r Rhaglen Adfywio yn canolbwyntio ar fentrau buddsoddi cyfalaf yng Nghanol Dinas Abertawe, ardal y glannau, a safleoedd cyflogaeth strategol.

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Llwyddo i gwblhau'r gwaith adeiladu a throsglwyddo yn 71/72 Ffordd y Brenin.
  • Gwneud cynnydd ar y dyluniad manwl a'r costau ar gyfer ailddatblygu Sgwâr y Castell, gyda'r bwriad i ddechrau ar y gwaith adeiladu yn ystod gwanwyn 2025.
  • Cwblhau'r broses o brynu Debenhams a pharhau i farchnata ar gyfer darpar denantiaid. Dechrau ar y gwaith dymchwel.
  • Derbyniodd prosiect adfer Gwaith Copr Hafod Morfa sawl gwobr.
  • Gwneud gwaith adeiladu ar brosiectau LUF Glan-yr-afon Tawe a Gwaith Copr Hafod.
  • Datblygu uwchgynllun a dylunio adeilad Urban Splash ar gyfer Gogledd Canol Abertawe.
  • Cwblhau'r gwaith adeiladu yn Theatr y Palas, gyda meddiannaeth gan denantiaid.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

  • Cwblhau'r gwaith adeiladu yn 71/72 Ffordd y Brenin a datblygu'r trafodaethau â thenantiaid i'w addasu er mwyn dechrau ei feddiannu;
  • Tramshed Tech Ltd yn eu lle yn natblygiad Theatr y Palas, gan ganolbwyntio ar greu gweithle modern ar gyfer y sectorau technoleg a chreadigol.
  • Cafwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Sgwâr y Castell, ac mae'r dyluniadau terfynol ar y gweill.
  • Penderfynu ar gais cynllunio Skyline Enterprise ym mis Mawrth 20025 i greu cyrchfan hamdden ar Fynydd Cilfái. Os caiff ei gymeradwyo, disgwylir i'r prosiect greu swyddi a rhoi hwb i'r economi leol.
  • Datblygu Cam 1 y dyluniadau a'r cynllun busnes ar gyfer Gogledd Canol Abertawe, datblygu'r Ganolfan Ddinesig a safle St Thomas gydag Urban Splash.

Goblygiadau ariannol 

Nodwyd na ellir gwneud unrhyw arbedion o'r rhaglen hon erbyn diwedd 2026-27. Caiff y prosiectau cyfalaf eu hasesu'n unigol, gan ddefnyddio grantiau'r llywodraeth a phartneriaid buddsoddi o fewn cwmpas fforddiadwyedd y cyngor a bennir drwy gynllunio ariannol tymor canolig ac ystyried y gyllideb flynyddol.

Casgliad

Mae gan y Cyngor fframwaith strategol cadarn sy'n llywio gweithgareddau datblygu, gyda chynnydd amlwg i'w weld ledled y ddinas. Mae trefniadau partneriaethau cadarn yn creu'r buddiannau mwyaf o gynlluniau adfywio, gan gynnwys cymalau budd cymdeithasol. Ar y cyfan, mae'r Rhaglen Adfywio yn arddangos cynnydd sylweddol o ran adfywio ardaloedd trefol Abertawe, denu buddsoddiad, creu swyddi, a gwella apêl y ddinas fel lle i fyw, gweithio ac i ymweld â hi.

2.7 Rhaglen mwy o gartrefi

Mae'r Rhaglen Mwy o Gartrefi yn ymrwymedig i ddarparu 1,000 o gartrefi fforddiadwy dros ddegawd drwy gyfuniad o adeiladau newydd, trawsnewid eiddo, a chaffael gan gynnwys prynu cyn-eiddo'r Cyngor yn ôl ar ôl iddynt gael eu gwerthu o dan y ddeddfwriaeth Hawl i Brynu ac Adran 106 y Cytundebau Cynllunio Tai Fforddiadwy gyda datblygwyr preifat.

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Cwblhau cynllun addasu eiddo canolfan SPARKS ym Mlaenymaes (4 uned).
  • Caffael 36 cyn-eiddo Hawl i Brynu yn ystod 2024-25.
  • Cael caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun Brokesby Road (Bonymaen).
  • Dyfarnu tendr i Pobl weithredu fel partner datblygu'r Cyngor ar gyfer dau safle HRA yn ward Penderi.
  • Dechrau ar gynllun adeiladau newydd Brondeg (Manselton) (13 o unedau) - i'w gwblhau ym mis Ionawr 2026.
  • Creu Cytundeb â Persimmon Homes a Chymdeithas Tai Pobl ar gyfer caffael eiddo adran 106. 
  • Trosglwyddo'r cartrefi perchentyaeth cost isel cyntaf sydd ar werth yn natblygiad Pentref Gardd Persimmon (3 uned).
  • Penodi Asiant y Cyflogwr i ddechrau ar y gwaith ymarferol o gynllunio adeiladau newydd Parc Busnes Gorseinon.
  • Penodi penseiri Powell Dobson i ddatblygu Uwchgynllun adfywio Ystad Tudno ac Emrys (Penlan), gan gynnwys yr elfen adeiladau newydd.

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

Yn gyffredinol, ers i'r Rhaglen Mwy o Gartrefi gychwyn, mae wedi llwyddo i:

  • Ddarparu 309 o unedau cartrefi ychwanegol i stoc dai y Cyngor, gan gynnwys:
    • Cwblhau cynlluniau adeiladau newydd sef cyfanswm o 88 o unedau.
    • Cwblhau prosiectau addasu sef cyfanswm o 25 o unedau.
    • Caffael 193 o gyn-eiddo Hawl i Brynu.
    • Caffael 3 uned perchentyaeth cost isel fel rhan o gytundeb adran 106 gyda Persimmon Homes.
  • Gwario Dyraniad Grant Tai Cymdeithasol LlC yn llawn yn ystod 24/25 (£26m) i ariannu datblygiadau tai fforddiadwy drwy Landlordiaid Cymdeithasol cofrestredig a'r Awdurdod Lleol.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

  • Mae'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol corfforaethol yn dangos bod yr Awdurdod Lleol wedi darparu 43 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 24/25 (gan gynnwys 3 uned ar gyfer perchentyaeth cost isel).
  • Rydym yn aros am ddata ar gyfer yr unedau ychwanegol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Chytundebau Adran 106/ffynonellau eraill - ar gael ym mis Ebrill.

