Oedolion ag Anabledd Dysgu
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Abertawe yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu.
Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi casglu adnoddau defnyddiol am Coronafeirws (COVID-19), yn cynnwys rhai canllawiau hawdd eu deall da i bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.
Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth agos ag asiantaethau lleol eraill yn Abertawe wrth ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau cefnogi.
Y Tîm Cynnal Cymedunol ar Gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu
Mae'r Tîm Cynnal Cymunedol yn gweithio i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu y mae'n bosib fod ganddynt anawsterau wrth ddysgu a defnyddio'r sgiliau angenrheidiol i fyw bywyd cyffredin heb gefnogaeth pobl eraill.
Gwasanaethau Anableddau Dysgu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ag anabledd dysgu
Sefydliadau lleol a chenedlaethol sy'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth
Gwybodaeth Iechyd ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu
Mae yna lawer o adnoddau am wybodaeth faterion iechyd ar-lein ar gael i helpu pobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd.
Gwybodaeth i rieni pobl ifanc sy'n trosglwyddo i'r Gwasanaethau i Oedolion.
Trosglwyddo yw'r broses lle mae pobl ifanc ag anableddau'n symud o'r Gwasanaethau i Blant i'r Gwasanaethau i Oedolion.