Trafnidiaeth gymunedol seiliedig ar alw a gwasanaethau tacsi yn ne-orllewin Cymru - dweud eich dweud
Mae Metro Rhanbarthol De-orllewin Cymru, ar y cyd â'r ymgynghorwyr WSP, yn cynnal dadansoddiad manwl o wasanaethau bws a thacsi "ar alw" yn Rhanbarth De-orllewin Cymru (Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot).
Nod yr astudiaeth hon yw nodi set o argymhellion ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol sydd ar y gweill, er mwyn darparu trafnidiaeth seiliedig ar alw mewn modd mwy integredig a gwell i breswylwyr ac ymwelwyr ac annog gweithredwyr tacsis i barhau i wasanaethu'r ardaloedd mwyaf gwledig, y tu allan i oriau brig.
Beth yw trafnidiaeth "ar alw"?
Gellir diffinio trafnidiaeth "ar alw" fel gwasanaeth hyblyg sy'n caniatáu i deithwyr drefnu eu taith ar amser cyfleus, o fan casglu dynodedig i gyrchfan gollwng o'u dewis. Gall hyn gynnwys gwasanaethau trafnidiaeth seiliedig ar alw a thrafnidiaeth gymunedol, yn ôl y diffiniad canlynol:
- Mae trafnidiaeth seiliedig ar alw'n wasanaeth trafnidiaeth a rennir sy'n gweithredu mewn dalgylch penodol. Mae'r gwasanaethau hyn yn addasu eu llwybrau a'u hamserlenni i ymateb i alw teithwyr. Ar hyn o bryd yn y rhanbarth, mae Fflecsi a Dial-a-Ride yn cynnig gwasanaeth o'r fath.
- Mae trafnidiaeth gymunedol yn fath o drafnidiaeth seiliedig ar alw, ond mae'n cynnig atebion a arweinir yn fwy gan y gymuned. Gall trafnidiaeth gymunedol gynnwys rhannu car, gwasanaethau tacsi yn ogystal â hurio cerbydau a darparu trafnidiaeth seiliedig ar alw.
Enghreifftiau o drafnidiaeth 'ar alw' yn y rhanbarth
Ar hyn o bryd yn Rhanbarth De-orllewin Cymru, mae gwasanaethau trafnidiaeth 'ar alw' niferus:
- Cynllun Ceir Gwirfoddol Abertawe
- Cynllun Ceir Gorseinon
- Gower Voluntary Transport
- Pontarddulais and District Community Car Scheme
- DANSA (Dulais, Afan, Castell-nedd, Abertawe ac Aman)
- TAITH Co-op
- DANSA (Dulais, Afan, Castell-nedd, Abertawe ac Aman)
- TAITH Co-op
- Canolfan Maerdy
- Ceir Cymunedol Ystalyfera
- Shopmobility
- Dial a Ride (DaR)
- Dolen Teifi
- Ceir Cefn Gwlad
- Trafnidiaeth Gymunedol y Ddraig Werdd
- Fflecsi
- Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro
- Cymdeithas Trafnidiaeth Wledig Preseli
- Cymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol Maenorbŷr
- The Bloomfield Bus
- Bws y Bobol

https://ctauk.org/community-transport-map
Y gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn
Hyd yn hyn, cwblhawyd gwaith i nodi a dadansoddi argaeledd, graddau a defnydd tacsis presennol, trafnidiaeth seiliedig ar alw a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a ddarperir yn Rhanbarth De-orllewin Cymru. Nod yr ymgynghoriad yw defnyddio eich mewnbwn a'ch adborth i helpu i nodi problemau nas nodwyd yn flaenorol a thrwy hynny ddatblygu argymhellion.
Problemau allweddol a nodwyd
- Cyrhaeddiad gwasanaethau bws sy'n gweithredu ar amserlen
- Ni chydlynir symudiadau'n helaeth rhwng gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol amrywiol yn yr un rhanbarth er mwyn sicrhau bod llai o orgyffwrdd/gystadlu rhwng gwasanaethau
- Caiff meddalwedd amserlennu ei chydlynu mewn modd anghyson a chymhleth ac mae'n rhaid cofrestru ar ei chyfer a'i defnyddio ar sawl platfform
- Ymwybyddiaeth o opsiynau sydd ar gael i deithio yn hytrach na'r car preifat
- Mae argaeledd gwasanaethau tacsi yn canolbwyntio ar ardaloedd mwy trefol oherwydd logisteg a chostau
- Mae cyllid, argaeledd gyrwyr ac oriau gweithredu'n cyfyngu ar wasanaethau
- Mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer trafnidiaeth nad yw'n ymwneud â chleifion brys yn gaeth
- Mae cwmpas band eang gwael mewn ardaloedd gwledig
- Mae gan gyfran uchel o breswylwyr bryderon iechyd a symudedd cyfyngedig
Sut i ddweud eich dweud
Sesiynau galw heibio
- Dydd Llun 14 Gorffennaf, 3.00pm - 7.00pm - Neuadd Bentref Pentrecwrt, Pentre Cwrt, Llandysul, Sir Gaerfyrddin SA44 5BD
- Dydd Mawrth 15 Gorffennaf, 3.00pm - 7.00pm - Neuadd Goffa Treletert, Heol yr Orsaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 5RY
- Dydd Mercher 16 Gorffennaf, 3.00pm - 7.00pm - Neuadd Bentref Horton, Horton, Abertawe SA3 1LW
- Dydd Iau 17 Gorffennaf, 3.00pm - 7.00pm - Tafarn y Crymych Arms, Crymych, Sir Benfro SA41 3RJ
Cliciwch yma i lenwi'r arolwg ar-lein nawr
Dyddiad cau: 11.59pm, Dydd Iau 31 Gorffennaf 2025
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn croesawu eich mewnbwn a'ch adborth i ymdrin â'r problemau a nodwyd a datblygu argymhellion ymhellach. Os nad ydych yn gallu rhoi adborth heddiw neu os ydych yn teimlo'n fwy cyfforddus wrth rannu eich barn drwy e-bost, gallwch anfon e-bost i: SWWDRTandTaxi@wsp.com