Goblygiadau ariannol

Nodwyd na ellir gwneud unrhyw arbedion o'r rhaglen hon erbyn diwedd 2026-27. Daeth adolygiad o gyllideb HRA Capital i'r casgliad fod angen mesurau arbed costau i leihau'r gofynion benthyca i sicrhau bod Cynllun Busnes HRA yn parhau i fod yn hyfyw dros y 10/30 mlynedd nesaf. Fodd bynnag, fel y cytunodd y Cabinet a'r Cyngor, mae'r Rhaglen Mwy o Gartrefi yn parhau i fod yn un o'r prif flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi cyfalaf. Dyrannwyd cyllid o £57.3 miliwn dros 4 blynedd (hyd at 2028-29) yng nghyllideb Rhaglen Cyfalaf HRA i ddatblygu'r rhaglen.

Casgliad

Er yr heriau a gafwyd, ers i'r rhaglen gychwyn mae wedi llwyddo i ddarparu 309 o gartrefi ychwanegol i stoc dai y Cyngor. Bydd gwella capasiti mewnol a threfnu contract allanol ar gyfer dylunio a chyflenwi rhai safleoedd yn cyflymu'r broses o gyflawni'r prosiect. Caiff cyfleoedd i weithio'n uniongyrchol gyda datblygwyr preifat ar "fargeinion pecyn" eu harchwilio i gyflwyno dulliau newydd o gynyddu'r broses gyflenwi a lleihau costau. Mae angen cynnal astudiaethau ymarferoldeb parhaus i gynllunio a chanfod costau'r cynlluniau yn gywir yn sgil costau adeiladu cynyddol a heriau'r safle.

2.8 Rhaglen digartrefedd

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn gallu cyflawni ei swyddogaethau digartrefedd statudol mae'n rhaid lleihau'r ddibyniaeth ar lety Gwely a Brecwast drud ac amhriodol. Gellir cyflawni hyn drwy weithio'n arloesol a chydweithio â gwasanaethau eraill y cyngor a phartneriaid allanol i greu capasiti ychwanegol mewn llety dros dro ledled y ddinas.

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Cyflwyno mesurau brys i wneud y defnydd gorau o stoc y cyngor ei hun e.e. tynnu fflatiau un ystafell a fflatiau henoed yn ôl, newid egwyddorion eiddo ar osod, annog y rhai sy'n wynebu digartrefedd i ymestyn ardaloedd o'u dewis, gan flaenoriaethu'r rhai mewn llety dros dro a llety â chymorth.
  • Datblygu'r broses o gyflwyno'r prosiect llety â chymorth dros dro wedi'i reoli gan y cyngor yng nghanol y ddinas. Disgwylir i'r prosiect cyntaf (Llys Glas) agor ym mis Medi 2025 ac mae ail brosiect yn cael ei archwilio ar gyfer 2026.
  • Codi ymwybyddiaeth a gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau / gwasanaethau eraill.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun lesio rhent preifat (Cynllun Lesio Cymru) erbyn diwedd y flwyddyn i gynyddu'r opsiynau tai.

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

  • Llwyddo i symud 378 o aelwydydd o lety dros dro neu â chymorth rhwng Ebrill 24 a Ionawr 25 2024/25.
  • Atal digartrefedd mewn 54% o aelwydydd rhwng Ebrill 24 a Medi 24.
  • Gweithio gyda'r Gwasanaeth Prawf i sicrhau bod y broses o gyflwyno SDS40 wedi mynd yn esmwyth i'r rhai a ryddhawyd o'r carchar a heb gartref sefydlog pan lansiwyd y cynllun.
  • Gweithio gyda'r Swyddfa Gartref i sicrhau canlyniadau llwyddiannus yn dilyn newidiadau i'r amserlenni gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r rhai sy'n ceisio lloches.
  • Cadw lefelau cysgu allan yn isel o ganlyniad i weithio mewn partneriaeth â'r sector gwirfoddol a iechyd.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

  • Y rhaglen Mwy o Gartrefi wedi darparu 43 o unedau llety ychwanegol yn ystod 2024-25.
  • Cynyddu nifer yr unedau o lety dros dro ar gyfer pobl sengl a theuluoedd.
  • Parhau i fodloni ein dyletswyddau digartrefedd statudol a chyflawni'r rhwymedigaethau mewn perthynas ag agwedd y Cyngor tuag at sicrhau nad oes neb yn cael ei adael allan.
  • Y dull Ailgartrefu Cyflym wedi sicrhau bod pobl mewn llety dros dro wedi derbyn y cymorth cywir ar yr adeg gywir i symud ymlaen i lety parhaol.

Goblygiadau ariannol

Mae'r galw cynyddol am lety dros dro, a'u costau cynyddol, yn enwedig llety Gwely a Brecwast, wedi rhoi pwysau ar gyllidebau. Felly mae cyllideb ychwanegol ar gael o 2025-26 ymlaen. Bydd agor y prosiectau llety â chymorth dros dro yn lleihau'r lefelau gwariant presennol o chwarter 2 2025-26 ymlaen.

Casgliad

Er bod nifer uchel yn symud ymlaen o lety dros dro, mae nifer yr aelwydydd sy'n ddigartref yn parhau i beri pryder. Mae hon yn her genedlaethol ac nid yw'n arbennig i Abertawe. Bydd mesurau fel agor prosiect llety â chymorth dros dro wedi'i reoli gan y cyngor, ymuno â Chynllun Lesio Cymru ac adolygu egwyddorion gosod eiddo a sut rydym yn blaenoriaethu dyraniadau yn parhau i gael  effaith ar y niferoedd. Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid allweddol ar fentrau ar y cyd.

2.9 Y rhaglen sero net a'r fflyd

Nod y Rhaglen Sero Net yw gwneud Cyngor Abertawe yn fusnes sero net erbyn 2030, drwy gynllun cynhwysfawr sy'n cynnwys deg ar hugain o gamau trawsnewid. Heb gynyddu'r gyllideb na'r adnoddau yn sylweddol mae'n anodd gweld sut y gellir cyflawni hyn, ond mae'n iawn i nodi y byddwn yn parhau i gyfrannu at chwarae ein rhan yn uchelgais Llywodraeth Cymru i gael sector cyhoeddus sero net ar y cyd ledled Cymru erbyn 2030.

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Lleihau allyriadau cwmpas 1 a 2 ar gyfer y cyfnod 2024-25.
  • Caffael contract ar gyfer cam 2 y rhaglen ôl-osod adeiladau cyhoeddus.
  • Dechrau rhoi ein Strategaeth Trawsnewid i ULEV 2021-2030 ar waith, gan arwain at dros 150 o gerbydau ULEV a mannau gwefru ar gyfer y fflyd.
  • Parhau â'r rhaglen i osod goleuadau stryd.

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

  • Lleihau allyriadau carbon ar draws gwahanol sectorau.
  • Cynnydd mewn ôl-osod adeiladau cyhoeddus i fod yn effeithlon o ran ynni.
  • Ymestyn y fflyd ULEV a'r seilwaith gwefru.
  • Ymdrechu'n barhaus i leihau gwastraff a hyrwyddo economïau cylchol.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

  • Gostyngiad parhaus yn ôl troed carbon y cyngor.
  • Canolbwyntio mwy ar leihau allyriadau mewn gweithgareddau cwmpas 1 a 2.
  • Defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy ers 2019.

