Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolwg preswylwyr

Dewch i siarad: Byw yn Abertawe. Mae Dewch i siarad: Byw yn Abertawe yn arolwg am breswylwyr sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe.

Os oes arnoch angen yr ymgynghoriad hwn mewn fformat arall, er enghraifft, print bras, e-bostiwch ymgynghoriad@abertawe.gov.uk

Mae Dewch i siarad: Byw yn Abertawe yn arolwg am breswylwyr sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe.

Mae eich llais yn bwysig

Trwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn helpu Cyngor Abertawe i ddeall yn well:

  • Beth sy'n bwysig i chi
  • Eich profiad o'ch ardal leol
  • Sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor

Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl. Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.

Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio

Mae Data Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Abertawe. Bydd gwybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei gweld gan Gyngor Abertawe a Data Cymru yn unig. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am 3 blynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). Bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu i helpu i adnabod ymatebion dyblyg neu amhriodol.

Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddefnyddio ym mholisi preifatrwydd y Cyngor a pholisi preifatrwydd Data Cymru.

Cwblhau'r arolwg

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn 12 Medi 2025.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, neu os cewch unrhyw anhawster wrth gwblhau'r arolwg ar-lein, e-bostiwch consultation@swansea.gov.uk.

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau technegol, cysylltwch ag arolygon@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.

Cliciwch yma i lenwi'r arolwg ar-lein nawr

Mae copïau papur o'r arolwg ar gael ym mhob un o'n llyfrgelloedd neu gallwch lawrlwytho ac argraffu eich copi eich hun: Arolwg breswylwyr cenedlaethol (PDF, 322 KB) neu Arolwg hawdd ei ddeall - eich ardal chi - Abertawe 2025 (PDF, 3 MB).

Gallwch ddychwelyd yr arolwg i unrhyw lyfrgell neu drwy'r post i: Yr Ystafell Ymgynghori, Ystafell 205, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE

Dyddiad cau: 12 Medi, 11.59pm

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Gorffenaf 2025