Talu am wasanaeth copïo
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i dalu am gopïau rydych wedi'u gwneud yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Llenwch y ffurflen isod i dalu am eich eitemau o Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg fel y dyfynnwyd i chi yn eich gohebiaeth â'r archifau. Dewiswch pa wasanaeth copïo sydd ei angen arnoch ac yna nodwch nifer y copïau rydych yn talu amdanynt.
Peidiwch â defnyddio'r ffurflen hon os nad ydych eisoes wedi siarad â ni ynghylch y cais hwn am ymchwil.
Pan fyddwch yn dewis 'Cyflwyno' byddwch yn cael eich cyfeirio i'n system dalu. Sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich holl fanylion banc a mynd rhagddo i gadarnhau'r taliad. Os nad ydym yn derbyn eich taliad, ni fyddwn yn gallu prosesu'ch cais.
Eitem | Ffi |
---|---|
Llungopïau drwy'r post | Isafswm cost £7.00 am 10 copi, 70c am bob copi dilynol |
Sganiau digidol | £2.75 |
Copi hanes llafar | £10.00 |