Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith trawsnewid ar y gweill ar gyfer yr amffitheatr

Bydd gwaith yn dechrau'r mis hwn i drawsnewid amffitheatr awyr agored y ddinas yn gyrchfan cerddoriaeth ac adloniant nodedig yng nghanol y ddinas.

amphitheatre upgrade generic shot

Gwnaed gwelliannau i'r grisiau a gosodwyd canllawiau newydd a phrif gyflenwad pŵer yn y lleoliad poblogaidd gyferbyn ag LC Abertawe.

Nawr, mae'r gwaith yn dechrau i ychwanegu canopi llwyfan deniadol a fydd yn trawsnewid y lleoliad ar gyfer perfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.

Disgwylir i'r contractwyr Andrew Scott fod ar y safle cyn hir a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn y Nadolig.

Bydd y canopi siâp hwyl yn darparu cysgod i berfformwyr, aelodau'r gynulleidfa a'r systemau goleuo, yn ogystal â darparu profiad cerddoriaeth ac adloniant awyr agored i bawb.

Dywedodd Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, y bydd y gwelliannau yn annog ymwelwyr ac yn dod â bywiogrwydd newydd i'r lleoliad.

Meddai, "Roedd digwyddiad Amplitude yr haf hwn yn yr amffitheatr yn benwythnos am ddim gwych i bobl sy'n dwlu ar gerddoriaeth. Dywedodd perfformwyr hefyd eu bod wedi mwynhau'n fawr, a'u bod yn edrych ymlaen at ddychwelyd y flwyddyn nesaf dan orchudd.

"Mae'r gwaith hwn i uwchraddio'r amffitheatr yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i ddod â digwyddiadau diwylliannol, cerddoriaeth a chreadigol o safon i'n dinas, gan gynnig rhywbeth newydd a gwahanol i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.

Meddai'r Cyng. King, "Bydd yr ychwanegiad hwn yn ehangu ar ddefnyddioldeb y lleoliad yn swyddogol drwy gydol y flwyddyn, gan gefnogi ystod ehangach o ddigwyddiadau diwylliannol a chymunedol, yn ogystal â darparu lleoliad awyr agored unigryw yn Abertawe.

"Mae'r amffitheatr yn un o asedau allweddol y ddinas; mae'n ardal arbennig sy'n chwarae rhan bwysig yn ein parth cyhoeddus a'n hisadeiledd diwylliannol.

"Bydd yn ategu rhai mannau perfformio gwych sydd gennym eisoes o amgylch y ddinas, yn hyrwyddo ac yn cefnogi ein diwydiannau creadigol ac yn cynnig math gwahanol o brofiad i gynulleidfaoedd a pherfformwyr y mae'n anodd dod o hyd iddo mewn mannau eraill.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld y gwaith yn mynd rhagddo dros yr wythnosau nesaf."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Medi 2025