Abertawe'n cefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog
Gwnaeth Abertawe ddangos ei chefnogaeth ar gyfer y rheini sy'n gwasanaethu dros y penwythnos drwy gynnal gorymdaith a sioe yng nghanol y ddinas i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog.
Roedd digwyddiad lliwgar dydd Sadwrn yn cynnwys cerddoriaeth, stondinau ac adloniant yn St David's Place yn dilyn gwasanaeth eglwys a gorymdaith drwy ganol y ddinas.
Gwnaeth yr Arglwydd Raglaw dderbyn y saliwt ochr yn ochr â'r Arglwydd Faer, y Cynghorydd Cheryl Philpott, yr Uchel Siryf, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y Cyngor, y Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, y Cynghorydd Elliot King, a Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, y Cynghorydd Wendy Lewis.
Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, "Mae'n fraint gallu dathlu'r gwaith angenrheidiol a wneir yn awr ac a wnaed yn y gorffennol gan bersonél lluoedd arfog y genedl.
"Maent yn amddiffyn ein gwlad a'n cymunedau, ac yn rhoi enw da i'r wlad. Bydd y cyngor yn parhau i'w saliwtio a chydnabod eu cyfraniad gwerthfawr."
Trefnwyd y digwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog gan gyn-filwyr ar gyfer cyn-filwyr a'r rheini sy'n gwasanaethu. Roedd y diwrnod yn cynnwys gwasanaeth yn Christchurch yn Sandfields, wedi'i ddilyn gan orymdaith drwy ganol y ddinas dan arweiniad Corfflu Drymiau'r Corfflu Logisteg Brenhinol (RLC). Gwahoddwyd yr holl gymdeithasau, grwpiau cyn-filwyr a grwpiau milwrol i gymryd rhan.
Bydd Sioe Awyr Cymru'r penwythnos nesaf yn cynnwys Pentref y Cyn-filwyr - mae croeso i gyn-filwyr a'u teuluoedd alw heibio.