Toglo gwelededd dewislen symudol

Ail-doi a gwella ynysiad thermol waliau a lloriau

Os ydych chi'n gosod to gwastad neu oleddf newydd, mae angen i chi wneud cais am Gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu cyn gwneud unrhyw waith ar y to, hyd yn oed os ydych chi'n gosod to tebyg.

Yn gyntaf, i sicrhau bod cyflwr saernïol y to yn gallu cynnal unrhyw newid mewn llwythi o ddeunydd to gwahanol.

Yn ail, efallai bydd Rheoliadau Adeiladu'n gofyn i chi wella ynysiad thermol eich to. Cyflwynwyd y rheoliadau llymach hyn ar gyfer eiddo presennol i sicrhau bod yr holl doeon newydd wedi'u hinswleiddio'n dda ac yn cadw at y safonau effeithlonrwydd ynni newydd er mwyn helpu i fodloni targedau ynni cenedlaethol.

Unwaith y byddwch wedi gwneud y cais Rheoliadau Adeiladu perthnasol, bydd ein syrfëwr yn ymweld â'ch eiddo ac yn ei archwilio cyn i chi ddechrau ar y gwaith i gytuno ar lefelau ynysiad thermol addas. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, cynhelir archwiliad cwblhau. Os bydd y gwaith yn cydsynio â'r Rheoliadau Adeiladu, rhoddir Tystysgrif Cwblhau

Mae'r gofyniad i wella gwerthoedd thermol ar gyfer Rheoliadau Adeiladu hefyd yn berthnasol os ydych chi'n gwneud gwaith i ailrendro, gorchuddio neu blastro waliau (allanol neu fewnol), neu os ydych chi'n codi lloriau mewnol, neu'n tynnu nenfydau presennol i lawr.

Mae rhai gwaharddiadau ar gyfer rhai adeiladau, neu lle mae'r gwaith yn ymwneud â chanran fach o'r waliau, y to, nenfydau neu loriau'n unig.

Ffoniwch Reoli Adeiladu Abertawe ar 01792 635636 i gael rhagor o wybodaeth neu gyngor os ydych chi'n bwriadu gwneud unrhyw waith sy'n cael ei grybwyll uchod.

Close Dewis iaith