Yn dod yn fuan - ychwanegiad gwych i'r amffitheatr yng nghanol y ddinas
Mae cynlluniau i adnewyddu'r amffitheatr awyr agored yng nghanol y ddinas yn datblygu'n gyflym yr haf hwn.

Gwnaed gwelliannau i'r grisiau, a gosodwyd canllawiau newydd a phrif gyflenwad pŵer yn y lleoliad poblogaidd gyferbyn ag LC Abertawe.
Nawr mae'r cyngor yn ychwanegu canopi llwyfan deniadol a fydd yn trawsnewid y lleoliad ar gyfer perfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.
Disgwylir i'r gwaith uwchraddio ddechrau yn hwyrach eleni ar ôl i dymor yr haf ddod i ben. Fel rhan o dymor yr haf eleni cynhelir gŵyl gerddoriaeth am ddim Amplitude, sy'n para deuddydd, y mis nesaf.
Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, y bydd y gwelliannau'n creu argraff ac yn ychwanegu bywiogrwydd at y lleoliad sydd rhwng Arena Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Meddai, "Mae'r gwaith hwn i uwchraddio'r amffitheatr yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i ddod â digwyddiadau diwylliannol, cerddoriaeth a chreadigol o safon i'n dinas, gan gynnig rhywbeth newydd a gwahanol i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.
"Gwnaeth gŵyl Amplitude y llynedd brofi bod awydd am gyrchfan awyr agored o'r math hwn i'w ychwanegu at ein rhwydwaith o leoliadau sy'n amrywio o Barc Singleton, lle cynhelir gwyliau mawr, i Arena Abertawe a Theatr y Grand ardderchog, yn ogystal â llawer o atyniadau cerddoriaeth a diwylliannol y sector preifat."
Bydd y canopi arddull hwyl yn gorchuddio'r llwyfan ar waelod yr amffitheatr a'r chwe rhes gyntaf, fel y gall cynulleidfaoedd barhau i fwynhau awyrgylch awyr agored y lleoliad wrth i berfformwyr gael eu cysgodi rhag y tywydd.