Goblygiadau ariannol

Ac eithrio allyriadau cwmpas 3, nod y Cyngor yw lleihau allyriadau o 80%. Er y gellir cyflawni hyn mewn egwyddor, oherwydd cyfyngiadau ariannu'r ystad Addysg ar gyfer ôl-osod, mae'n debygol y byddai'r ffigur hwn yn debycach i 50% ar gyfer cwmpas 1 a 2 gan fod Addysg yn gyfrifol am 47% o allyriadau cyfleustodau ar hyn o bryd.

Casgliad

Er bod llawer o'r gwaith da yn parhau, nid yw'n cael ei wneud yn ddigon cyflym oherwydd diffyg cyllideb ac adnoddau i gefnogi cynlluniau ailosod, cynlluniau EV ac ati, ac felly mae'r prosiect yn parhau i fod ar y gofrestr risgiau corfforaethol.

Cytunwyd ar gontractau newydd i barhau gyda chynlluniau ailosod ar draws yr asedau cyhoeddus, ond mae'n anodd cael cyllid gan y gyfarwyddiaeth addysg i gefnogi gwelliannau o'r fath.  Mae cyllidebau'r Fflyd yn wynebu pwysau chwyddiant cronnol sylweddol pan fydd cerbydau'n cael eu hadnewyddu ac mae'r 'premiwm' Fflyd Werdd ar gyfer cerbydau EV yn cynyddu'r bylchau cyllido ymhellach

Awgryma data o'r gyfres ddiwethaf o asesiadau ôl-osod manwl fod cynnydd mewn costau fesul tunnell i leihau allyriadau carbon. Mae'r gost ddangosol newydd wedi codi o £7.5,000 fesul t/CO²e i £11,000 fesul t/CO²e. Mae hyn yn creu amcangyfrif o gostau o £178 miliwn i ôl-osod adeiladau, a £101 miliwn oedd amcangyfrif y llynedd.

2.10 Model hyb cymunedol y dyfodol

Nod y Rhaglen Model Hyb Cymunedol y Dyfodol yw sefydlu canolfan ganolog, sef y Storfa, yn hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen, gyda hybiau lloeren i ddarparu ystod o wasanaethau i'r gymuned. 

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Cwblhau RIBA 4 ar gyfer dyluniad y Storfa ym mis Medi 2023, gan ddyfarnu'r cytundeb adeiladu i Kier wneud y gwaith adnewyddu.
  • Symud ymlaen i RIBA 5 gyda'r gwaith dymchwel ar ben ffordd ers mis Hydref, a disgwylir i'r prif waith adnewyddu ddechrau ym mis Mehefin.
  • Cytuno ar ddyluniad mewnol y Storfa.
  • Penodi darparwr gwasanaethau a reolir.
  • Datblygu rhaglen adleoli o'r Swyddfa Ddinesig sy'n bwydo rhaglen gyflawni gyffredinol y Storfa.
  • Sefydlu model gwasanaeth cyswllt cwsmeriaid newydd a strwythur staffio blaen tŷ i gefnogi arbedion y CATC.
  • Cychwyn rhaglen hyfforddi staff a chytuno ar oriau agor y Storfa.
  • Ymgynghori â'r staff a'r cyhoedd ar y rhwydwaith llyfrgelloedd ehangach i greu fframwaith ar gyfer 'hybiau cymunedol.'
  • Cyflwynodd Urban Foundry adroddiad terfynol ar waith y gwasanaeth llyfrgell, adeiladau, a chyfleoedd i wella amlygrwydd y gwasanaethau maent yn eu darparu gan gydweithio hyd yn oed yn fwy.
  • Dechrau trafod ag aelodau'r Cabinet a chynrychiolwyr Undebau Llafur ar fodel staffio arfaethedig i gefnogi'r gwaith o ddarparu rhwydwaith o Hybiau, a pharhau i wella'r gwasanaeth llyfrgell, cyfleoedd i staff a gwydnwch ariannol.

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

  • Trosglwyddo staff cyswllt blaen y tŷ i'r adran Gwasanaethau Eiddo i hwyluso'r broses o ddatblygu agwedd 'Un tîm' yn y Storfa.
  • Deall cwmpas y gwaith sydd angen ei wneud i gyflawni'r disgwyliadau ac arbedion mewn perthynas â'r rhaglen gyfan yn well.
  • Cael adnoddau ychwanegol drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
  • Ystyried yr hyn a ddysgwyd o Fodelau Hyb Clydach a Gorseinon.
  • Cytuno ar egwyddor Model Hyb Cymunedol y Storfa i'w ddefnyddio ar gyfer llyfrgelloedd ardal llai.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

  • Datblygu'r Storfa, gan gynnwys cwblhau camau RIBA, dechrau adeiladu, dylunio, a throsglwyddo staff.
  • Mae elfen gwasanaeth llyfrgell y rhaglen yn parhau i fod yn y cyfnod cwmpasu, gyda'r mesurau llwyddiant yn canolbwyntio ar weithgareddau presennol ac arbedion posibl.
  • Cyflwyno model staffio'r llyfrgell i gefnogi rhwydwaith o Hybiau, oriau agor ac adolygu proffiliau swyddi i gynrychiolwyr Undebau Llafur a bydd yr ymgynghoriad yn dechrau yn fuan.

Goblygiadau ariannol

Pan gymeradwywyd y CTC, nodwyd y dylid gwneud £580,000 o arbedion erbyn 2026-27. Diwygiwyd hyn yn ddiweddarach, gan ddileu arbediad hanesyddol o £400,000 gan yr ystyriwyd na ellir ei gyflawni mwyach. Cyflawnwyd yr arbedion sy'n weddill drwy newidiadau staffio, arbedion effeithlonrwydd gweithredol a chaffael a diweddaru ffioedd a thaliadau.  Rhagwelir arbedion ychwanegol o £150,000 drwy strwythur staffio model yr Hyb arfaethedig, gan greu rolau a chyfleoedd datblygu newydd i'r staff yn y broses.  Cefnogir y broses o greu model yr Hyb gan gyllid grant, er mwyn creu brand llyfrgell newydd a llwybrau at gymwysterau, gwell mynediad a phroffil ar gyfer y gwasanaeth llyfrgell.  Mae'r ymgynghoriad bellach ar y gweill gyda chwsmeriaid, rhanddeiliaid, undebau llafur a staff.

