Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Apeliadau a gwrandawiadau budd-daliadau

Gwybodaeth am sut i apelio os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad a beth sy'n digwydd mewn gwrandawiadau apêl.

Apelio yn erbyn penderfyniad

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut a phryd i apelio ar wefan Cyngor ar Bopeth: Apelio yn erbyn penderfyniad ar fudd-dal (Cyngor ar Bopeth) (Yn agor ffenestr newydd)

Gwrandawiadau apêl

Cynhelir gwrandawiadau yn bennaf naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Gwrandawiadau apêl budd-daliadau yn cael eu cynnal trwy gynadledda dros y ffôn

Mae rhai gwrandawiadau apêl yn cael eu cynnal dros y ffôn. 

Dylech dderbyn hysbysiad o ddyddiad ac amser eich apêl drwy'r post. Bydd nodiadau hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y canllawiau ar gyfer y gynhadledd ffôn. Er enghraifft, mae'n drosedd i recordio'r gwrandawiad er y bydd yn cael ei recordio gan y gwasanaeth tribiwnlys.

Bydd yr hysbysiad yn dweud wrthych fod yr apêl yn cael ei chynnal 'drwy wrandawiad dros y ffôn'. Bydd yn dweud wrthych ba rif ffôn sydd gan y gwasanaeth tribiwnlys ar eich cyfer. Os yw'r rhif yn anghywir neu os ydych am ddefnyddio rhif gwahanol bydd angen i chi gysylltu â nhw gyda'r wybodaeth newydd. Os nad ydych am i'ch apêl gael ei chynnal dros y ffôn, dylech gysylltu â nhw ar y rhif ffôn sydd yn y llythyr ac egluro hyn.

Caiff yr alwad ffôn ei chychwyn gan wasanaeth awtomataidd, nad yw'n gallu gweithredu os oes gennych gyfleuster sgrinio galwadau. Gofynnir i chi gysylltu â'ch darparwr ffôn i ddileu'r gwasanaeth hwn; os nad ydych yn gallu gwneud hyn, rhowch wybod i'r gwasanaeth tribiwnlys.

Fel arfer, rhoddir 14 diwrnod o rybudd ar gyfer gwrandawiad. Mae'r hysbysiad yn egluro, o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol, mae'n bosib y rhoddir llai na 14 diwrnod o rybudd. Mae hefyd yn dweud y gallwch ofyn i ohirio i ddyddiad hwyrach os oes angen mwy o rybudd arnoch. Gallwch hefyd ofyn am hyn os yw'r dyddiad a roddir yn anghyfleus am unrhyw reswm.

Os oes gennych weithiwr cefnogi neu ffrind neu berthynas yr hoffech ei gynnwys yn y gwrandawiad, bydd angen i chi roi gwybod i'r gwasanaeth tribiwnlys a rhoi ei fanylion, gan gynnwys ei rif ffôn. Dylai'r gwasanaeth tribiwnlys gael manylion eich cynrychiolydd os oes gennych un, ond os nad ydych yn siŵr, sicrhewch fod ganddynt y manylion hynny. Gallwch hefyd gael rhywun gyda chi i gadw gwmni i chi ac i'ch cefnogi er, oherwydd y sefyllfa bresennol, ni fydd hyn yn bosib i rai pobl sy'n hunanynysu.

Pan fyddwch yn ateb yr alwad, rhoddir cyfarwyddiadau awtomataidd i chi bwyso *1 ac yna dweud eich enw ar ôl y dôn. Ar ôl hynny bydd y barnwr yn siarad â chi ac yn eich cyflwyno i'r gwrandawiad ac i unrhyw bobl eraill sy'n cymryd rhan.

Cyn y gwrandawiad

Dylid anfon unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth rydych am i'r panel eu hystyried at Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlThEM) yn y modd arferol. Os ydych yn anfon pethau drwy'r post caniatewch amser iddo gyrraedd. Bydd y cyfeiriad ar ohebiaeth gan GLlThEM. 

Dylech gynnwys eich enw, rhif yswiriant gwladol a chyfeirnod apêl ar unrhyw beth y byddwch yn ei anfon. Mae cyfeirnod yr apêl wedi'i nodi yn y llythyr sy'n rhoi manylion y gwrandawiad i chi. 

Os ydych yn poeni na fydd eich gwybodaeth yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer y gwrandawiad, dylech ofyn am ohiriad. Cofiwch, mae'n rhaid i'r wybodaeth gael ei phrosesu a'i e-bostio at aelodau'r panel, a gall hyn gymryd sawl diwrnod ar ôl iddi gael ei derbyn, weithiau'n hirach. Ffoniwch y rhif ar eich llythyr i gael gwybod a dderbyniwyd yr wybodaeth rydych chi wedi'i hanfon. Anfonir copi yn ôl atoch o unrhyw beth y byddwch yn ei anfon i'w ychwanegu at eich papurau apêl, ond os caiff yr wybodaeth ei hanfon ychydig cyn y gwrandawiad, efallai na fyddwch yn ei derbyn yn ôl mewn pryd.

Gallwch e-bostio dogfennau at sscsa-cardiff@Justice.gov.uk - cofiwch nodi eich enw, rhif YG a rhif cyfeirnod yr apêl yn glir yn yr e-bost.

Y gwrandawiad apêl ei hun

Pethau i'w hystyried:

  • Mae'n bosib na fyddwch yn cysylltu â chi 'ar amser'. Gallai eich gwrandawiad fod am 10.00am ac efallai na fyddwn yn eich ffonio tan 10.15am neu'n hwyrach. Mae'r nodiadau a anfonir atoch yn dweud wrthych pa mor hir i aros a pha gamau i'w cymryd os byddwch yn poeni nad yw eich gwrandawiad wedi dechrau.
     
