Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau ailsefydlu i bobl â Nam corfforol

Gwybodaeth ar gyfer oedolion y mae angen gwasanaethau adsefydlu arnynt gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a sut y gallwch wneud cais.

Beth yw gwasanaethau ailsefydlu?

Pwy sy'n gymwys am wasanaethau ailsefydlu?

Sut gallaf gael gafael ar y gwasanaeth hwn?

Dod o hyd i'r gefnogaeth y mae ei hangen arnoch

Cyngor a gwybodaeth

Lle darperir gwasanaethau ailsefydlu?

 

 

Beth yw gwasanaethau ailsefydlu?

Gwasanaethau tymor byr yw gwasanaethau ailsefydlu sy'n caniatáu i bobl â nam corfforol fyw'n fwy annibynnol. Yr amcan yw dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau maent wedi cael trafferth gyda hwy, a chwilio am atebion ymarferol i annog mwy o annibyniaeth.

Pwy sy'n gymwys am wasanaethau ailsefydlu?

Mae ein gwasanaethau ar gael ar hyn o bryd i bobl 18-65 oed sydd ag amrywiaeth eang o namau corfforol.

Er mwyn defnyddio'n gwasanaethau, bydd yn rhaid i chi gael asesiad o'ch anghenion cefnogi a bodloni'r meini prawf cymhwyster i dderbyn cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Sut gallaf gael gafael ar y gwasanaeth hwn?

Os ydych eisoes yn derbyn cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, cysylltwch â'ch gweithiwr cymdeithasol neu eich rheolwr gofal.

Os nad ydych yn derbyn cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn o bryd, neu rywun ar eich rhan, dylech gysylltu â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC).

Fel arfer, byddwch yn cael asesiad cychwynnol gan un o'r timau gwasanaethau i oedolion. Os byddant yn nodi anghenion y gellir eu bodloni gan ein gwasanaethau ailsefydlu, caif eich cais ei gyfeirio i Ganolfan Adnoddau Bro Tawe a byddwn yn cysylltu â chi i gynnal asesiad arall o'ch anghenion.

Dod o hyd i'r gefnogaeth y mae ei hangen arnoch

Pan fydd angen cefnogaeth arnoch chi, bydd Therapydd Galwedigaethol yn cwrdd â chi i gwblhau asesiad holistig cychwynnol lle byddwn yn edrych ar eich sgiliau a'ch cryfderau presennol a thrafod yr hyn yr hoffech ei gyflawni. Bydd hyn yn cynnwys eich galluoedd corfforol, eich sgiliau byw'n annibynnol, teithio'n ddiogel ac yn annibynnol, unrhyw ddiddordeb mewn addysg, cyflogaeth neu hamdden rydych am ei ddilyn ac unrhyw gyfarpar a fydd yn ddefnyddiol i chi.

Yna bydd y Therapydd Galwedigaethol yn trafod ac yn cytuno ar gynllun gyda chi ar ba hyfforddiant a chefnogaeth fyddai'n addas i'ch helpu i gyflwyno'ch nodau, ac a fydd yn darparu'r gwasanaeth.

Mae ailsefydlu ar gael mewn amrywiaeth o feysydd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gweithgareddau a fydd yn eich helpu i fyw bywyd iachach, sy'n gallu gwella eich hyder a'ch hunan-barch. Gallai'r rhain gynnwys cyngor ar ymarfer corff neu fwyta'n iach.
  • Rhaglenni sgiliau byw'n annibynnol a fydd yn eich helpu i fod yn fwy annibynnol mewn meysydd megis coginio, glanhau a gweithgareddau hamdden.
  • Hyfforddiant a chefnogaeth gyda Thechnoleg Gwybodaeth a chyfrifiaduron, defnyddio cyfarpar a addaswyd neu rai arbenigol. Y nod yw gwella eich sgiliau cyfathrebu - o'r sylfaenol i gyrsiau a fydd yn gwella eich rhagolygon addysg neu gyflogaeth.
  • Cefnogaeth i'ch caniatáu i ddefnyddio cyfleusterau cymunedol a chyfleoedd cyflogaeth yn annibynnol.
  • Hyfforddiant arbenigol sy'n eich helpu i wella'ch ystod o symudiadau a datblygu diddordeb y byddwch am barhau ag ef yn y gymuned.

Byddwyn yn gweithio gyda chi, ar gyflymdra sy'n addas i chi, i gyflawni'r nod(au) rydych wedi'u dewis. Bydd cyfyngiad amser ar y gwaith y byddwn yn ei wneud gyda chi. I'r rhan fwyaf o bobl, mae hyn yn golygu unwaith y byddwch yn cyflawni eich nod(au), ni fydd angen ein cymorth arnoch bellach.

Cyngor a gwybodaeth

Mae staff yng Nghanolfan Adnoddau Bro Tawe hefyd yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl â nam corfforol a/neu nam ar y golwg, eu teuluoedd, eu ffrindiau a gweithwyr proffesiynol â diddordeb. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar gael mynediad i adeiladau, gwybodaeth a gwasanaethau, defnydd o gyfarpar a thechnegau addasu a gwasanaethau eraill a fydd o ddefnydd.

Adnoddau

Mae gennym amrywiaeth o gyfarpar a gwybodaeth ar gael yn y Ganolfan Adnoddau i chi eu gweld. Gallwn drefnu i aelod o staff eich tywys o amgylch ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Lle darperir gwasanaethau ailsefydlu?

Mae'r staff sy'n darparu cefnogaeth ailsefydlu yng Nghanolfan Adnoddau Bro Tawe, er bod llawer o'u gwaith yn y gymuned. Fel arfer mae'n fwy effeithio gweithio gyda phobl yn eu hardal leol. Fodd bynnag, weithiau byddwn yn darparu hyfforddiant yn y ganolfan.

Canolfan Adnoddau Bro Tawe

Mae Canolfan Adnoddau Bro Tawe yn Ganolfan Adnoddau hygyrch a adeiladwyd at y diben sy'n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i helpu gydag ailsefydlu yn y ganolfan ac yn y gymuned. Mae cyfleusterau'n cynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron, ystafell iechyd a ffitrwydd, adnoddau datblygu sgiliau a chegin ailsefydlu.

Mae ystafell TG a ariennir gan Leonard Cheshire/Microsoft ar gael ar gyfer galw heibio hefyd. Nid oes angen i chi gael asesiad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i ddefnyddio'r ystafell TG hon. Ffoniwch Canolfan Adnoddau Bro Tawe i gael myw o wybodaeth.

 

Therapi galwedigaethol

Mae'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol yn un o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i helpu pobl hŷn a phobl ag anabledd corfforol neu synhwyraidd i fyw mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.
Close Dewis iaith