Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyfodol parciau Abertawe: cyfle i ddweud eich dweud

Mae llawer o barciau gwahanol ledled dinas a sir Abertawe. Er mwyn gwneud y mwyaf o'r rhain i bawb, penodwyd Counterculture gan Gyngor Abertawe i helpu i greu Strategaeth Datblygu Parciau newydd â nodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir.

Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall - er enghraifft, print bras - a wnewch chi e-bostio: contact@counterculturellp.com

Y canlyniad fydd cynllun strategol arloesol i wella isadeiledd y parciau a chysylltu'r amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gyfer twristiaeth, chwarae a hamdden, ymgysylltu â'r gymuned, adfer natur a bioamrywiaeth, cynhwysiant, ymdeimlad o le, iechyd a lles. Er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cynnwys pawb, rydym yn gofyn i breswylwyr a busnesau rannu eu barn a'u syniadau. A wnewch chi lenwi'r arolwg byr hwn erbyn 23 Tachwedd i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Dylai gymryd 15 munud ar y mwyaf.

Bydd y wybodaeth a gesglir drwy'r arolwg hwn yn llywio datblygiad y strategaeth. Ni fydd unrhyw wybodaeth a ofynnir amdani yn gallu adnabod unrhyw unigolion. Mae polisi preifatrwydd y cwmni ar gael drwy fynd i www.counterculturellp.com/privacy

Gellir cyhoeddi eich sylwadau dienw pan fyddwn yn adrodd am ganlyniadau'r ymgynghoriad hwn neu o ganlyniad i gais Rhyddid Gwybodaeth. Bydd sylwadau yr ystyrir eu bod yn sarhaus, yn hiliol, yn enllibus neu'n ymosodol yn cael eu dileu cyn i ni ystyried yr ymatebion i'r arolwg.

Dywedwch eich dweud - llenwch yr arolwg yma

Dyddiad cau: dydd Sul 23 Tachwedd, 23.59pm

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Tachwedd 2025