  • Mae manteision ac anfanteision i beidio â gallu gweld y panel neu i beidio â chael eich gweld gan y panel. Efallai y bydd llai o straen o beidio â chael eich gwylio, ond gall iaith y corff helpu pobl i ddeall beth rydych yn ei ddweud a sut rydych yn teimlo. Fodd bynnag, gall fod yn gamarweiniol hefyd. Os ydych yn dibynnu ar iaith y corff llawer, cofiwch hyn. Gall hyn olygu bod angen i chi ofyn i gwestiynau gael eu hailadrodd fwy neu eu haralleirio er mwyn deall yr hyn a ofynnir i chi. 
     
  • Os byddwch yn ateb cwestiwn ac wedyn yn sylweddoli eich bod wedi camddeall a'ch bod wedi rhoi gwybodaeth anghywir, rhowch wybod i'r panel.
     
  • Os ydych yn teimlo bod y panel wedi camddeall neu wedi camglywed eich ateb, dywedwch wrthyn nhw a cheisiwch esbonio.
     
  • Gwnewch eich hun mor gyfforddus â phosib ar gyfer y gwrandawiad. Mantais gwrandawiad dros y ffôn yw y gallwch symud pan fydd angen, a gallwch eistedd, sefyll neu orwedd i lawr.
     
  • Sicrhewch fod eich ffôn wedi'i wefru a'i fod yn gweithio.
     
  • Gofynnwch am seibiant os oes angen un arnoch. Ni ddylid gwrthod hyn. Dylid dod â'r alwad i ben gyda phawb yn roi'r ffôn i lawr a bydd rhywun yn eich ffonio nôl ar amser cytunedig.
     
  • Mae'n iawn i chi ofyn am seibiant er mwyn i chi gael siarad â'ch cynrychiolydd neu'ch gweithiwr cefnogi. Mae hyn yn bwysig os ydych chi'n drysu ac y mae angen cyngor arnoch ynghylch yr hyn sy'n digwydd, yr hyn sy'n cael ei ofyn a'r hyn sy'n ddisgwyliedig ohonoch. Yna gallwch eu ffonio, neu gallant eich ffonio chi, yn y modd arferol yn ystod y seibiant.
     
  • Rhowch wybod i'r panel os ydych yn cael trafferth clywed - a daliwch ati i roi gwybod iddyn nhw os nad yw'n gwella. Peidiwch â cheisio dyfalu yr hyn sy'n cael ei ddweud os na allwch chi glywed yn iawn.
     
  • Os nad ydych yn deall y cwestiwn, gofynnwch iddo gael ei ailadrodd gymaint o weithiau ag sydd angen. 
     
  • Rhowch amser i chi'ch hun i feddwl cyn ateb. Os ydych chi'n cael eich rhuthro neu mae rhywun yn torri ar eich traws cyn i chi orffen siarad, gofynnwch iddyn nhw bwyllo a rhoi rhagor o amser i chi ateb.
     
  • Diffoddwch bob radio, teledu, dyfeisiau digidol megis Alexa a ffonau eraill yn yr ystafell rydych ynddi.
     
  • Peidiwch â sgwrsio â phobl sydd gyda chi yn ystod y gwrandawiad heb roi gwybod i'r panel eich bod chi am wneud hynny. Gofynnwch i unrhyw un sydd gyda chi i beidio â siarad â chi yn ystod y gwrandawiad.

Pwy fydd yn y gwrandawiad

  • Bydd y Panel yn cynnwys 1, 2 neu 3 pherson, yn dibynnu ar y math o wrandawiad. Ar gyfer budd-daliadau anabledd (Taliad Annibynnol Personol, Lwfans Gweini a Lwfans Byw i'r Anabl) bydd 3 aelod panel: Barnwr, meddyg ac aelod lleyg. Ar gyfer budd-daliadau 'Analluedd' (Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chredyd Cynhwysol) bydd barnwr a meddyg ac ar gyfer y rhan fwyaf o wrandawiadau eraill bydd barnwr yn unig. Efallai y bydd 'swyddog cyflwyno' hefyd. Bydd hwn yn rhywun o'r Adran Gwaith a Phensiynau (neu pa adran bynnag a wnaeth y penderfyniad). Nid ydynt ar y panel ac ni fyddant yn cymryd rhan yn y penderfyniad ond gallant ofyn cwestiynau i chi ac egluro eu penderfyniad i'r panel.
     
  • Mae hyn yn golygu y gallai fod nifer o bobl yn cymryd rhan ac ni fyddwch yn gallu gweld pwy sy'n siarad. Dylai'r barnwr egluro hyn drwy esbonio ar bob cam beth sy'n digwydd a phwy sy'n gofyn y cwestiynau.
     
  • Os oes gennych weithiwr cefnogi, ffrind neu gynrychiolydd, ni chaniateir iddynt ateb y cwestiynau ar eich rhan a dywedir wrthynt ar y dechrau i beidio â thorri ar draws. Fodd bynnag, os oes angen i rywun dorri ar draws, gallant wneud hynny drwy ofyn caniatâd ac efallai y caniateir iddynt wneud hynny. Fodd bynnag, efallai y gofynnir iddynt aros tan yn ddiweddarach yn y gwrandawiad cyn siarad. Bydd hyn yn dibynnu ar y barnwr.
     
  • Ar ddiwedd y gwrandawiad byddwch yn cael gwybod oddeutu pryd i ddisgwyl penderfyniad, a fydd yn cael ei anfon atoch drwy'r post fel arfer.
Close Dewis iaith