Casgliad

Gwnaed cynnydd cadarn ar ddatblygu'r Storfa—model newydd y Cyngor ar gyfer hybiau cymunedol. Mae'r egwyddorion craidd ynglŷn â sut bydd yr hybiau hyn yn gweithredu wedi'u sefydlu, yn dilyn rhaglen o ymgynghori cyhoeddus ac ymgysylltu â staff, partneriaid a rhanddeiliaid. Cefnogir y gwaith hwn gan Urban Foundry, ac mae ei adroddiad a gwblhawyd yn ddiweddar yn amlinellu gweledigaeth a hunaniaeth eglur ar gyfer rhwydwaith yr hyb. Mae'r argymhellion yn pwysleisio nid yn unig bwysigrwydd brand cryf ac adnabyddus, ond hefyd gwerth cymdeithasol ehangach darparu gwasanaethau mewn cymunedau lleol a rôl hanfodol y staff. Rydym bellach yn adolygu'r argymhellion hyn ac yn archwilio sut y gellir eu datblygu, gan gynnwys drwy ddefnyddio'r cyllid grant sydd ar gael.

2.11 Rhaglen strategaeth wastraff y dyfodol

Nod Rhaglen Strategaeth Wastraff y Dyfodol yw cael y cydbwysedd gorau rhwng cost gwasanaethau a pherfformiad ailgylchu yn ogystal ag ystyried ffactorau fel effaith carbon a hwylustod gweithredu i breswylwyr.

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Cwblhau'r adroddiad modelu cychwynnol i adolygu'r fethodoleg a'r strategaeth casglu gwastraff.
  • Archebu'r gyfran gyntaf o gerbydau gwastraff newydd.
  • Cwblhau'r broses o dreialu gwastraff gardd tymhorol bob 4 wythnos (Rhagfyr 23/Ionawr 24), treialu gwastraff gardd tymhorol bob 12 wythnos (Rhagfyr 24/Chwefror 25) a threialu cynwysyddion amldro.
  • Dyfarnu cyllid grant i brynu cynwysyddion amldro.

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

  • Cyflenwi'r gyfran gyntaf o gerbydau gwastraff newydd i wella dibynadwyedd y fflyd a lleihau nifer y cerbydau sy'n torri i lawr.
  • Treialu casgliadau gwastraff gardd tymhorol yn llwyddiannus, gan ryddhau adnoddau ar gyfer ffrydiau gwastraff eraill heb broblemau sylweddol.
  • Hwyluso'r broses o gwblhau dyluniad y cynhwysydd amldro drwy ei dreialu.
  • Dyfarnu cyllid grant ar gyfer cynwysyddion amldro, gyda'r nod o arbed oddeutu 10 miliwn o fagiau plastig untro bob blwyddyn.

Goblygiadau ariannol

Pan gymeradwywyd y CTC, nodwyd arbedion o hyd at £600,000 o'r Rhaglen Wastraff erbyn 2026-27, yn amodol ar y model terfynol. Er nad oedd disgwyl unrhyw arbedion yn 2023-24 na 2024-25, mae'r targedau wedi'u cynnwys yng nghyllideb 2025-26 ac maent yn dibynnu ar gymeradwyo Strategaeth Wastraff y Dyfodol mewn pryd. Gall y rhaglen wynebu pwysau chwyddiant, yn enwedig ar gyfer cerbydau, ond disgwylir i'r amser segur a'r costau cynnal a chadw leihau. Gallai casgliadau gwastraff gardd tymhorol a chyflwyno cynwysyddion amldro greu arbedion pellach neu ganlyniadau niwtral o ran cost drwy weithredu'n effeithlon.

Casgliad

Llwyddodd Rhaglen Strategaeth Wastraff y Dyfodol i wneud cynnydd cadarn mewn archwilio a phrofi ystod o opsiynau casglu gwastraff, ac mae'r canlyniadau cynnar a'r model ariannol yn cefnogi cyfeiriad cyffredinol y rhaglen. Cadarnhaodd y broses o dreialu cynwysyddion amldro a chasgliadau gwastraff gardd tymhorol eu bod yn hyfyw, ac mae'r model cychwynnol wedi rhoi mwy o eglurder ynglŷn â goblygiadau hirdymor modelau gwasanaeth gwahanol. Fodd bynnag, oherwydd effaith ehangach newidiadau eraill i'r gwasanaeth casglu, gohiriwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyaeth gorfforaethol y Strategaeth Wastraff newydd yn ystod 2024.  O ganlyniad, mae angen amserlen ddiwygiedig ar frys i sicrhau ei bod yn cael ei chymeradwyo'n ffurfiol a mynd ymlaen i gyflawni'r rhaglen.

2.12 Rhaglen trawsnewid y gweithlu a datblygu sefydliadol

Mae Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn cefnogi'r broses o gyflawni Strategaeth y Gweithlu 2022-2027, gan ganolbwyntio ar themâu Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Gweithlu Parod at y Dyfodol, Cyflogwr Delfrydol, a Llesiant a Chynhwysiant y Gweithwyr. Nod y rhaglen yw creu gweithlu galluog, medrus, brwdfrydig a gwerthfawr sy'n gydnaws â'r gwerthoedd sefydliadol ac egwyddorion datblygu cynaliadwy.

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Dod â'r ymarferiad trawsnewid AD a Datblygu Sefydliadol i ben ym mis Medi 2023, gan hwyluso'r ffocws ar gynllunio'r gweithlu a dylunio sefydliadol.
  • Cyflawni holl amcanion 'Arweinyddiaeth a Rheolaeth' 2023-24 yn Strategaeth y Gweithlu.
  • Diweddaru gwerthoedd ac ymddygiad.
  • Adolygu ymddygiadau arweinyddiaeth.
  • Cyflwyno strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu â'r gweithlu.
  • Datblygu dull Hyfforddi a Mentora.
  • Cynlluniau'r gweithlu ar gyfer pob maes gwasanaeth.
  • Cwblhau contract cyflenwr asiantaeth newydd a lansio'r contract ym mis Medi 2024.
  • Lansio dulliau e-ddysgu mewn Oracle Fusion.
  • Gweithredu profiadau sefydlu a chynefino newydd i ddechreuwyr newydd.
  • Lansio cynnyrch AVC sy'n rhannu'r costau i ychwanegu at yr ystod o fuddiannau i weithwyr.
  • Datblygu gwasanaeth Datblygu Sefydliadol newydd, sy'n darparu cymwysterau'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) i unigolion ar bob lefel.
  • Parhau â hyfforddi yn y Gymraeg, gyda 43 o weithwyr wedi cofrestru.
  • Ailgadarnhau'r ymrwymiad i'r siarter Afiechyd Marwol.
  • Ailachredu'r statws cyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
  • Cyflawni ardystiad SEQOHS ar gyfer gwasanaethau iechyd galwedigaethol.
  • Llwyddodd yr adran Tai a Iechyd y Cyhoedd i dreialu dadansoddiad o Anghenion Datblygu, ac mae hyn yn cael ei gyflwyno i bob rhan o'r Cyngor.
  • Cwblhaodd y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Corfforaethol gylch blynyddol cyntaf y Modiwl Perfformiad newydd yn Fusion, gan gwblhau'r holl amcanion perfformiad a'r arfarniadau blynyddol yn 2024-25.
  • Adolygwyd 55% o'r holl bolisïau AD yn 2024-25 ac mae'r gweddill wedi'i drefnu fel rhan o'r rhaglen waith ar gyfer 2025-26.

