Toglo gwelededd dewislen symudol

Amserau'r Llanw

Dyma'r amserau llanw diweddaraf ar gyfer Bae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr.

Mae Bae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr ym Moryd Hafren ac mae ein traethau a'n morlin yn profi'r ail amrediad llanw uchaf yn y byd. Bydd y môr yn treio a llenwi ddwywaith y dydd gydag uchder cyfartalog o 8.5m.

Ar gyfer yr amserau llanw diweddaraf, ewch i wefan y BBC Coast and Sea Tide Tables (Yn agor ffenestr newydd)

Gall amserau ac uchder y llanw amrywio drwy gydol y mis a gallech gael eich dal os nad ydych wedi paratoi. Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw weithgaredd o gwmpas ein morlin, mae'r RNLI yn eich cynghori i wneud y canlynol er mwyn osgoi cael eich dal gan y llanw:

  • cyn i chi gychwyn, gwnewch yn siŵr ei bod hi'n ddiogel. Gwiriwch amserlenni'r llanw.
  • pan fyddwch allan, byddwch yn ymwybodol o'ch amgylchedd a chyfeiriad y llawn.
Close Dewis iaith