Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwneud cais i ailarchwilo'ch busnes bwyd

Os ydych wedi cyflawni'r camau gweithredu blaenoriaeth a'r gwelliannau er mwyn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol ers eich archwiliad, gallwch wneud cais am ailarchwiliad o'ch eiddo.

Gallwch wneud cais am ailarchwiliad unrhyw adeg ar ôl yr ymweliad blaenorol. Sylwer mai un ailarchwiliad ar gais a ganiateir, a gall y sgorau aros yr un peth neu ostwng yn ogystal â chodi. Dylai'r cais amlinellu'r achos dros ailarchwiliad, h.y. dylai ddangos y camau gweithredu rydych wedi'u cymryd i unioni'r diffyg cydymffurfio a nodwyd yn yr ymweliad blaenorol a, lle y bo'n briodol, dylai gynnwys tystiolaeth i gefnogi hynny.

Sut i wneud cais am archwiliad i gael sgôr arall

Gwnewch gais ar-lein i'ch busnes bwyd gael ail arolygiad Gwnewch gais ar-lein i'ch busnes bwyd gael ail arolygiad

Gallwch ofyn am archwiliad ailsgorio ar-lein gan ddefnyddio ffurflen gais am archwiliad ailsgorio.

Codir ffi gwerth £180 am ail archwiliad y mae'n rhaid ei thalu pan fyddwch yn cyflwyno cais. Os ydych yn cyflwyno cais ar-lein, gallwch dalu drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd ar yr un pryd ag y byddwch yn llenwi'r ffurflen gais. 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Unwaith y derbynnir cais am ailarchwiliad, byddwn yn asesu'r dystiolaeth a ddarperir er mwyn penderfynu a ydych wedi cymryd camau adfer digonol.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i drafod y cynnydd dros y ffôn i sicrhau yr ymdriniwyd â phob mater o ddiffyg cydymffurfio. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw ailarchwiliad yn effeithiol, gan wneud y defnydd gorau o amser y swyddog yn ogystal â helpu i sicrhau bod busnesau'n cael eu hailarchwilio pan fyddant yn barod ac nid cyn hynny.

Pryd cynhelir yr ailarchwiliad?

Bydd yr ymweliad yn cael ei gynnal ar adeg pan fo'r fangre'n cael ei hysbysebu neu pan wyddys ei bod ar agor, neu ar adeg pan wyddys bod staff yn y fangre'n paratoi bwyd i'w werthu.

Ni allwch ddewis pryd y cynhelir yr ailarchwiliad. Bydd yr ymweliad yn ddirybudd oni bai mewn amgylchiadau eithriadol, y bydd yn angenrheidiol i sicrhau bod staff perthnasol yn bresennol ac na fydd cyhoeddi'r ymweliad yn peryglu diogelwch bwyd.

Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg ar ôl yr archwiliad gwreiddiol. Wedi i chi wneud cais am ailarchwiliad a thalu'r ffi briodol, cynhelir yr ailarchwiliad o fewn tri mis i wneud y cais.

Beth gallaf ddisgwyl yn ystod yr ailarchwiliad?

Ar adeg yr ailarchwiliad, byddwn yn sicrhau bod y gwelliannau gofynnol wedi cael eu gwneud a byddwn hefyd yn asesu lefel y cydymffurfio a welir yn gyffredinol. Mae hyn y golygu y gall y sgôr fynd i fyny, i lawr neu aros yr un peth os yw hyn yn briodol.

Os ydych am apelio yn erbyn y ffaith nad yw eich sgôr wedi gwella neu ei fod wedi gostwng o ganlyniad i'r ailarchwiliad, gallwch ddilyn y broses apelio arferol.

Gwnewch gais ar-lein i'ch busnes bwyd gael ail arolygiad

Os ydych wedi gwneud gwelliannau ers eich ymweliad diwethaf, gallwch ofyn am ail arolygiad. Codir tâl o £180 i wneud hyn.
Close Dewis iaith