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

  • Canolbwyntio mwy ar ddarparu cymorth gyda chynllunio'r gweithlu.
  • Dull cyson o gefnogi cysylltiadau â gweithwyr yn yr adran AD a Datblygu Sefydliadol.
  • Sefydlu system newydd i fonitro ac i olrhain cynnydd y gwaith achos sy'n ymwneud â chysylltiadau â'r gweithwyr a gofnodwyd i PFM.
  • Sefydlu rhaglen datblygu polisïau AD i ddiweddaru'r holl bolisïau AD ac mae 55% o'r holl bolisïau AD wedi'u cwblhau.
  • Rheolwyr yn fwy gwybodus am y ddarpariaeth hyfforddi a datblygu i staff.
  • Dealltwriaeth eglur o sgiliau'r gweithlu a'r gofynion hyfforddi ym maes Tai a Iechyd y Cyhoedd.
  • Mwy o staff wedi cwblhau hyfforddiant e-ddysgu, gan gynnwys hyfforddiant gorfodol.
  • Mwy o staff yn elwa ar gyfleoedd arweinyddiaeth a datblygu.
  • Creu arbedion o tua £70,000 ers lansio AVC, gan roi cyfle i ail-fuddsoddi yn y ddarpariaeth llesiant i staff.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

  • Mae'r bwlch cyflog cymedrig (cyfartalog) rhwng y rhywiau wedi aros yn sefydlog ar oddeutu 2% ac mae'r bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau wedi gostwng o 3.7% yn 2023-24 i 3.4% yn 2024-25.
  • Treialodd y Gwasanaethau Corfforaethol y dull rheoli perfformiad newydd gyda chyfradd cwblhau o 100% ar gyfer gosod amcanion yn 2024-25.
  • Gostyngodd yr amser i gyflogi i 43 diwrnod o'i gymharu â 74 diwrnod ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol.
  • Cynyddodd nifer y gweithwyr sy'n barod i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle o 13%.

Goblygiadau ariannol

Pan gymeradwywyd y CTC, nodwyd y gellir cyflawni arbedion o £190,000 o'r Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol erbyn diwedd 2026-27. Er mwyn cefnogi'r broses o gyflawni'r rhaglen, defnyddiwyd £285,000 o'r cyllid Trawsnewid i ariannu tair rôl partner busnes AD a Datblygu Sefydliadol dros dro dros gyfnod o ddwy flynedd. Ym mis Mawrth 2025, cymeradwyodd Bwrdd y Rhaglen £51,000 ychwanegol i'w wario yn 2025-26, gan ganolbwyntio ar ddatblygu dull newydd o ymdrin â Chysylltiadau Gweithwyr.

Casgliad

Bu'r cynnydd yn 2024-25 yn gadarnhaol, ac mae ffyrdd newydd o weithio bellach wedi'u hymgorffori ar draws y gwasanaeth AD a Datblygu Sefydliadol. Yn ystod y flwyddyn, bu'r ffocws ar uwchsgilio aelodau o'r tîm a datblygu'r gallu sydd ei angen i arwain ac i gefnogi newid sefydliadol. Cymerodd y buddsoddiad hwn mewn cynyddu capasiti o ran sgiliau a chynllunio gwasanaethau amser i'w ymgorffori, ond mae bellach yn dechrau creu canlyniadau gweladwy. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y mentrau a gyflwynwyd yn rhan olaf y flwyddyn, sy'n dangos bod y rhaglen yn symud i gyfnod gweithredu mwy gweithgar. Er bod rhai dangosyddion tymor hwy yn parhau i ddod i'r amlwg, mae'r cyflawniadau hyd yma yn arddangos llwybr eglur tuag at amcanion gweithlu strategol y Cyngor, gyda sylfaen gadarn wedi'i sefydlu i gyflymu'r broses gyflawni ac effaith yn 2025-26.

2.13 Rhaglen trawsnewid digidol

Mae gan y Rhaglen Trawsnewid Digidol yr amcanion canlynol:

  • Sicrhau profiad cadarnhaol i gwsmeriaid ar draws holl wasanaethau'r cyngor.
  • Hwyluso'r broses o ymrymuso dinasyddion drwy ddatblygu sgiliau digidol.
  • Digideiddio prosesau'r cyngor o'r dechrau i'r diwedd pan fo hynny'n bosibl.
  • Dylunio a darparu gwasanaethau digidol o amgylch anghenion pobl.
  • Cynnal seilwaith digidol diogel, effeithlon a chefnogol.
  • Gwella'r broses o wneud penderfyniadau a pherfformio drwy ddeallusrwydd gwell o safbwynt y busnes.
  • Datblygu'r capasiti a'r gallu angenrheidiol i gyflawni'r strategaeth ddigidol.
  • Meithrin Abertawe fel dinas Glyfar sydd â seilwaith digidol sy'n cefnogi'r economi leol.

Cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd

  • Mae'r cerrig milltir allweddol a gyflawnwyd yn cynnwys gwneud cynnydd da ar weithredu'r 16 o brosiectau, gyda'r gronfa Trawsnewid Digidol gwerth £2 filiwn yn ariannu wyth ohonynt.
  • Cwblhau adolygiad diwedd blwyddyn o gynnydd y Strategaeth Ddigidol a'r rhaglen Trawsnewid Digidol a'i gyflwyno i Bwyllgor y rhaglen Craffu ym mis Mawrth 2025.
  • Ystyried opsiynau caffael cynaliadwy ar gyfer pob prosiect.
  • Datblygu traciwr buddiannau sy'n cael ei adolygu wrth i'r prosiectau ddatblygu.

