Y cyfnod cyn y Sioe Awyr - y cyfan y mae angen i chi ei wybod am y trefniadau cau ffyrdd
Bydd amrywiaeth o drefniadau cau ffyrdd dros dro yn sicrhau y gall degau ar filoedd o bobl fwynhau Sioe Awyr Cymru eleni'n ddiogel.
Disgwylir i'r digwyddiad deuddydd â mynediad am ddim gael ei gynnal ar 5 a 6 Gorffennaf, gyda chyfres o arddangosiadau o safon dros Fae Abertawe.
Er y bydd llawer o bobl yn teithio i'r digwyddiad mewn car, mae trefnwyr y digwyddiad, Cyngor Abertawe'n annog ymwelwyr i gerdded, beicio neu deithio i'r digwyddiad ar y trên neu'r bws gyda phartneriaid teithio'r Sioe Awyr, GWR, First Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.
Ddydd Gwener, 4 Gorffennaf, bydd Oystermouth Road ar gau o 12pm ar y ffordd gerbydau tua'r gorllewin yn unig rhwng y gyffordd â Ffordd y Gorllewin a Brynmill Lane.
Yn ogystal, ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, bydd Oystermouth Road hefyd ar gau tua'r dwyrain rhwng Brynmill Lane a Ffordd y Gorllewin o 5am.
Mae hyn yn golygu y bydd Oystermouth Road ar gau i'r ddau gyfeiriad o 5am ar 5 Gorffennaf tan 5am ar 7 Gorffennaf.
Bydd nifer bach o ffyrdd hefyd ar gau yn Sandfields a Pantycelyn Road, Townhill.
Bydd arwyddion i ddangos dargyfeiriadau.
Bydd gwaith ffordd parhaus ar hyd Fabian Way gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn debygol o achosi aflonyddwch dros y penwythnos. Cynghorir preswylwyr i ystyried hyn wrth drefnu cynlluniau teithio ar gyfer Sioe Awyr Cymru.
Ni fydd beicwyr yn gallu cael mynediad i Brom Abertawe, o'r Ganolfan Ddinesig i Sketty Lane, o 7am ar 4 Gorffennaf i 11pm ar 7 Gorffennaf.
Cynhelir mynediad i gerbydau brys a bydd mynediad i'r marina, Ysbyty Singleton a Phrifysgol Abertawe o hyd. Rydym yn y broses o hysbysebu busnesau a sefydliadau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.
Mae trefniadau ar waith ar gyfer trefniadau parcio a mynediad i wylwyr, gyda chyfleusterau fel parcio a theithio ar waith, ac rydym yn annog pobl i archebu lle parcio ymlaen llaw.
Meddai Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe,Tracey McNulty, "Mae diogelwch yn hollbwysig a diolchwn i bobl leol am eu dealltwriaeth. Mae'n bwysig i bobl gynllunio ymlaen llaw ac ymgyfarwyddo â'r newidiadau."
Gall pobl a chanddynt bryderon am ddefnyddio'r ffyrdd neu broblemau sy'n ymwneud â'r digwyddiad dros ddeuddydd y Sioe Awyr ffonio 01792 635428. Ymholiadau eraill: E-bostiwch y tîm Digwyddiadau Arbennig
Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin yn http://www.walesnationalairshow.com/ a Gwybodaeth i Breswylwyr, y mae'r ddwy wefan yn cael eu diweddaru'n rheolaidd.