Toglo gwelededd dewislen symudol

Ailgylchu masnachol

Gall ailgylchu leihau'r gost i fil gwastraff blynyddol eich cwmni. Mae'r pris am wastraff sydd wedi'i ddidoli i'w ailgylchu yn llai na phris gwastraff sydd angen mynd i safle tirlenwi.

Beth allwch chi ei ailgylchu gyda ni?

Cardbord

Gall cardbord dilwgr rhydd sydd wedi'i wastadu gael ei gasglu am ddim fel rhan o'ch contract gwastraff masnachol, ar yr amod bod y cardbord wedi'i wahanu o wastraff arall. (Dylech gael gwared ar unrhyw bolystyren, plastig, pelenni ewyn, bwyd, tiwbiau carped, sachau tatws, cardiau tenau, cardbord mewn bagiau, blychau pren, hambyrddau plastig neu flychau wyau.)

Gwydr, tuniau a chaniau

Gellir darparu biniau 360l gydag olwynion am £3.75 fesul casgliad neu finiau 1100 litr am £5.80 fesul casgliad ar gyfer casgliadau gwydr, tuniau a chaniau cymysg sy'n gallu cael eu hailgylchu.

Gellir rhoi'r eitemau canlynol yn eich biniau:

Diolch yn fawr

  • poteli a jariau 
  • caniau a thuniau
  • caniau erosol gwag
  • ffoil alwminiwm e.e. ffoil a hambyrddau
  • eitemau bach o nwyddau cegin metel, e.e. sosbenni a phadellau, hambyrddau pobi etc
  • caeadau metel

Dim diolch

  • drychau
  • tuniau paent
  • gwydr plât
  • Pyrex
  • gwrthrychau metel miniog, e.e. cyllyll a ffyrc, etc

Papur

Gellir prynu sachau clir rhagdaledig ar gyfer ailgylchu papur (20 sach ym mhob rholyn a £10.00 am rolyn).

Diolch yn fawr

  • catalogau
  • amlenni
  • post sgrwtsh
  • cylchgronau
  • papurau newydd
  • carpion papur
  • papur swyddfa
  • Yellow Pages
  • cardiau cyfarch  

Dim diolch

  • cartonau
  • pecynnau creision
  • papur/cardbord wedi'i halogi â bwyd e.e. bocsys pizza
  • papur cegin
  • tywelion papur
  • hancesi papur
  • papur wal

Gwastraff bwyd

Os ydy'ch busnes yn cynhyrchu gwastraff bwyd byddwch yn derbyn bin gwyrdd 360 litr gyda chaead oren. Nid ydym yn caniatau gwastraff bwyd yn y bin cyffredin. Gallwch brynu leinwyr ar gyfer y blychau o'r adran hon am gost o £3.00 am rolyn o 20. Mae'r leinwyr hyn wedi'i gwneud o blastig. Peidiwch â defnyddio unrhyw fath arall o leiniwr plastig oherwydd ni fydd eich gwastraff yn cael ei gasglu. Gallwch archebu leinwyr trwy ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.

Diolch yn fawr

  • plicion ffrwythau a llysiau
  • cig
  • pysgod
  • plisg wyau
  • bagiau te
  • bwyd wedi'i goginio
  • pasta
  • reis
  • grawnfwyd
  • hen fara
  • esgyrn bach ynghyd â charcas cyw iâr etc
  • gallwn dderbyn bwyd amrwd mewn symiau bach, cig a physgod oherwydd y system yr ydym bellach yn ei defnyddio. 

Dim diolch

  • plastigion
  • esgyrn mawr
  • card
  • cardbord
  • papur cegin

Plastig

Yn anffodus o ganlyniad i newidiadau mewn systemau ailbrosesu plastigion ni fyddwn yn gallu darparu'r gwasanaeth hwn i gwsmeriaid masnachol mwyach. Cysylltwch â ni os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.

Close Dewis iaith