Canlyniadau / manteision a gyflawnwyd

  • Cyflawnwyd gwelliannau sylweddol mewn mynediad i gwsmeriaid drwy ryngweithio ar y we, dros y ffôn a wyneb yn wyneb ac mae'r ffigurau ar gyfer galwadau y rhoddir y gorau iddynt wedi gwella'n sylweddol. Bron â chwblhau'r Adolygiad Mynediad at Ffôn.
  • Creu Cyfrif Abertawe i breswylwyr allu mewngofnodi ac olrhain ceisiadau am wasanaeth. Cwblhau sawl proses awtomeiddio gan ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gofnodi ceisiadau am wasanaethau.
  • Un enghraifft o'r buddiannau a ddarparwyd yn sgil awtomeiddio yw'r Tîm Cyfrifon Derbyniadwy. Hyd yma, mae'r broses wedi mynd ar drywydd 676 o anfonebau sy'n ddyledus gan greu cyfanswm o £1.4 miliwn. Prosesu Credyd Cynhwysol: Rheoli dros 4,000 o geisiadau am Gredyd Cynhwysol, gan awtomeiddio cyfrifiadau cynnydd mewn rhent a phrosesau cymorth cysylltiedig.
  • Darparu offer i helpu gyda rheoli data gan gynnwys treialu AI newydd gan ddefnyddio Microsoft CoPilot. Yn ogystal, mae prosiectau System Gwybodaeth Reoli Ysgolion (MIS) ac Addysg ar y gweill i gofnodi a rheoli data.
  • Cwblhau fframwaith sgiliau a chymhwysedd digidol a chynllun hyfforddi.
  • Gosod celloedd bach i wella tagfeydd ffôn symudol, ac mae'r Cynllun Talebau Band Eang Gigabit ar y gweill, a phrosiect y Rhyngrwyd Pethau (IoT) gyda 15 porth ar y gweill. Gosod synwyryddion mewn biniau sbwriel i ddarparu diweddariadau sydd bron yn rhai amser real ar finiau gwastraff cyhoeddus, gan helpu i leihau gorlenwi sbwriel mewn biniau gan eu bod ond yn cael eu gwagio pan fyddant yn llawn, yn hytrach na thrwy ddilyn amserlen benodol. Mae hyn yn arbed amser ac yn lleihau allyriadau drwy osgoi tripiau at finiau gwag. Synwyryddion Diogelwch Dŵr: mae'r synwyryddion hyn yn monitro gorsafoedd diogelwch dŵr yn y Marina bron a bod mewn amser real, sy'n gwella diogelwch y cyhoedd.

Mesurau llwyddiant a gyflawnwyd

Mae prosiectau yn parhau i gael eu gweithredu felly nid yw'r holl ddata ar gael, fodd bynnag mae'r mesurau llwyddiant cynnar a gyflawnwyd yn cynnwys:

  • Llai o alwadau y rhoddir gorau iddynt a gwell mynediad i breswylwyr. Mae'r ffigurau ar gyfer galwadau y rhoddir gorau iddynt wedi gwella ar draws y ganolfan galwadau corfforaethol (o 30% ym mis Ionawr 2024 i 20% ym mis Ionawr 2025) a'r holl ganolfannau galwadau eraill (o 34% ym mis Ionawr 2024 i 25% ym mis Ionawr 2025).
  • Gwelliannau mewn awtomeiddio Cyfrifon Derbyniadwy a Phrosesau Credyd Cynhwysol. Awtomeiddio prosesau hefyd ar gyfer ceisiadau am fagiau, tipio anghyfreithlon, recriwtio, pensiynau, ymweliadau â safleoedd rheoli adeiladau, sylwadau ar geisiadau cynllunio a phrydau ysgol am ddim.
  • Gwella effeithlonrwydd gweithredol drwy ddefnyddio data'r Rhyngrwyd Pethau ar gyfer biniau sbwriel a diogelwch dŵr.
  • Gwelliannau mewn gwastraff masnachol i gwsmeriaid busnes yn fyw, o ganlyniad i'r system newydd.
  • Mae prosiectau'r Fargen Ddinesig ar y gweill. Gweithredu technoleg newydd sy'n lleihau tagfeydd rhwydwaith ffonau symudol yn ystod digwyddiadau a chyfnodau prysur eraill. Mae'r prosiect ffeibr llawn sydd ar y gweill yn gwella cysylltedd a chystadleuaeth.

Goblygiadau ariannol

Y targed arbedion ar gyfer y rhaglen hon yw £628,000 erbyn 2026-27. Ar ôl gosod y gyllideb ar gyfer 2025-26, cafodd hwn ei addasu i £600,000, er mwyn adlewyrchu'r newid i un o'r cynigion gwreiddiol ar gyfer arbedion. Hyd yma, cyflawnwyd £351,000 o'r arbedion. Yn ogystal, mae'r rhaglen yn cefnogi'r gwaith o gyflawni arbedion o £150,000 pellach drwy ei rôl alluogi o fewn Rhaglen Trawsnewid Gwastraff y Dyfodol.

Casgliad

Mae'r Rhaglen Trawsnewid Digidol wedi gwneud cynnydd cadarn ers iddi gael ei chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Ebrill 2023, ac mae momentwm eglur bellach yn cael ei greu ar draws ystod o brosiectau. Er y bydd yn cymryd amser i wireddu'r buddiannau yn llawn, cafodd yr effeithiau cynnar eu nodi a'u holrhain drwy broses rheoli buddiannau ffurfiol. Gwelwyd rhai oediadau o ganlyniad i heriau mewn profi a chaffael y farchnad, ac mae'r cyfyngiadau o ran capasiti mewn meysydd gwasanaeth â galw uchel yn parhau i beri risg. Caiff y rhain eu rheoli'n weithredol gan Fwrdd y Rhaglen Trawsnewid Digidol.
Wrth edrych ymlaen, mae'r blaenoriaethau ar gyfer 2025-26 yn cynnwys cwblhau'r holl brif weithgareddau caffael erbyn mis Mawrth 2026, cynnal y broses o olrhain buddiannau yn rheolaidd, a pharhau i roi gwybod i Fwrdd y Rhaglen am y cynnydd misol. Cynhelir adolygiad blynyddol hefyd i asesu cynnydd ac i lunio'r broses o ddatblygu llif prosiectau wedi'u diweddaru i gyd-fynd ag uchelgeisiau digidol y Cyngor hyd at 2028.

3. Rôl pwyllgorau trawsnewid gwasanaethau

Yn 2024-25, rhoddodd pedwar Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau (STC) y Cyngor fewnwelediad a chefnogaeth hanfodol o dan arweiniad yr Aelodau i'r CTC, gan sicrhau bod gweithgareddau trawsnewid cymhleth yn parhau i fod yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol, profiad bywyd, ac uchelgais strategol. Gan weithio ar draws themâu allweddol - Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur, yr Economi a Seilwaith, Addysg a Sgiliau, a Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi - llwyddodd y Pwyllgorau i helpu i lunio cyfeiriad polisïau, profi syniadau, a chryfhau'r broses o gyflenwi rhaglenni.

Roedd y prif gyfraniadau yn cynnwys:

  • STC Gwasanaethau Addysg a Sgiliau yn cyd-ddatblygu Egwyddorion Cynnydd Disgyblion Abertawe ac yn llunio'r Polisi Ymddygiad ar Barch, Hawliau a Chyfrifoldeb, gyda'r ddau ohonynt yn cefnogi'r trawsnewid mewn ysgolion a chynhwysiant.
  • STC Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi yn dylanwadu ar ddylunio cynlluniau peilot mewn technoleg gynorthwyol, y dull Cymorth Cynnar mewn Gwasanaethau Oedolion, a Strategaeth Trechu Tlodi y Cyngor wedi'i ddiweddaru, gan ymgorffori ffocws ataliol cryfach, sy'n canolbwyntio ar y person.
  • STC Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur yn cynghori ar Strategaeth Wastraff y Dyfodol, Cynllun Ynni Ardal Leol, a mentrau bioamrywiaeth fel Mai Di-dor, gan gryfhau dimensiwn amgylcheddol a chynaliadwyedd y rhaglen drawsnewid.
  • STC yr Economi a Seilwaith yn rhan o weithredu'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, cynnal llwybrau teithio llesol, a datblygu Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl2) - gan helpu i wneud adfywio economaidd a buddsoddi mewn seilwaith yn gydnaws ag anghenion cymunedol hirdymor.

Roedd trafodaethau'r STC yn cael eu bwydo i fyrddau rhaglenni perthnasol ac yn llunio'r diweddariad chwarterol i'r Bwrdd Trawsnewid Corfforaethol. Llwyddodd y llwybr strwythuredig hwn i sicrhau fod safbwyntiau'r Aelodau yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ddyluniad y rhaglen, rheoli risgiau, a gwneud y trawsnewid yn gydnaws â Chynllun Corfforaethol a Chynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor. Wrth i'r agenda trawsnewid barhau i dyfu o ran graddfa a chymhlethdod, mae cyfraniad y STC yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn helpu i lunio cyfeiriad, wynebu heriau, a chefnogi proses gyflawni sy'n ddemocrataidd, cynhwysol ac atebol.

4. Dadansoddi rhyngddibyniaeth

Mae'r CTC yn uno ystod eang o raglenni, gyda phob un â'i flaenoriaethau a'i threfniadau cyflawni ei hun. Ond yn ymarferol, nid yw trawsnewid yn digwydd ar ei ben ei hun. Mae llawer o'r gwelliannau rydym yn anelu atynt yn dibynnu ar sicrhau bod gwahanol rannau o'r cynllun yn cydweithio. Wrth i'r rhaglen aeddfedu, mae'r berthynas rhwng rhaglenni - a'r ddibyniaeth arnynt - yn dod yn bwysicach i'w deall a'u rheoli.

Er mwyn cefnogi hyn, mae'r Bwrdd Trawsnewid Corfforaethol yn defnyddio'r Matrics Rhyngddibyniaeth fel dull byw o olrhain ac asesu'r ffordd mae'r rhaglenni'n rhyngweithio. Mae hyn yn cynnwys achosion pan fyddant yn cael eu galluogi gan adnoddau a rennir, yn dibynnu ar lwybrau cyflawni tebyg, neu'n cyfrannu at ganlyniadau cyffredin. Bu'r matrics yn ddull defnyddiol o ganfod nid yn unig lle mae cynnydd yn atgyfnerthu ei gilydd, ond lle gallai fod gwrthdaro neu risg hefyd.

Ceir rhai cyfuniadau amlwg. Mae'r rhaglen Trawsnewid Digidol yn alluogwr cryf mewn sawl maes - cefnogi gwell mynediad, awtomeiddio a defnyddio data mewn Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, a datblygu'r model Hyb Cymunedol newydd. Yn yr un modd, mae'r rhaglen Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn sail i'r newid mewn diwylliant ac arferion ar draws gwasanaethau, gan gefnogi modelau gweithredu newydd ac ychwanegu at y sgiliau a'r gallu sydd eu hangen i newid. Mae'r ffocws ataliol sy'n rhedeg drwy'r Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, a Galluogi Cymunedau hefyd wedi creu cyfleoedd i ddod â'n gwaith at ei gilydd a lleihau'r galw am wasanaethau mwy dwys ac uwch eu cost.

Mae'r matrics hefyd yn amlygu'r rhyngddibyniaeth cynyddol rhwng rhaglenni buddsoddi cyfalaf, yn enwedig Adfywio, Mwy o Gartrefi ac Ysgolion Cywir yn y Lleoedd Cywir. Mae'r rhaglenni hyn yn rhannu mwy a mwy o lwybrau cyllido, fframweithiau caffael a phwysau i gyflawni—yn enwedig ynghylch uchelgais y Cyngor ar gyfer sero net—sy'n golygu bod dull cydgysylltiedig yn hanfodol i osgoi dyblygiad a sicrhau effaith gyfunol.

Ar yr un pryd, mae'r matrics yn helpu i amlygu tensiynau. Mae sawl rhaglen yn parhau i ddibynnu ar gyllid grant tymor byr, gan godi cwestiynau ynghylch cynaliadwyedd a chynllunio tymor hir. Her arall yw capasiti mewnol - yn enwedig ar draws gwasanaethau galluogi fel AD, Digidol a Chaffael - sy'n cefnogi rhaglenni lluosog yn ddi-oed. Ac wrth i gydgynhyrchu ac ymgysylltu ddod yn fwy canolog i'n dulliau, mae angen i ni sicrhau cydlyniant er mwyn osgoi dyblygu a syrffed ar ymgyngoriadau.

Wrth edrych ymlaen, bydd y Matrics Rhyngddibyniaeth yn parhau i fod yn ddull allweddol i'r Bwrdd Trawsnewid Corfforaethol wrth i ni barhau i reoli risgiau cyffredin, cyfuno ymdrechion i gyflawni, a gwneud y mwyaf o fanteision cydweithio. Bydd y dull cyfunol hwn yn hanfodol os ydym am gyflawni newid cynaliadwy ar draws y system, yn hytrach nag yn unigol. Wrth i'r cynllun esblygu, bydd y rhyngddibyniaeth o fewn y cynllun yn esblygu hefyd-ac mae cynnal amlygrwydd y cysylltiadau hyn yn parhau i fod yn hanfodol i lwyddiant y trawsnewid yn ei gyfanrwydd.

5. Risgiau strategol a mesurau lliniaru

Y Cynllun Trawsnewid Corfforaethol yw un o ymgymeriadau mwyaf arwyddocaol y Cyngor - a chanddo risg strategol allweddol, gan y byddai methu â chyflawni yn creu goblygiadau difrifol o ran cynaliadwyedd ariannol, perfformiad statudol, a galw am wasanaethau yn y dyfodol. Cofnodir y cynllun yn ffurfiol fel risg strategol ac mae'n cael ei reoli'n weithredol gan gyfres benodedig o strwythurau llywodraethu a mesurau rheoli.

Nodir sawl risg strategol arall hefyd yn y Gofrestr sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r rhaglenni trawsnewid. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cynaliadwyedd ariannol, yn enwedig pan fydd rhaglenni'n dibynnu ar gyllid tymor byr neu allanol (e.e. Digidol, Sero Net, ADY, Galluogi Cymunedau), neu pan fydd y broses o gyflawni yn gysylltiedig ag arbedion MTFP. Os bydd oedi mewn gweithredu'r cynllun, neu os na fydd cyllid ar gael, mae'n bosibl na ellir cynnal y broses o ailgynllunio'r gwasanaeth neu na fydd y targedau ariannol yn cael eu bodloni.
  • Cynaliadwyedd y gweithlu, sy'n effeithio ar y broses gyflenwi ar draws sawl rhaglen. Mae'r Gofrestr Risg Strategol yn amlygu'r risgiau sy'n ymwneud â recriwtio, cadw a datblygu sgiliau, yn enwedig mewn meysydd hanfodol fel Gwasanaethau Oedolion, Digidol ac ADY.
  • Risg cyflenwi cyfalaf, yn arbennig o fewn y rhaglenni Mwy o Gartrefi ac Adfywio, lle gall chwyddiant, marchnad anwadal a dibyniaeth ar gynllunio greu oedi neu roi pwysau ar gostau.
  • Y targed Sero Net, sy'n gysylltiedig â risg gradd goch yn y Gofrestr. Mae llwyddo i gyflawni yn dibynnu ar gael mynediad at gyllid cyfalaf, capasiti medrus, ac amgylchedd polisi cefnogol, ac er bod cynllun costau ar waith, mae pwyso a mesur yn gyflym yn parhau i fod yn her sylweddol.
  • Cyfyngiadau i'r capasiti mewnol, yn enwedig ymysg galluogwyr corfforaethol fel AD, Caffael a Digidol, sy'n sail i allu cyflenwi ar draws y portffolio trawsnewid cyfan.

Er mwyn rheoli'r risgiau hyn, mae gan y Cyngor lawer o fesurau rheoli penodol ar waith gan gynnwys:

  • Caiff pob rhaglen drawsnewid ei rheoli gan fwrdd rhaglen penodedig, sydd â rolau eglur, cerrig milltir pendant, a threfniadau cofnodi.
  • Mae'r Bwrdd Trawsnewid Corfforaethol yn rhoi trosolwg trawsbynciol, yn herio cynnydd, yn olrhain rhyngddibyniaeth, ac yn cynyddu risgiau.
  • Caiff y Matrics Rhyngddibyniaeth ei adolygu bob chwarter i ganfod y mannau sydd o dan bwysau, y risgiau cyffredin, a'r heriau ar draws y rhaglenni o ran gosod trefn.
  • Caiff y risgiau sy'n gysylltiedig â rhaglenni unigol eu hymgorffori yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol pan fo hynny'n briodol a'u hadolygu'n rheolaidd gan y Tîm Rheoli Corfforaethol, y Cabinet a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
  • Caiff y risgiau ariannol eu hasesu drwy'r broses Cynllunio Ariannol Tymor Canolig, ac mae'r arbedion sy'n gysylltiedig â thrawsnewid yn amodol ar graffu ychwanegol.
  • Mae pwysau ar y gweithlu yn derbyn sylw drwy Raglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, gyda chymorth cynlluniau'r gweithlu ar lefel y gwasanaeth.
  • Caiff achosion busnes, olrhain buddiannau, a dulliau adolygu ar ôl y prosiect eu hymgorffori er mwyn sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gysylltiedig â chanlyniadau go iawn.

Mae'r rheolaethau hyn yn helpu i gadw gafael, gwella amlygrwydd, a chefnogi'r broses o wneud penderfyniadau amserol. Er bod yr amgylchedd risg cyffredinol yn parhau i fod yn heriol, mae'r dulliau rheoli a chyflawni sydd bellach ar waith yn rhoi sylfaen gadarn i'r Cyngor reoli risgiau yn rhagweithiol a chyflawni'r cynllun mewn ffordd sy'n uchelgeisiol ac yn gyraeddadwy.

Casgliad

Mae'r ail Adroddiad Blynyddol hwn ar y Cynllun Trawsnewid Corfforaethol (CTC) yn rhoi golwg cyflawn ar gynnydd y Cyngor wrth gyflawni newidiadau ystyrlon ar draws gwasanaethau, systemau a chanlyniadau. Caiff y tair rhaglen ar ddeg o fewn y cynllun eu hymgorffori fwyfwy yn y ffordd rydym yn gweithio, ac mae eu heffaith i'w gweld yn glir mewn meysydd fel ataliaeth, mynediad digidol, seilwaith addysg a gwydnwch cymunedol.

Gwelwyd momentwm yn cael ei greu dros y flwyddyn yn y rhan fwyaf o'r rhaglenni, gyda chymorth dulliau llywodraethu cryfach, defnydd gwell o ddata, a dealltwriaeth fwy eglur o'r hyn sydd ei angen i greu newid tymor hir. Llwyddodd y defnydd cynyddol o'r Matrics Rhyngddibyniaeth i'n helpu i gynllunio ac i gyflawni'n fwy cydlynol - gan sicrhau bod y rhaglenni'n gydnaws â'i gilydd, y risgiau yn cael eu hamlygu'n gynnar, a bod galluogwyr cyffredin yn cael eu defnyddio'n fwy effeithiol.

Ar yr un pryd, mae'r adroddiad yn cydnabod y daw risgiau yn sgil trawsnewid. Cymerodd y Cyngor gamau bwriadol i gofnodi ac i reoli'r rhain - boed mewn perthynas â chyllid, capasiti'r gweithlu, cymhlethdodau cyflawni neu ddisgwyliad y cyhoedd. Mae'r gofrestr risg strategol yn adlewyrchu'r realiti hwn, ac ymateb y Cyngor oedd cryfhau'r rheolaethau a'r dulliau llywodraethu sy'n ymwneud â'r cynllun: byrddau'r rhaglenni, dulliau goruchwylio trawsbynciol, craffu ariannol, a'u gwneud yn fwy cydnaws â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

Wrth i'r cynllun symud i'w drydedd flwyddyn, mae'n rhaid parhau i ganolbwyntio ar gyflawni - trosi strategaethau yn ganlyniadau, ac uchelgais yn effaith. Mae hyn yn golygu parhau i weithio ar draws gwasanaethau a chyda phartneriaid, dysgu o'r hyn sy'n gweithio, a mynd i'r afael â heriau yn agored a hyblyg.

Mae'r CTC yn parhau i fod yn rhan hanfodol o barodrwydd y Cyngor at y dyfodol. Nid dim ond cyfres o brosiectau ydyw, mae'n ffordd o weithio sy'n cysylltu gwelliannau, arloesedd a gwydnwch ariannol. Drwy gynnal y cysylltiad hwnnw - a chadw golwg ar risgiau a chyfleoedd - gallwn barhau i greu sefydliad sy'n gallu diwallu'r anghenion presennol ac yn y dyfodol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Hydref 2025